|
27
Tachwedd 2003
LLYFRAUR NADOLIG
Jôcs y Noson Lawen, Ryseitiau Dudley, nofelau gan Sonia
Edwards ac Eigra Lewis Roberts, Caneuon John ac Alun a hunangofiannau
Gwenda Owen, Meic Stephens ar darlledwr praff a phigog
hwnnw, Gwilym Owen. Dyma rai or llyfrau syn
cael eu cyhoeddin arbennig ar gyfer y Nadolig eleni,
ac syn cael eu hysbysebu yn atodiad diweddaraf
y Cyngor Llyfrau, sef Gwledd y Nadolig.
Yn ogystal âr atodiad o lyfrau Cymraeg, y maer
Cyngor Llyfrau hefyd wedi cyhoeddi atodiad o lyfrau Saesneg,
Books from Wales, syn llawn or teitlau diweddaraf
ar gyfer yr W?yl.
Mae dewis arbennig o dda o lyfrau ar gyfer y Nadolig
hwn, meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnatar
Cyngor Llyfrau, a gyda theitlau ar gyfer y plant lleiaf,
pobl ifanc ac oedolion, y mae yna ddigon o ddewis i bawb.
Cynhwysir manylion am dros 200 o lyfrau rhwng y ddau atodiad
ac mi fydd y cyfan ar gael yn eich siop lyfrau leol.
Cynhyrchwyd 80,000 copi or atodiad Gwledd y Nadolig
ac y maent eisoes wedi eu dosbarthu trwy rwydwaith y 52 o
bapurau bro a gyhoeddir drwy Gymru benbaladr. Yn ôl
yr arfer, fe geir cystadleuaeth arbennig ar y dudalen gefn
gyda thocyn gwyliau gwerth £250 yn rhodd gan gwmni teithio
Seren Arian, Caernarfon. Fe ddosberthir yr atodiad Books
from Wales gyda rhifyn or Western Mail, gyda chopïau
hefyd yn cael eu dosbarthu ir siopau llyfrau ac ir
llyfrgelloedd. Eleni fe argraffwyd 70,000 copi or
atodiad hwn.
Unwaith eto, maer cyhoeddwyr wedi bod yn brysur
iawn, ychwanegodd Phil Davies, ac mi fydd yr holl
lyfraun sicr och cadwn ddiddig dros gyfnod
y Nadolig.
Am fanylion pellach cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth
Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru,
Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB
T (01970) 624151 F (01970) 625385 elwyn.jones@cllc.org.uk
|