13
Gorffennaf, 2001
SYLW I LYFRAU'R HAF
Mae atodiad y Cyngor Llyfrau, Llyfrau'r
Haf, sy'n cynnwys gwybodaeth am y llyfrau
diweddaraf, bellach ar gael. Mae dros 120 o lyfrau'n cael
eu cynnwys yn yr atodiad y tro hwn, gan 19 o'r prif gyhoeddwyr.
Gyda nifer o siopau llyfrau hefyd yn cefnogi, fe fu'n
bosib i'r Cyngor gynhyrchu atodiad 12 tudalen lliw-llawn.
Oherwydd
llwyddiant yr atodiad dros y blynyddoedd diwethaf fe gynyddwyd
y cylchrediad i 45,000 o gopïau eleni. Fe'u dosberthir
yn eang drwy rwydwaith y papurau bro, a hefyd i siopau
llyfrau a llyfrgelloedd ledled Cymru. Yn ogystal, bydd
copïau ar gael ar uned y Cyngor Llyfrau ar faes Eisteddfod
Dinbych ddechrau Awst. Derbyniodd y Cyngor Llyfrau nawdd
hael gan BT tuag at yr atodiad.
'Mae'r atodiadau lliwgar o lyfrau rydym yn eu cynhyrchu
yn un o'n cynlluniau marchnata mwyaf llwyddiannus,' meddai
Phil Davies, Pennaeth Marchnata'r Cyngor Llyfrau. 'Mae
atodiad Gwledd y Nadolig wedi ei hen sefydlu, ac
roeddem yn falch o gael ychwanegu atodiad tebyg i roi
sylw i lyfrau'r haf.
'Mae Llyfrau'r Haf
yn gyflwyniad rhagorol i'r llyfrau newydd sydd ar gael,
ac yr ydym yn sicr y bydd yn ddefnyddiol iawn i'r holl
ddarllenwyr. Os ydych am lyfr neu ddau i'w darllen yr
haf yma, mi gewch flas ar y dewis wrth bori yn Llyfrau'r
Haf.'
'Rydym yn arbennig o ddiolchgar i'n noddwyr am eu cefnogaeth,'
ychwanegodd Phil Davies. 'Eleni, mae mwy o bapurau bro
wedi derbyn yr atodiad, sy'n golygu y bydd mwy o ddarllenwyr
yn derbyn gwybodaeth am lyfrau o Gymru.'
Os nad ydych eisoes wedi derbyn copi o'r atodiad gallwch
gysylltu â'ch siop lyfrau leol neu ag Adran Farchnata'r
Cyngor Llyfrau ar 01970 624151 i sicrhau eich copi. Mae
manylion yr holl lyfrau yn yr atodiad hefyd i'w gweld
ar safle gwe www.gwales.com
y Cyngor Llyfrau.
|
|