|
24
Hydref 2001
MEI
MAC YN YSBRYDOLI'R IFANC

Ysgol
Talybont, Ceredigion, gyda Mei Mac yng Nghorris
Mae
darpar-feirdd o dair ysgol gynradd yng Nghymru wedi cymryd
rhan mewn cyfres o weithdai arbennig a gynhaliwyd gan Fardd
Plant Cymru, Meirion MacIntyre Huws, sy'n cael ei adnabod
gan bawb fel Mei Mac, wrth gwrs.
Yr
ysgolion hyn a ddaeth i'r brig mewn cystadleuaeth a drefnwyd
gan S4C a Chyngor Llyfrau Cymru i annog y gwerthiant o lyfrau
Cymraeg trwy Sbondonics, y clwb llyfrau i blant. Eu gwobr
oedd cael y cyfle i ymuno ag un o weithdai Mei Mac.
Yr
ysgolion a ddaeth i'r brig oedd Ysgol Gymraeg Rhydaman, Ysgol
Gymunedol Tal-y-bont, Ceredigion, ac Ysgol Gynradd yr Eifl,
Trefor, Pwllheli.
Yn
hytrach na chynnal y gweithdai yn yr ysgolion penderfynodd
Mei Mac y byddai'n cynnig ysbrydoliaeth i�r beirdd ifainc
trwy eu tywys i leoliadau cyffrous.
Cynhaliwyd
y gweithdy ar gyfer disgyblion Ysgol Gymraeg Rhydaman yn y
Gerddi Botaneg Cenedlaethol yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin.
Bu'r beirdd ifanc o Ysgol Gymunedol Tal-y-Bont yn ymweld â
Labrinth y Brenin Arthur yng Nghorris, tra cynhaliwyd y gweithdy
ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd yr Eifl ym Mhwerdy Dinorwig
a'r Ganolfan Ymwelwyr yno.
'Roedd
pawb wedi mwynhau eu hunain yn arw, meddai Mei Mac. 'Roedd
yn gyffrous gweld y plant yn ymateb i'w hamgylchedd, ac yn
meddwl am ffurf newydd o gyfathrebu.'
Bydd
gwaith rhai o'r disgyblion yn cael ei gynnwys yng nghyfrol
Bardd Plant Cymru 2001, Rhedeg Ras Dan Awyr Las, a gaiff ei
chyhoeddi'n ddiweddarach eleni.

Mei
Mac yn Ysgol Gymraeg Rhydaman |

Ysgol
yr Eifl, gyda Mei Mac a Lowri Morgan, Uned 5
|
|