National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

Beth am rannu'r pleser a gewch wrth ddarllen yr haf yma? Dyna nod WYTHNOS LLYFR YN ANRHEG y Flwyddyn Darllen Genedlaethol.

Rhwng 7 a 12 Gorffennaf bydd pobl ym mhob cwr o Gymru'n rhoi llyfrau'n anrhegion i'w teulu, eu ffrindiau a'u cydweithwyr, a hynny'n rhan o WYTHNOS LLYFR YN ANRHEG - y digwyddiad cenedlaethol cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Cewch ymuno a hwyl yr wythnos fel y mynnwch - beth am brynu llyfr newydd i'r plant, rhannu eich hoff nofel gyda'ch ffrind gorau, neu roi ambell deitl i gydweithwyr? Wedi'r cyfan, gwell rhoi na derbyn!

Cewch ragor o wybodaeth ar www.yearofreadingwales.org.uk/giveabookweek neu yn eich siop lyfrau leol.

 

Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2008

Bydd dewis gwych o lyfrau ar werth yn Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy.

Cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2008 mewn seremoni arbennig ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy.

Enillydd y wobr yn y categori cynradd oedd Nicholas Daniels am ei nofel Y Llyfr Ryseitiau: Gwaed y Tylwyth (Dref Wen). Enillydd y wobr yn y categori uwchradd oedd Gareth F. Williams am ei nofel Eira Mân, Eira Mawr (Gomer).

Manylion pellach.

 

Dewis da o Lyfrau

Bydd dewis gwych o lyfrau ar werth yn Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy.

Fe fydd siop lyfrau Bys a Bawd, Llanrwst, yn rhannu stondin gyda'r Cyngor Llyfrau ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni, gan gynnig detholiad gwych o lyfrau i'r cyhoedd. Mae Bys a Bawd hefyd wedi paratoi rhaglen lawn o weithgareddau drwy'r wythnos ac felly cofiwch alw i'n gweld ar y maes.

 

Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2008

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og am 2008, gwobr sy'n cydnabod safon arbennig llyfrau gyda chefndir Cymreig dilys iddynt i blant a phobl ifanc.

Enillydd y wobr Saesneg yw Frances Thomas am ei nofel i bobl ifanc Finding Minerva, Gomer/Pont Books. Noddir y wobr gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru) ac fe'i cyflwynwyd i'r awdur yn ystod derbyniad yng nghynhadledd CILIP yn Llandrindod, Powys.

 

Gŵyl Bedwen Lyfrau 2008

Cynhelir Gŵyl Bedwen Lyfrau yng Nghrymych eleni nos Wener a dydd Sadwrn, 3/4 Mai, ac unwaith eto mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru wedi paratoi gwledd o ddigwyddiadau ar gyfer y cyhoedd. Dyma rai o’r awduron fydd yn ymwela â’r ŵyl: Mererid Hopwood, Lyn Ebenezer, Jenny Ogwen ac Aneurin Jones.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

 

Cymorth i'r Wasg Gymraeg

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol tuag at gefnogi mentrau newydd, blaengar (print ac ar-lein) ym maes papurau newydd a chylchgronau materion cyfoes Cymraeg.

Ceir manylion pellach trwy gysylltu â'r Cyfarwyddwr, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB Ffôn 01970 624151 e-bost castellbrychan@cllc.org.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher, 30 Ebrill 2008.

 

Arwerthiant Llyfrau Hanner Pris

Mae cannoedd o deitlau ar werth am hanner pris neu lai yn Arwerthiant Llyfrau Hanner Pris y Cyngor Llyfrau. Cliciwch Cynigion Arbennig ar dudalen Hafan Gwales i weld y rhestr gyflawn.


Arian Newydd I'r Wasg Brintiedig Cyfrwng Cymraeg

Cafwyd yr ymateb canlynol gan Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, Gwerfyl Pierce Jones: Mae'r Cyngor Llyfrau'n croesawu penderfyniad y Gweinidog i glustnodi £200,000 yn flynyddol dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu a chryfhau'r wasg brintiedig Gymraeg.

Mae'n gynnydd sylweddol ar y cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd ac fel y dangosodd arolwg Tony Bianchi roedd taer angen adnoddau ychwanegol i ddatblygu'r maes. Mae'r arolwg yn cyfeirio'n benodol at safon uchel rhai o'r cyhoeddiadau cyfredol.

Tasg y Cyngor Llyfrau yn awr yw sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl er mwyn datblygu a chryfhau'r maes. Fe fydd Panel Grantiau'r Cyngor yn cyfarfod ym mis Mawrth, ac yn dilyn hynny fe gyhoeddir manylion llawn ynglŷn â sut i wneud cais.

Cyfres Library of Wales

Wrth ymweld ag Ysgol Uwchradd Aberteifi, fe gyflwynodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth, set gyflawn o'r gyfres Library of Wales i ddisgyblion y chweched dosbarth.

Mae'r Library of Wales yn gynllun cyffrous fydd yn dod â nifer o glasuron Saesneg o Gymru yn ôl i brint. Cyhoeddir y gyfres gan gwmni Parthian o Aberteifi gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Llun: Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth yn cyflwyno set o gyfrolau Library of Wales i Daniel Jay a Catrin Powell o Ysgol Uwchradd Aberteifi.

 


Archif Newyddion 2007

Archif Newyddion 2006

Archif Newyddion 2005

Archif Newyddion 2004

Archif Newyddion 2003


Archif Taflen Mewn Print
(Nid yw Taflen 'Mewn Print' yn cael ei gyhoeddi bellach.)

  {(}
{)}