Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 
31 Gorffennaf, 2002

GWLEDD O LYFRAU YN NHYDDEWI
 
Fel rhan o raglen weithgareddau’r Cyngor Llyfrau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi eleni, fe fydd Bardd Plant Cymru, Menna Elfyn, yn cael ei hanrhydeddu mewn cyfarfod arbennig yn y Babell Lên am 2 o’r gloch ddydd Mercher, 7 Awst.
 
Cyhoeddwyd mai Menna Elfyn fyddai’n derbyn teitl Bardd Plant Cymru ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd, eleni a bydd cyfle yn Nhyddewi i’w chlywed yn cael ei holi gan Catrin Beard am ei bywyd a’i gwaith.
 
Fe sefydlwyd teitl Bardd Plant Cymru dair blynedd yn ôl, a Menna yw’r ferch gyntaf i dderbyn yr anrhydedd gan ddilyn Myrddin ap Dafydd a Meirion McIntyre Huws (Mei Mac).
 
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol bydd hefyd nifer o lansiadau llyfrau newydd yn cael eu cynnal yn Neuadd Arddangos y Cyngor Llyfrau gyda’r awduron yno’n bresennol i sôn am eu gwaith ac i lofnodi copïau.
 
‘Rydym yn hyderus y bydd hi’n Eisteddfod lwyddiannus,’ meddai Phil Davies, Pennaeth Marchnata’r Cyngor Llyfrau.  ‘Mae’r cyhoeddwyr wedi bod yn hynod o brysur yn paratoi gwledd o lyfrau ar gyfer y darllenwyr, a gallwn eich sicrhau bod yna lyfrau at ddant pawb.’
 
Eisoes mae’r Cyngor Llyfrau wedi dosbarthu 50,000 copi o’r atodiad lliwgar Llyfrau’r Haf, a bydd y cyfan o’r llyfrau ar werth yn y Neuadd Arddangos ac yn y stondinau llyfrau ar hyd a lled y maes.
 
Bydd y cyfrolau canlynol yn cael sylw arbennig yn Neuadd Arddangos y Cyngor Llyfrau yn ystod yr wythnos:
 
Dydd Mawrth, 6 Awst
11.30  Bro a Bywyd: Rhydwen Williams, Emyr Edwards (Barddas)
 
Dydd Mercher, 7 Awst
12.00 Cerddi Fan Hyn: Sir Benfro, Arwel Jones a Mererid Hopwood (Gomer)
 
Dydd Iau, 8 Awst
12.30  Chwarae Mig, Annes Glyn (Gomer)
2.30     The Glyn Dwr Legacy, Bill Bailey (United Writers Publications)
 
Dydd Gwener, 9 Awst
11.00  Ddoe yn Ôl, Menna Cravos (Y Lolfa)
12.30  Cwmtec, Gareth Miles (Carreg Gwalch)
 
 
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag:

Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB
Ffôn (01970) 624151 Ffacs (01970) 625385  : elwyn.jones@cllc.org.uk

  {(}
{)}