|
DIWRNOD
Y LLYFR: 4 MAWRTH 2004
Maer
gwaith o drefnu dathliadau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru
eisoes ar y gweill. Mae pecyn gwybodaeth cynhwysfawr
i ysgolion wedi ei baratoi a bydd yn cael ei ddosbarthu
ir ysgolion yn fuan.
Unwaith eto y maer pecyn yn llawn deunyddiau difyr
ar gyfer y dathliadau, gan gynnwys posteri lliwgar a
thaflen syniadau. Ceir mwy o wybodaeth hefyd ar
wefan Diwrnod y Llyfr 2004 drwy glicio YMA.
Rydym wedi gwneud ymdrech arbennig eleni i greu
pecyn difyr ir ysgolion, meddai Delyth Humphreys,
cydlynydd gweithgareddau Diwrnod y Llyfr ar ran y Cyngor
Llyfrau, ac rydym yn sicr y bydd miloedd o ddisgyblion
yn cael pleser a mwynhad or digwyddiad.
|
|
BLAS
AR GYMRU YM MHARIS A DULYN
Maer Cyngor Llyfrau wrthin trefnu ymgyrch
arbennig yn siopau W.H. Smith, Paris, ac Easons, Dulyn,
i ddathlu Dydd Gw�yl Ddewi. Fe fydd yr ymgyrch
Blas ar Gymru yn hyrwyddo detholiad o lyfrau
gan gynnwys teitlau taith, coginio, llenyddiaeth a hanes.
Bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal am bythefnos, o 25
Chwefror hyd at 10 Mawrth.
Dyma gyfle gwych i chwifio baner Cymru,
meddai Bridget Shine, Swyddog Marchnata Tramor y Cyngor
Llyfrau, ac i hyrwyddo llyfrau ardderchog o Gymru.
|
|
ELUSENNAU
CYMRUN CEFNOGI DIWRNOD Y LLYFR
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr a gynhelir ddydd
Iau 4 Mawrth, mae aelodau o Sefydliad y Merched yng
Nghymru yn brysur yn casglu llyfrau iw cyflwyno
i siopau nifer o elusennau yng Nghymru. Fel rhan
or ymgyrch fe fydd y siopau elusen yn arddangos
posteri Diwrnod y Llyfr yn eu ffenestri.
Y llynedd, bu Barnardo, y Groes Goch, Tenovus, Ty� Gobaith
yng Nghymru, Oxfam, Ty� Hafan, Byddin yr Iachawdwriaeth
ac Ymchwil Cancr Cymru yn rhan or dathlu, ac eleni
maer R.S.P.C.A. a Sefydliad Prydeinig y Galon
hefyd wedi ymuno â hwy.
Rydym yn ddiolchgar iawn ir holl elusennau
am eu cefnogaeth, meddai Delyth Humphreys, cydlynydd
gweithgareddau Diwrnod y Llyfr ar ran y Cyngor Llyfrau,
ac yn eu llongyfarch am fanteisio ar y diwrnod
i godi arian at achosion teilwng.
|
|
RHESTR
FER GWOBRAU TIR NA N-OG 2004
Y teitlau isod sydd ar y rhestr fer eleni:
Ffuglen Oraur
Flwyddyn
Y Fo yn y Tŷ,
Mair Wynn Hughes (Gwasg y Bwthyn)
Iawn Boi?;-),
Caryl Lewis (Y Lolfa)
Mewn Limbo,
Gwyneth Glyn (Y Lolfa)
Llyfr goraur
Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen
Ffeithiau Ffwtbol,
Gary Pritchard (Dref Wen)
Mae Modfedd yn Llawer Mewn Trwyn,
gol. Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch)
Stori Dafydd ap Gwilym,
Gwyn Thomas a Margaret Jones (Y Lolfa)
Llyfr Saesneg Goraur
Flwyddyn
A Wind From the Sea,
Jennifer Morgan (Pont Books/Gomer)
The Battle of Mametz Wood, 1916,
Robert Phillips (CAA)
Now That Ive Found You,
Rex Harley (Pont Books/Gomer)
Weird Tales from the Storyteller,
Daniel Morden (Pont Books/Gomer)
Bydd enwaur enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn
rhaglen deledu ar Ddiwrnod y Llyfr, dydd Iau, 4 Mawrth.
|
|
DATHLU
DIWRNOD Y LLYFR
Bydd
gweithgareddau Diwrnod y Llyfr yn cael eu lansio mewn
steil ym mhencadlys y Cyngor Llyfrau gyda brecwast arbennig
yn gynnar fore Iau, 4 Mawrth. Bydd y brecwast
Cymreig yn sail dda i ddiwrnod prysur o weithgareddau
a gynhelir drwy Gymru.
Bydd nifer o awduron, gan gynnwys Anwen Francis, Mair
Wynn Hughes a Brenda Wyn Jones, yn rhan o daith arbennig
yn ymweld â siopau llyfrau; bydd gweithgareddau
llyfraun cael eu cynnal mewn coedwigoedd drwy
Gymru dan faner Menter Coedwigaeth; bydd y nofel Snogs
a Sgribls Hogan Flêr, Gwen Lasarus, ar gyfrol
o farddoniaeth, Hen Wragedd a Ffyn ac Eira Gwyn, (gol.
Myrddin ap Dafydd) yn cael eu lansio ar y dydd, ac yn
Llyfrgell Rhuthun mae noson Blas Mwg yn
addo cyfle i flasu gwin, siocled a llyfrau!
Ar Ddiwrnod y Llyfr hefyd fe gyhoeddir enwau enillwyr
Gwobrau Tir na n-Og 2004 ar rhestr fer o lyfrau
ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn.
Maen amlwg y bydd hwn yn ddiwrnod iw
gofio yng Nghymru, meddai Delyth Humphreys ar
ran y Cyngor Llyfrau. Gobeithiwn yn fawr
y bydd pobl o bob oed yn gallu ymuno yn y dathliad ac
yn cael cyfle i brofir pleser o fwynhau llyfrau.
|
|
LLOND
SACH O LYFRAU
Maer Cyngor Llyfrau newydd gyhoeddi eu hatodiad
o lyfrau, Gwledd y Nadolig, ac y maen llawn or
detholiad diweddaraf o lyfrau ar gyfer yr Ŵyl.
Eisoes fe ddosbarthwyd yr atodiad drwy rwydwaith y papurau
bro, ac fe fydd yn gymorth mawr i ddarllenwyr brwd ddod
o hyd i anrhegion arbennig ar gyfer eu cyfeillion.
Unwaith eto mae yma wledd o lyfrau ar eich cyfer
y Nadolig yma, meddai Phil Davies, Pennaeth Adran
Farchnatar Cyngor Llyfrau. Gobeithio
y cewch i gyd gyfle i ddarllen y llyfrau gwych a baratowyd
ar eich cyfer.
|
|
CYFARFOD
BLYNYDDOL Y CYNGOR LLYFRAU
Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau yn Wrecsam
yn ddiweddar ar wahoddiad y Maer, y Cynghorydd Aled
Roberts.
Bun gyfarfod hynod lwyddiannus, a chafodd Gwerfyl
Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, gyfle i
gyflwynor Adroddiad Blynyddol i sylwr aelodau.
Maer Adroddiad yn gyflwyniad o waith y Cyngor
yn ystod y flwyddyn a gellir ei ddarllen drwy glicio
YMA.
|
|
DIWRNOD
Y LLYFR
Mae Pwyllgor Llywio Diwrnod y Llyfr eisoes wedi bod
yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer gweithgareddau y
flwyddyn nesaf a gynhelir ddydd Iau, 4 Mawrth 2004.
Y maer pecyn gwybodaeth i ysgolion a llyfrgelloedd
wrthin cael ei baratoi ac fe fydd yn cael ei ddosbarthun
fuan yn y flwyddyn newydd.
Y maer gefnogaeth i Ddiwrnod y Llyfr yn
cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, meddai Delyth Humphreys,
cyd-lynydd y gweithgareddau ar ran y Cyngor Llyfrau,
ac mae pethaun argoelin dda iawn ar
gyfer y flwyddyn nesaf. Mae ysgolion ledled Cymru
eisoes wedi dechrau cysylltu â ni i drafod eu
rhaglen o weithgareddau.
Beth am ymuno yn hwyl y Diwrnod? Cysylltwch â
Delyth Humphreys ar (01970) 624151 neu delyth.humphreys@cllc.org.uk
|
|
Enillwyr
Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol
Cynhaliwyd
seremoni gyntaf Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol dan
nawdd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Chyngor Llyfrau
Cymru yng Nghaerdydd ddydd Llun 24 Tachwedd, fel rhan
o Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth
Cynulliad Cymru. Cadeirydd y panel gwobrau oedd Glenys
Kinnock ASE.
|

Or dde ir chwith, Alan
Wells (Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol),
Gwerfyl Pierce Jones (Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau
Cymru), Siân Lloyd, Ray Gravell, Rhodri
Owen
|

Enillwyr y Brif Wobr, Hillary
Koll a Steve Mills, awduron Fast Forward Maths,
cyhoeddwyd gan Hodder and Stoughton
|

Glenys Kinnock ASE, Cadeirydd
y Panel Terfynol
|
Y
cyhoeddwyr buddugol yw:
Gwobr
i'r Prif Enillydd:
Hodder and Stoughton:
Fast Forward Maths
Hilary Koll a Steve Mills.
Gwobrau
Grŵp Oedran Cynradd
Llythrennedd:
llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y
Saesneg:
A&C Black:
Go Facts: Animal Starter Pack
Paul McEvoy, Katy Pike a Sharon Dalgleish
Llythrennedd:
llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y
Gymraeg:
Y Ganolfan Astudiaethau Addysg, Aberystwyth:
Cyfres Clic 1 a 2
Deunyddiau
heblaw llyfrau:
Catch Up (Prifysgol Oxford Brookes gyda chefnogaeth
y Caxton Trust):
The Catch Up Programme
Dee Reid, Diana Bentley a Suzi Clipson-Boyles
Dyfal Donc Addasiad Anne Kenyon
Gwobrau
Grŵp Oedran Uwchradd
Llythrennedd:
llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y
Saesneg:
Gwasg UWIC:
New Plays from Wales for Young People, awduron
amrywiol
Llythrennedd:
llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y
Gymraeg:
Gwasg Gomer:
Cyfres Saeth, Awduron amrywiol
Rhifedd:
llyfrau neu gyfresi naill ai yn y Gymraeg neu'r Saesneg
Hodder andStoughton:
Fast Forward Maths
Hilary Koll a Steve Mills
Gwobrau
ar Gyfer Deunydd i Oedolion
Llythrennedd:
llyfrau neu gyfresi sgiliau sylfaenol drwy gyfrwng y
Saesneg:
Cwmni cyhoeddi David Fulton:
Literacy for Childcare Students - a Basic Skills
Guide (rhan o'r gyfres Excellence in Childcare)
June Green
|
|
AIL-LANSIO
TOCYNNAU LLYFRAU
Maer Cyngor Llyfrau newydd ail-lansio eu cynllun
tocynnau llyfrau drwy baratoi tocynnau a chardiau newydd
sbon. Maer cynllun tocynnau llyfrau wedi
ei hen sefydlu, ond yr oedd y Cyngor yn awyddus i roi
gwedd newydd, ffres ar y cardiau.
Mae tocyn llyfr yn gallu bod yn anrheg ddelfrydol,
meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnatar
Cyngor Llyfrau, ac rydym yn hynod o falch or
delweddau newydd sydd wedi eu paratoi.
Gellir prynur tocynnau llyfrau newydd yn eich
siop lyfrau leol.
|
|
YN
ÔL I BOWYS
Ym
Mhowys y cynhaliwyd y Gynhadledd Llyfrau Plant gyntaf
un, ac y maen briodol bod y Cyngor Llyfrau yn
dychwelyd yno eleni gydai chynhadledd ar ôl
pum mlynedd ar hugain, a honno ar yr un thema, sef Plant
au Darllen.
Unwaith eto y mae yna raglen wych o siaradwyr wedi ei
pharatoi ar gyfer y cynadleddwyr. Bydd y ddarlith
agoriadol yn cael ei chyflwyno gan Alan Gibbons, awdur
llwyddiannus o ardal Lerpwl. Yn 2000 enillodd
ei gyfrol Shadow of the Minotaur wobr Blue Peter.
Yn ogystal, fe geir cyflwyniad gan nifer o awduron ifanc
yn cynnwys Gwyneth Glyn, Caryl Lewis, Nia Jones, Anwen
Francis ac Aled Richards. Yn ystod y gynhadledd,
fe fydd Tlws Mary Vaughan Jones yn cael ei gyflwyno
i Elfyn Pritchard am ei gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth
plant, ac fe gyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Tir na
n-Og.
Maen argoeli i fod yn gynhadledd arbennig
iawn, meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran
Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau. Mae croeso
i unrhyw un gysylltu â ni am fwy o fanylion ac
i ymuno â ni yng ngwestyr Metropole, Llandrindod,
ar nos Wener a dydd Sadwrn, 78 Tachwedd.
|
|
Y
GWEINIDOG ADDYSG YN LANSIO LLYFR
Daeth Jane Hutt, y Gweinidog Iechyd, ar ymweliad âr
Cyngor Llyfraun ddiweddar i lansio llyfr a gyhoeddwyd
yn arbennig i roi sylw i ymgyrch cancr y fron.
Maer llyfr Sexy Shorts for Christmas yn cynnwys
casgliad o straeon byrion ac mae amrywiaeth y deunydd
wedi cyfrannu at lunio cyfrol a fydd yn sicr o apelio
at ddant pawb.
Cyhoeddir y gyfrol gan Accent Press, sef cwmni cyhoeddi
newydd wedii leoli yn Noc Penfro. Sefydlwyd y
cwmni gan Hazel Cushion, gan gyfunoi phrofiad
blaenorol o weithio ym myd cyhoeddi ac elusennau i gyhoeddir
gyfrol.

Jane
Hutt (centre) amongst some of the authors (from left)
Jo Mazelis, Lynne Barrett-Lee. Lesley Cookman, Bernadine
Kennedy and the publisher Hazel Cushion.
Photo - Cambrian News
|
|
MANON
YMYSG FFRINDIAU
Bur
cyfarfod diwethaf o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau yn hynod
lwyddiannus, pryd y bur Athro M. Wynn Thomas yn
sgwrsio gydar awdur Manon Rhys am ei bywyd ai
gwaith.
Cafwyd cyfle i glywed Manon yn trafod ei dyddiau cynnar
yn y Rhondda ar Rhyl, gan gyfeirio at ddylanwad
ei mam ai thad ar ei gwaith. Drwy holi treiddgar
Wyn Thomas cawsom olwg bersonol ar waith yr awdur poblogaidd
yma.
Am fwy o fanylion am Gyfeillion y Cyngor Llyfrau gellir
cysylltu ag Elwyn Jones elwyn.jones@cllc.org.uk
|
|
CYHOEDDWYR
CYMRUN TARGEDUR FARCHNAD DRAMOR
Fe drefnwyd seminar hawliau tramor yn ddiweddar gan
Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru Dramor ar
gyfer cyhoeddwyr o Gymru.
Y ddau asiant llenyddiaeth a fun arwain y seminar
oedd Ray-Güde Mertin o Frankfurt, Yr Almaen a Tuvia
Fogel o asiantaeth Il Caduceo ym Milan, Yr Eidal. Roedd
eu cyflwyniadaun llawn gwybodaeth ddefnyddiol
a chynghorion ymarferol. Bur diwrnod yn hynod
o fuddiol ir cyhoeddwyr, ac yn enwedig ir
rhai fydd yn mynychu Ffair Lyfrau Frankfurt yn ddiweddarach
eleni.
Noddwyd y seminar gan Masnach Cymru Dramor
|
|
ANFON
LLYFR YN ANRHEG I GANADA
Yn
ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod cafodd Alun
Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, yr iaith Gymraeg
a Chwaraeon, y cyfle i brofi apêl gwefan gwales.com
drwy anfon llyfr yn anrheg iw fodryb yng Nghanada.
Rwyn falch fod Llywodraeth y Cynulliad wedi
gallu darparu cyllid er mwyn rhoi apêl ehangach
i gwales.com i gyrraedd cynulleidfa newydd, meddai.
Gyda gwybodaeth am dros 20,000 o lyfrau ar y wefan,
maen ddull hynod effeithiol i gael yr wybodaeth
ddiweddaraf am lyfrau o Gymru gyda chyfle i archebun
ddiogel ar-lein neu drwy siop lyfrau leol.
|
|
CYSTADLAETHAU
LLYFRAU CYMRAEG 2003
Cynhaliwyd rownd derfynol y Cystadlaethau Llyfrau Cymraeg
yn Aberystwyth yn ddiweddar. Eleni, am y tro cyntaf,
roedd dwy gystadleuaeth, un ar gyfer plant Blwyddyn
3 a 4 ac un arall ar gyfer plant Blwyddyn 5 a 6.
Daeth 26 o dîmau i gystadlu yng Nghanolfan y Celfyddydau,
Aberystwyth ac fe gafwyd diwrnod byrlymus, bywiog a
llwyddiannus iawn.
Roedd pob tîm yn gorfod darllen stori fer a gomisiynwyd
yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth, ac yna trafod
eu syniadau amdani gydar beirniad. Roedden
nhw hefyd wedi paratoi cyflwyniad dramatig o lyfr ou
dewis.
Eleni, y tîmau a ddaeth ir brig ym Mlwyddyn
3 a 4 oedd:
1af Ysgol Twm or Nant, Dinbych
2il Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd
3ydd Ysgol y Login Fach, Abertawe
Ysgol
Bro Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr
Yng nghystadleuaeth Blwyddyn 5 a 6 y buddugwyr oedd:
1af Ysgol Edern, Gwynedd
2il Ysgol Llanddoged, Conwy
3ydd Ysgol Gymraeg Pontadawe, Nedd a Phort
Talbot
Llongyfarchiadau ir plant ac iw hathrawon.
|
|
CERI
WYN JONES
BARDD PLANT CYMRU 2003-2004
Mewn
seremoni ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam,
fe gyhoeddwyd mai Ceri Wyn Jones yw Bardd Plant Cymru
am eleni.
Yn enedigol o Aberteifi, y maer cyn-athro bellach
yn gweithio ym myd llyfrau fel golygydd yng Ngwasg Gomer,
Llandysul. Y maen fardd o fri, ac ef a enillodd
gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1997.
Yn ystod ei flwyddyn fel Bardd Plant Cymru fe fydd Ceri
Wyn yn ymweld ag ysgolion i gynnal gweithdai barddoniaeth
ac yn cyfansoddi cerdd comisiwn arbennig. Fe fydd
hefyd yn cyfrannu at wefan newydd Bardd Plant Cymru.
Cliciwch YMA
i gael mwy o wybodaeth am Ceri Wyn.
|
|
COFIO
DYLAN THOMAS (1914 1953)
Fel
rhan o raglen y Cyngor Llyfrau i hybu llyfrau o Gymru
dramor, mae posteri o Dylan Thomas wedi eu paratoi,
a byddant iw gweld mewn siopau llyfrau yn rhai
o brifddinasoedd Ewrop.
Eleni, rydym yn coffáu marwolaeth y bardd
o Abertawe hanner can mlynedd yn ôl, meddai
Bridget Shine, Swyddog Marchnata Dramor y Cyngor Llyfrau,
a hyderwn y bydd cofio un o awduron enwocaf Ewrop
yn ffordd effeithiol, hefyd, o gyflwynor darllenwyr
i lyfrau eraill o Gymru.
|
|