Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 
9 Hydref, 2002

ANRHYDEDDU EIN PRIF LENORION

Mae tri o brif lenorion Cymru wedi derbyn yr anrhydedd o fod yn Llywyddion Anrhydeddus i Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru yn ddiweddar.

Gwnaed y penderfyniad i’w gwahodd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyfeillion, a’r tri a anrhydeddir yw Islwyn Ffowc Elis, Emyr Humphreys a Jan Morris.

‘Roeddem wedi teimlo ers peth amser y dylem anrhydeddu rhai o’n prif lenorion,’ meddai Alun Creunant Davies, Cadeirydd y Cyfeillion, ‘ac rydym yn hynod falch bod y tri wedi derbyn yr anrhydedd ac yn ei gwerthfawrogi.’

Mae cyfraniad y tri yn arbennig iawn i fyd llenyddiaeth Cymru gan mor amrywiol a gwahanol eu gyrfaoedd a’u cynnyrch. Ac er iddynt berthyn yn fras i’r un genhedlaeth, maent yn cynrychioli agweddau gwahanol iawn ar lenyddiaeth Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Fel nofelydd arloesol y meddylir am Islwyn Ffowc Elis yn bennaf, a gwyddom hefyd am ei gyfraniad pwysig fel beirniad llenyddol. Daeth Emyr Humphreys i amlygrwydd fel nofelydd ifanc gan ddatblygu hefyd yn fardd a dramodydd teledu. Fel awdur taith y derbyniodd Jan Morris sylw rhyngwladol, ond y mae bellach wedi cyhoeddi nifer o lyfrau’n ymwneud yn benodol â Chymru.

Braint fawr yw cael croesawu tri llenor o’r safon yma yn Llywyddion Anrhydeddus.

Sefydlwyd Cyfeillion y Cyngor Llyfrau i gefnogi gwaith y Cyngor ac y mae’r aelodau yn derbyn gwybodaeth reolaidd am y fasnach lyfrau yng Nghymru, ynghyd â chylchgrawn arbennig a baratoir ar eu cyfer. Mae dros 400 o aelodau ar hyn o bryd a bwriedir cynyddu’r aelodaeth dros y misoedd nesaf.

Y mae’r tri Llywydd Anrhydeddus wedi cofnodi eu diolch a’u gwerthfawrogiad o dderbyn yr anrhydedd:

‘Un o’r storïau mwyaf cyffrous yn hanes ein diwylliant yw datblygiad Cyngor Llyfrau Cymru. Ac yn awr mae gan y Cyngor gorff niferus o Gyfeillion i’w gynnal a’i gefnogi. Braint fawr i unrhyw un yw cael bod yn un o lywyddion y Cyfeillion hyn.’

Islwyn Ffowc Elis

‘Yn yr oes o ddatblygiadau technolegol a chysylltiadau byd-eang mae’r llyfr yn parhau yn gyfrwng holl bwysig. Y mae’n dda gweld felly bod y Cyngor Llyfrau gennym i hybu llyfrau o Gymru.’

Emyr Humphreys

‘Mae bodolaeth y Cyngor Llyfrau nid yn unig yn bwysig o safbwynt cyhoeddi llyfrau yn y ddwy iaith yng Nghymru, ond y mae’n ddatganiad bod y genedl yn rhoi bri ar un o’r elfennau pwysicaf, y gair ysgrifenedig.’

Jan Morris

Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB Ffôn: (01970) 624151 Ffacs: (01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk



  {(}
{)}