National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

LLYFRAU'R NADOLIG AR Y TELEDU
 
Eleni eto mae'r Cyngor Llyfrau wedi paratoi cyfres o hysbysebion teledu mewn cydweithrediad â'r cyhoeddwyr. Mae pedair hysbyseb wedi eu ffilmio'n arbennig i roi sylw i lyfrau'r Nadolig.
 
Mae dwy hysbyseb yn canolbwyntio ar lyfrau Cymraeg i oedolion, un ar lyfrau Cymraeg i blant ac un arall ar ddetholiad o lyfrau Saesneg.
 
'Rydym yn sicr bod yr hysbysebion newydd hyn yn gam mawr ymlaen i hybu'r llyfrau diweddaraf,' meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata'r Cyngor Llyfrau, 'ac eisoes rydym wedi cael ymateb ffafriol iddynt gan y cyhoedd.'
 
Fe ddechreuwyd dangos yr hysbysebion ddechrau Tachwedd a byddant i'w gweld ar S4C hyd at y Nadolig. Paratowyd hwy gan gwmni Tonfedd Eryri.



ATODIAD O LYFRAU SAESNEG

 
Mae'r Cyngor Llyfrau newydd gyhoeddi atodiad o lyfrau Saesneg, Books from Wales, yn llawn o'r llyfrau diweddaraf ar gyfer y Nadolig.  Bydd yr atodiad yn cael ei ddosbarthu gyda'r Western Mail.
 
'Unwaith eto mae'r cyhoeddwyr wedi llwyddo i baratoi llyfrau at ddant pawb,' meddai Phil Davies, Pennaeth Marchnata'r Cyngor Llyfrau. 'Mae yma lyfrau deniadol i blant yn ogystal â dewis helaeth o lyfrau i oedolion.'
 
Ymysg y llyfrau deniadol mae cyfrol y cyflwynydd Jamie Owen ar arfordir Cymru – Magic Harbour, a hunangofiant Dai Jones Llanilar – Dai and Let Live.  Fe geir hefyd gnwd o nofelau hynod ddarllenadwy – Skin Deep, Jacqueline Jacques, Fire and Water, Hayley Long a Rebecca and the Angels, Brian John.
 
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am arlwy'r Nadolig ar wefan gwales.com.



TARGEDU'R IFANC
 
Yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr fe fydd y Cyngor Llyfrau yn cynnal ymgyrch arbennig i annog pobl ifanc i ddarllen llyfrau Cymraeg. Fe ganolbwyntir yn arbennig ar ddisgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 gan dargedu 44 o ysgolion uwchradd Cymru.
 
Dewiswyd 14 o lyfrau addas yn rhan o'r ymgyrch ac fe gynhyrchwyd taflen liwgar yn eu hyrwyddo.
 
Gwahoddwyd Cwmni Theatr Arad Goch o Aberystwyth i gyflwyno detholiad o'r llyfrau yn yr ysgolion er mwyn codi blas ar y disgyblion i'w prynu a'u darllen. Erbyn diwedd yr ymgyrch fe fydd y cwmni wedi cyflwyno 52 o berfformiadau.



YMWELIAD O LYDAW

Bu dirprwyaeth o Lydaw ar ymweliad ag Aberystwyth yn ddiweddar gan gyfarfod cynrychiolwyr o'r Cyngor Llyfrau. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr yng ngwaith y Cyngor yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r diwydiant llyfrau yma yng Nghymru.

Yn y llun gwelir Christian Guyonvarc'h (chwith), Is-Lywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw a Dewi Morris Jones, Pennaeth Adran Olygyddol y Cyngor Llyfrau.



LLYFRAU'R NADOLIG – YR ANRHEGION PERFFAITH!
 
Gyda'r Nadolig o fewn ychydig wythnosau mi ddaeth yn amser meddwl am yr holl anrhegion arbennig y byddwch am eu rhoi i'ch teulu a'ch ffrindiau. Eleni, bydd gennych ddewis gwych o lyfrau  ar gyfer pob oedran. Mae yna nofelau, cofiannau, llyfrau taith a hanes, yn ogystal â dewis arbennig o lyfrau ar gyfer y plant.
 
Mae'r cyfan i'w gweld yn yr atodiad Gwledd y Nadolig sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddosbarthu drwy'r papurau bro. Bydd copïau hefyd ar gael yn eich siop lyfrau a'ch llyfrgell leol.
 
Bydd atodiad o lyfrau Saesneg o Gymru yn cael ei gyhoeddi'n fuan.
 
Os am fwy o wybodaeth am lyfrau'r Nadolig cliciwch www.gwales.com i gael golwg ar yr holl ddewis sydd ar gael.



CYFARCHION I GYFAILL
 
Cynhaliodd Cyfeillion y Cyngor Llyfrau gyfarfod arbennig yn ddiweddar i gofnodi cyfraniad yr Athro M. Wynn Thomas i lenyddiaeth Cymru yn y ddwy iaith.
 
Yn ystod y cyfarfod, a gynhaliwyd yn Aberystwyth, cafodd Wynn ei holi gan Dr Tony Brown o Adran Saesneg Prifysgol Cymru, Bangor am ei gefndir a'i ddiddordebau eang a'i gariad at lenyddiaeth Cymru.  Yn dilyn cafwyd teyrnged gan yr awdur Manon Rhys a'r Athro Hywel Teifi Edwards.
 
Bu'n gyfarfod hynod lwyddiannus ac roedd yn bleser gan y Cyfeillion gael cyfle i dalu teyrnged i'r Athro Thomas am ei waith yn hybu llenyddiaeth Cymru.



DERBYN CADAIR I GOFIO AWDUR
 
Cyflwynodd teulu'r diweddar Islwyn Ffowc Elis gadair i'r Cyngor Llyfrau – cadair yr eisteddai'r awdur arni i ysgrifennu sawl un o'i nofelau, gan gynnwys y nofel Cysgod y Cryman.  Cyhoeddwyd y nofel honno yn 1953 a chafodd ei dewis yn Llyfr y Ganrif yn 2000.

'Roedd Islwyn yn un o'r rhai oedd yn ymwneud â'r Cyngor Llyfrau ers y dyddiau cynnar,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau. 'Fe fu hefyd yn aelod o'r staff ac yn olygydd y cylchgrawn Llais Llyfrau; yn fwy diweddar fe'i dewiswyd yn un o Lywyddion Anrhydeddus Cyfeillion y Cyngor Llyfrau.'
 
Enillwyd y gadair gan Islwyn Ffowc Elis yn Eisteddfod Lewis's, Lerpwl, yn 1947.

 

 



CYLLID YCHWANEGOL AR GYFER YSGRIFENNU SAESNEG YNG NGHYMRU
 
Mae cyllid ychwanegol o £250,000 wedi ei glustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol (2004/05).  Bydd £185,000 o'r cyfanswm hwn yn cael ei neilltuo ar gyfer tri chynllun newydd:
 
1 Blaendaliadau i Awduron / Cynllun Comisiynu
2 Cynllun Penodi (cefnogi swyddi)
3 Grantiau Marchnata

Mae'r gweddill wedi'i neilltuo ar gyfer cyfres clasuron a gwobrau i'r diwydiant.
 
Mae papur ymgynghorol yn manylu ar y tri chynllun ar gyfer ysgrifennu newydd wedi ei gyhoeddi gan Gyngor Llyfrau Cymru ac fe wahoddir ymateb i'r papur erbyn 20 Awst 2004.
 
Gwahoddir cyhoeddwyr hefyd i gynnig am grant dan y cynllun hwn erbyn 20 Awst a 15 Tachwedd 2004.
 
DOGFEN YMGYNGHOROL: Cliciwch YMA
 
YSGRIFENNU SAESNEG YNG NGHYMRU: ADOLYGIAD
http://www.cymru.gov.uk/cynulliaddata/N0000000000000000000000000019364.pdf
 
DATGANIAD YSGRIFENEDIG Y CABINET:
http://www.cymru.gov.uk/organicabinet/content/statements/2004/050504-resp-cwls-rep-w.doc

 

 

ADOLYGIAD POLISI: YSGRIFENNU CYFRWNG SAESNEG YNG NGHYMRU

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal Adolygiad Polisi o Ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru yn ystod yr hydref a gwahoddwyd cyfraniadau erbyn diwedd Awst.
 
Bydd y Cyngor Llyfrau'n cyfrannu'n llawn i'r Adolygiad ac anfonwyd papurau (cliciwch y papur i lwytho) i ystyriaeth y Pwyllgor.



STRATEGAETH FARCHNATA GYTÛN
 

Bu gweithgor yn cynrychioli gwahanol sectorau'r diwydiant cyhoeddi a grwpiau perthnasol eraill wrthi'n ddiweddar yn paratoi strategaeth farchnata gytûn ar gyfer y fasnach lyfrau yng Nghymru.
 
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, y mae fersiwn terfynol y strategaeth bellach yn barod ac mae'n bosibl ei gweld drwy glicio ar y clawr.
 
Ar ran y gweithgor, cyflwynodd y Cyngor Llyfrau gopi o'r ddogfen derfynol i Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon.

Cliciwch i'w lwytho (PDF 150k)

 

 



Y GWEINIDOG DIWYLLIANT YN YMWELD Â'R CYNGOR LLYFRAU

Bu Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, ar ymweliad â'r Cyngor Llyfrau yn ddiweddar.  Yn ystod yr ymweliad cafodd gyfle i alw yn y Ganolfan Ddosbarthu, gan weld yr ystod eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg sydd mewn stoc yno.  Cafodd hefyd gyfle i ymweld â Chastell Brychan, pryd y cafwyd cyfle i sôn am rai o brif wasanaethau'r Cyngor ym maes marchnata, golygu, dylunio a hybu llyfrau plant.
 
'Roedd yn bleser cael croesawu'r Gweinidog ar ei ymweliad,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, 'a hynny yn ystod cyfnod adolygiad polisi Cynulliad Cenedlaethol o ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru.'



CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN CROESAWU ARIAN YCHWANEGOL AR GYFER YSGRIFENNU SAESNEG O GYMRU
 
Cafodd cyhoeddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru bod £250,000 ychwanegol i'w neilltuo ar gyfer Ysgrifennu Saesneg o Gymru ei groesawu'n fawr gan Gyngor Llyfrau Cymru.
 
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau: 'Croesewir y cyhoeddiad pwysig ac amserol hwn gan Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, a golyga bod modd dechrau ar y gwaith o ddatblygu Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.
 
'Bydd angen buddsoddi pellach yn ystod y cylch ariannu nesaf, yn arbennig ar gyfer gweithredu'r Strategaeth Farchnata Gytûn ar gyfer y diwydiant cyfan, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gostio.  Rydym wedi ein calonogi gan ymateb cychwynnol y Gweinidog i'r adroddiad hwn sy'n garreg filltir, ac sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth ar draws y pleidiau o fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.'
 
Ychwanegodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd Panel Grantiau (Saesneg) y Cyngor Llyfrau, 'Mae'r datblygiad hwn yn garreg filltir o bwys gan ei fod yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wnaed gan Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru i ddealltwriaeth y genedl ohoni'i hun.  Y mae'r Cynulliad Cenedlaethol drwy hyn yn cydnabod hynodrwydd diwylliant mwyafrifol y Gymru gyfoes ac wedi sylweddoli mai hwn yw llythyr cyflwyno Cymru i'r gymuned ryngwladol.'
 
Gellir darllen testun cyhoeddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy glicio YMA.



LLYWODRAETH Y CYNULLIAD YN CEFNOGI'R CLASURON
 
Fel rhan o'r drafodaeth ar Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, cyhoeddodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, y bydd yr Athro Dai Smith yn arwain ymgyrch gan Lywodraeth y Cynulliad i roi llyfrau Clasurol Cymreig yn ôl yn y siopau llyfrau, y llyfrgelloedd a'r ysgolion.
 
Gellir darllen testun cyhoeddiad y Gweinidog drwy glicio YMA.



BARDD PLANT CYMRU

Ddydd Mawrth, 2 Mai, mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn cyhoeddwyd mai Tudur Dylan Jones yw Bardd Plant Cymru 2004 - 2005. Bydd yn ymweld ag ysgolion yn ystod y flwyddyn ac yn cynnal gweithdai barddoniaeth gyda phlant ar y we.



ENILLWYR CYSTADLEUAETH LLYFR Y FLWYDDYN 2004
 
Llyfr Cymraeg – Llwch Cenhedloedd, Jerry Hunter (Gwasg Carreg Gwalch)
 
Llyfr Saesneg – Stump, Niall Griffiths (Jonathan Cape)



CYFEILLION Y CYNGOR LLYFRAU
 
Mae pecyn gwybodaeth diweddaraf  Cyfeillion y Cyngor Llyfrau newydd gael ei baratoi a'i ddosbarthu i'r aelodau.
 
Y mae'r pecyn y tro hwn yn cynnwys yr atodiad Llyfrau'r Haf, rhestr gwerthwyr gorau a rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gael eu hadolygu ar wefan www.gwales.com. Y mae'r pecyn hefyd yn cynnwys tocyn mantais i'w gyfnewid mewn siop lyfrau leol.
 
Os am wybodaeth bellach am aelodaeth o'r Cyfeillion, cysyllter ag Elwyn Jones yn y Cyngor Llyfrau elwyn.jones@cllc.org.uk



YMWELD Â W H SMITH
 
Bu Rosemary Butler, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, yn ymweld â'i changen leol o W H Smith yng Nghasnewydd i gefnogi'r cynllun diweddaraf i hybu ysgrifennu Saesneg o Gymru.
 
Yn ogystal ag arddangos detholiad o lyfrau o Gymru a hyrwyddo eu cynllun Llyfr y Mis, mae siopau W H Smith trwy Gymru yn arddangos llyfrau ymgyrch Summer Reading a drefnwyd gan Literary Publishers Wales a'r Cyngor Llyfrau.

 
Matthew Jarrett o W H Smith, Casnewydd gyda Rosemary Butler AC.



GWOBR I LYFR O GYMRU

 
Mae cyfrol o straeon gan wasg Honno, a ddisgrifiwyd fel cyfrol 'unigryw' a 'chwyldroadol', wedi ennill gwobr yn Llundain yn ddiweddar.
 
Daeth y gyfrol Laughing, Not Laughing – Women Writing on 'My Experience of Sex', a ysgrifennwyd gan 26 o fenywod rhwng 20 a 60 oed, i'r brig yng nghategori cyhoeddiadau y Gwobrau Erotig.
 
Dywedodd Nicola Caddock o wasg Honno, a dderbyniodd y wobr ar ran yr awduron: 'Mae'r wobr hon yn dysteb arbennig o ddewrder y menywod hyn yn rhannu eu profiadau personol â ni.'
 
Mae'r casgliad, a olygwyd gan Catherine Merriman, hefyd wedi ei ddewis yn Llyfr y Mis gan W H Smith ar gyfer mis Medi.

 

 



CYDNABOD CYFRANIAD YR ATHRO M. WYNN THOMAS

 
Cynhelir cyfarfod arbennig o Gyfeillon y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 2 Hydref, pryd y bydd cyfle i gydnabod cyfraniad arbennig yr Athro M. Wynn Thomas i lenyddiaeth Cymru yn y ddwy iaith.
 
Fe geir cyfraniadau gan Hywel Teifi Edwards, Manon Rhys a Tony Brown ac mae croeso cynnes i chi ymuno â ni ar yr achlysur arbennig hwn.
 
Cynhelir y cyfarfod yng Nghanolfan St. Paul's, Aberystwyth, am 2 o'r gloch

 



ROBIN McBRYDE YN CEFNOGI CLWB DARLLEN
 
Mae clwb llyfrau Sbondonics wedi llwyddo i sicrhau cynnig arbennig iawn i'r darllenwyr y tymor hwn drwy gynnig nifer cyfyngedig o'r llyfr Ffeithiau Rygbi wedi eu llofnodi gan arwr y maes rygbi, Robin McBryde, bachwr Cymru a'r Llewod , a chapten tîm Sgarlets Llanelli.
 
'Rydym yn ddiolchgar iawn i Robin am gefnogi'r clwb ac i Wasg y Dref Wen am sicrhau'r trefniadau,' meddai Delyth Humphreys ar ran y Cyngor Llyfrau. 'Mae'r llyfr yn profi'n boblogaidd iawn ac rydym eisoes wedi derbyn nifer fawr o archebion.'



DERBYN CADAIR I GOFIO AWDUR
 
Cyflwynodd teulu'r diweddar Islwyn Ffowc Elis gadair i'r Cyngor Llyfrau – cadair yr eisteddai'r awdur arni i ysgrifennu sawl un o'i nofelau, gan gynnwys y nofel Cysgod y Cryman.  Cyhoeddwyd y nofel honno yn 1953 a chafodd ei dewis yn Llyfr y Ganrif yn 2000.

'Roedd Islwyn yn un o'r rhai oedd yn ymwneud â'r Cyngor Llyfrau ers y dyddiau cynnar,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau. 'Fe fu hefyd yn aelod o'r staff ac yn olygydd y cylchgrawn Llais Llyfrau; yn fwy diweddar fe'i dewiswyd yn un o Lywyddion Anrhydeddus Cyfeillion y Cyngor Llyfrau.'
 
Enillwyd y gadair gan Islwyn Ffowc Elis yn Eisteddfod Lewis's, Lerpwl, yn 1947.

 

 



CYLLID YCHWANEGOL AR GYFER YSGRIFENNU SAESNEG YNG NGHYMRU
 
Mae cyllid ychwanegol o £250,000 wedi ei glustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol (2004/05).  Bydd £185,000 o'r cyfanswm hwn yn cael ei neilltuo ar gyfer tri chynllun newydd:
 
1 Blaendaliadau i Awduron / Cynllun Comisiynu
2 Cynllun Penodi (cefnogi swyddi)
3 Grantiau Marchnata

Mae'r gweddill wedi'i neilltuo ar gyfer cyfres clasuron a gwobrau i'r diwydiant.
 
Mae papur ymgynghorol yn manylu ar y tri chynllun ar gyfer ysgrifennu newydd wedi ei gyhoeddi gan Gyngor Llyfrau Cymru ac fe wahoddir ymateb i'r papur erbyn 20 Awst 2004.
 
Gwahoddir cyhoeddwyr hefyd i gynnig am grant dan y cynllun hwn erbyn 20 Awst a 15 Tachwedd 2004.
 
DOGFEN YMGYNGHOROL: Cliciwch YMA
 
YSGRIFENNU SAESNEG YNG NGHYMRU: ADOLYGIAD
http://www.cymru.gov.uk/cynulliaddata/N0000000000000000000000000019364.pdf
 
DATGANIAD YSGRIFENEDIG Y CABINET:
http://www.cymru.gov.uk/organicabinet/content/statements/2004/050504-resp-cwls-rep-w.doc



EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CASNEWYDD
 
Croeso cynnes i chi i gyd alw i'n gweld yn Neuadd Arddangos y Cyngor Llyfrau ar faes yr Eisteddfod yng Nghasnewydd.
 
Mae nifer o lansiadau wedi eu trefnu yn y Neuadd yn ystod yr wythnos ac fe fydd holl lyfrau'r
Ŵyl ar werth yno.



YMWELD Â W H SMITH
 
Bu Rosemary Butler, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, yn ymweld â'i changen leol o W H Smith yng Nghasnewydd i gefnogi'r cynllun diweddaraf i hybu ysgrifennu Saesneg o Gymru.
 
Yn ogystal ag arddangos detholiad o lyfrau o Gymru a hyrwyddo eu cynllun Llyfr y Mis, mae siopau W H Smith trwy Gymru yn arddangos llyfrau ymgyrch Summer Reading a drefnwyd gan Literary Publishers Wales a'r Cyngor Llyfrau.

 
Matthew Jarrett o W H Smith, Casnewydd gyda Rosemary Butler AC.



CYFEILLION Y CYNGOR LLYFRAU
 
Mae pecyn gwybodaeth diweddaraf  Cyfeillion y Cyngor Llyfrau newydd gael ei baratoi a'i ddosbarthu i'r aelodau.
 
Y mae'r pecyn y tro hwn yn cynnwys yr atodiad Llyfrau'r Haf, rhestr gwerthwyr gorau a rhestr o'r llyfrau diweddaraf i gael eu hadolygu ar wefan www.gwales.com. Y mae'r pecyn hefyd yn cynnwys tocyn mantais i'w gyfnewid mewn siop lyfrau leol.
 
Os am wybodaeth bellach am aelodaeth o'r Cyfeillion, cysyllter ag Elwyn Jones yn y Cyngor Llyfrau elwyn.jones@cllc.org.uk



Y CYNGOR YN Y SIOE    
 
Eleni eto fe fydd gan y Cyngor Llyfrau uned ar faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd. Mae'r holl drefniadau eisoes mewn llaw ac fe fydd detholiad da o'r llyfrau diweddaraf ar gael yno.
 
'Rydym yn sicr y cawn sioe lwyddianus unwaith eto,' meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata'r Cyngor Llyfrau. 'Fe fydd llyfrau Cymraeg a Saesneg ar werth yno a bydd ein staff yn barod i'ch cynghori gyda'ch dewis. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.'



ENILLWYR CYSTADLEUAETH LLYFR Y FLWYDDYN 2004
 
Llyfr Cymraeg – Llwch Cenhedloedd, Jerry Hunter (Gwasg Carreg Gwalch)
 
Llyfr Saesneg – Stump, Niall Griffiths (Jonathan Cape)



LLYFRAU'R HAF

 
Mae'r Cyngor Llyfrau newydd gyhoeddi eu hatodiad blynyddol o lyfrau'r haf gan ei ddosbarthu'n eang drwy'r papurau bro. Eto eleni, mae'r atodiad Llyfrau'r Haf yn cynnwys detholiad gwych o deitlau newydd gyda rhywbeth at ddant pawb.
 
'Mae'n rhaid diolch i'r cyhoeddwyr a'r llyfrwerthwyr am eu hymateb,' meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata'r Cyngor Llyfrau. 'Gyda'u cymorth hwy rydym unwaith eto wedi gallu cynhyrchu atodiad o'r safon uchaf.'
 
Cyhoeddwyd 60,000 copi o'r atodiad ac mae copïau hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd a siopau llyfrau drwy Gymru.

 

 



BARDD PLANT CYMRU

Ddydd Mawrth, 2 Mai, mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn cyhoeddwyd mai Tudur Dylan Jones yw Bardd Plant Cymru 2004 - 2005. Bydd yn ymweld ag ysgolion yn ystod y flwyddyn ac yn cynnal gweithdai barddoniaeth gyda phlant ar y we.






RHESTR FER LLYFR Y FLWYDDYN 2004

 
Fe gyhoeddwyd teitlau'r llyfrau sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn mewn achlysur arbennig yng Ng
ŵyl y Gelli ddydd Llun 1 Mehefin.
 
Llyfrau Cymraeg
 
Gororau'r Iaith, Jason Walford Davies, Gwasg Prifysgol Cymru
Llwch Cenhedloedd, Jerry Hunter, Gwasg Carreg Gwalch
Dyn yr Eiliad, Owen Martell, Gwasg Gomer
 
Llyfrau Saesneg
 
Stump, Niall Griffiths, Jonathan Cape
Old People are a Problem, Emyr Humphreys, Seren
Keeping Mum, Gwyneth Lewis, Bloodaxe
 
Cyhoeddir enwau'r enillwyr mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ar 17 Mehefin.



G
ŴYL Y GELLI
 
Eleni eto fe fydd cannoedd o ddarllenwyr brwd yn heidio i
Ŵyl y Gelli, a bydd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chyhoeddi yno ddydd Llun, 31 Mai.
 
Fe fydd y Cyngor Llyfrau yn cael ei gynrychioli ar stondin Llywodraeth Cynulliad Cymru ac edrychwn ymlaen at eich croesawu yno yn ystod yr
Ŵyl.



LLYWODRAETH Y CYNULLIAD YN CEFNOGI'R CLASURON
 
Fel rhan o'r drafodaeth ar Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, cyhoeddodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, y bydd yr Athro Dai Smith yn arwain ymgyrch gan Lywodraeth y Cynulliad i roi llyfrau Clasurol Cymreig yn ôl yn y siopau llyfrau, y llyfrgelloedd a'r ysgolion.
 
Gellir darllen testun cyhoeddiad y Gweinidog drwy glicio YMA.



CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN CROESAWU ARIAN YCHWANEGOL AR GYFER YSGRIFENNU SAESNEG O GYMRU
 
Cafodd cyhoeddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru bod £250,000 ychwanegol i'w neilltuo ar gyfer Ysgrifennu Saesneg o Gymru ei groesawu'n fawr gan Gyngor Llyfrau Cymru.
 
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau: 'Croesewir y cyhoeddiad pwysig ac amserol hwn gan Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, a golyga bod modd dechrau ar y gwaith o ddatblygu Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.
 
'Bydd angen buddsoddi pellach yn ystod y cylch ariannu nesaf, yn arbennig ar gyfer gweithredu'r Strategaeth Farchnata Gytûn ar gyfer y diwydiant cyfan, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gostio.  Rydym wedi ein calonogi gan ymateb cychwynnol y Gweinidog i'r adroddiad hwn sy'n garreg filltir, ac sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth ar draws y pleidiau o fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.'
 
Ychwanegodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd Panel Grantiau (Saesneg) y Cyngor Llyfrau, 'Mae'r datblygiad hwn yn garreg filltir o bwys gan ei fod yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wnaed gan Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru i ddealltwriaeth y genedl ohoni'i hun.  Y mae'r Cynulliad Cenedlaethol drwy hyn yn cydnabod hynodrwydd diwylliant mwyafrifol y Gymru gyfoes ac wedi sylweddoli mai hwn yw llythyr cyflwyno Cymru i'r gymuned ryngwladol.'
 
Gellir darllen testun cyhoeddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy glicio YMA.



CLYBIAU LLYFRAU SBRI-DI-RI A SBONDONICS
 
Mae taflenni gwerthu lliwgar y ddau glwb llyfrau plant, Sbri-di-ri a Sbondonics, newydd eu dosbarthu i ysgolion a chylchoedd meithrin yng Nghymru.
 
'Unwaith eto mae'r taflenni yn cynnwys detholiad gwych o lyfrau ar gyfer y plant,' meddai Delyth Humphreys o Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau, 'ac wrth nodi oed darllen ar gyfer bob teitl rydym yn falch o gael cynnig cymorth i rieni wrth iddynt ddewis llyfrau addas ar gyfer eu plant. Oherwydd bod testun y taflenni'n ddwyieithog, mae hyn o gymorth pellach i rieni sy'n dysgu Cymraeg gyda'u plant.'



DETHOLIAD O LYFRAU POBLOGAIDD
 
Taflen Gwanwyn o Gyfrolau Gwych yw'r diweddaraf i'w chyhoeddi dan adain Cynllun Ymestyn y Cyngor Llyfrau. Mae'r daflen yn cynnwys detholiad difyr o lyfrau Cymraeg poblogaidd a bydd yn cael ei dosbarthu i'r siopau llyfrau, llyfrgelloedd ac amrywiol sefydliadau yn fuan.
 
'Mae detholiad gwych o lyfrau yn y daflen,' meddai Emma Evans, Swyddog y Cynllun Ymestyn. 'Rydym yn hyderus y bydd y cyhoeddiad lliwgar hwn, sy'n cynnwys amrywiaeth o nofelau, barddoniaeth, bywgraffiadau a chofiannau, yn hwb ychwanegol i hyrwyddo llyfrau Cymraeg.'



Cyfeillion y Cyngor Llyfrau

 
Yn y rhifyn diweddaraf o gylchlythyr Cyfeillion y Cyngor Llyfrau,
Y Cyfaill, mae'r Cadeirydd, Alun Creunant Davies, yn cofnodi ei deyrnged bersonol i'r diweddar Islwyn Ffowc Elis, a fu mor gefnogol i waith y Cyngor Llyfrau dros y blynyddoedd.
 
Mae'r rhifyn hefyd yn cynnwys cyfweliad â Kirsti Bohata, Swyddog Grantiau'r Cyngor Llyfrau, rhestr o hoff lyfrau Mari Elis, yn ogystal ag adroddiad am gyfarfod diwethaf y Cyfeillion pryd y bu'r Athro M. Wynn Thomas yn holi'r awdur Manon Rhys am ei gwaith.
 
Mae'r cylchlythyr yn cael ei ddosbarthu i holl aelodau'r Cyfeillion gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y fasnach lyfrau yng Nghymru. Am wybodaeth sut i ymaelodi â'r Cyfeillion cysylltwch ag Elwyn Jones elwyn.jones@cllc.org.uk

 

 

Lansio Adroddiad y Cynulliad ar Ysgrifennu Saesneg o Gymru
 
Yn ystod lansiad adroddiad Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad ar Ysgrifennu Saesneg o Gymru, dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, bod y ddogfen yn gyfraniad pwysig i'r drafodaeth ar ddatblygu'r maes pwysig hwn. 'Does dim amheuaeth,' meddai, 'y byddai'r argymhellion, o'u gweithredu yn eu cyfanrwydd, yn gallu trawsnewid Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.'
 
Mae'r adroddiad yn rhoi'r prif sylw i gefnogi a datblygu holl strwythur y sector gyhoeddi, gan gyfeirio at arian comisiynu i awduron, cryfhau strwythurau'r tai cyhoeddi, buddsoddi mewn marchnata ac annog siopau i hyrwyddo'r llyfrau hyn.
 
'Mae'r Cyngor Llyfrau yn ffyddiog y bydd y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ymateb yn ffafriol i'r adroddiad hwn,' ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones. 'Drwy gydweithio â'n gilydd gallwn sicrhau bod ysgrifennu Saesneg o Gymru'n cael y sylw y mae'n ei haeddu.'

 

 

CYSYLLTU AG YSGOLION
 
Y mae'r pecyn diweddaraf o wybodaeth am gynnyrch addysgol wedi cael ei anfon i bob ysgol yng Nghymru gan y Cyngor Llyfrau. Y mae'r pecyn, sy'n cael ei ddosbarthu unwaith y tymor, yn cynnwys gwybodaeth am lyfrau, posteri deniadol a chatalogau amrywiol.
 
'Rydym yn ymwybodol bod yr athrawon yn gwerthfawrogi'r pecynnau hyn yn fawr,' meddai Lila Piette ar ran y Cyngor Llyfrau. 'Y mae hefyd yn ffordd effeithiol i ni sicrhau bod gwybodaeth am lyfrau o Gymru yn cael ei hanfon yn uniongyrchol i'r ysgolion.'
 
Mae croeso i unrhyw un gysylltu â Lila Piette lila.piette@cllc.org.uk os am wybodaeth bellach am y pecynnau.

 

 

LLWYDDIANT LLUNDAIN
 
Roedd gan y Cyngor Llyfrau stondin yn Ffair Lyfrau Llundain eto eleni, a bu'r ffair yn gyfnod hynod o brysur i'r staff oedd yno. Yn ogystal â chynrychioli nifer o gyhoeddwyr o Gymru, gan arddangos eu llyfrau, cafwyd cyfle i wneud nifer o gysylltiadau defnyddiol o fewn y diwydiant llyfrau.
 
'Rydym yn hynod o falch o gael adrodd bod y ffair wedi bod yn llwyddiant mawr i ni,' meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata'r Cyngor Llyfrau. 'Mae'r cyhoeddwyr yn gwerthfawrogi ein presenoldeb yno a daeth nifer ohonynt draw i Lundain i gynnal cyfarfodydd.'

 

 

GWOBR LLYFR Y FLWYDDYN 2004
 
Rhestrir isod y teitlau sydd ar y rhestr hir eleni:
 
Rhywfaint o Anfarwoldeb, T. Robin Chapman (Gomer)
Cleddyf Llym Daufiniog, Elgan Philip Davies (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Gororau'r Iaith, Jason Walford Davies (Gwasg Prifysgol Cymru)
Merch Noeth, Sonia Edwards (Gwasg Gwynedd)
Llwch Cenhedloedd, Jerry Hunter (Gwasg Carreg Gwalch)
Daw Eto Haul, Geraint Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)
Be 'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?, Iwan Llwyd (Gwasg Taf)
Dyn yr Eiliad, Owen Martell (Gomer)
Brwydr y Bradwr, Cefin Roberts (Gwasg Gwynedd)
Rhyfel Ni, Ioan Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

 

 

ENILLWYR GWOBRAU TIR NA N-OG 2004

Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr eleni fe gyhoeddwyd enwau enillwyr Gwobrau Tir na n-Og, 2004.


Ffuglen Orau'r Flwyddyn:

Iawn Boi?;-),
Caryl Lewis (Y Lolfa)

Llyfr Gorau'r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen

Stori Dafydd ap Gwilym,
Gwyn Thomas a Margaret Jones (Y Lolfa)

Llyfr Saesneg Gorau'r Flwyddyn

The Battle of Mametz Wood, 1916,
Robert Phillips (CAA)

 

 

ENNILL GWYLIAU

Jean Roberts o Gerrigydrudion yw enillydd y gystadleuaeth arbennig a ymddangosodd yn atodiad llyfrau Cyngor Llyfrau Cymru, sef Gwledd y Nadolig.  Cyhoeddwyd enw'r enillydd yn fyw ar raglen Hywel a Nia ar Radio Cymru, a chafodd Jean gyfle am sgwrs ar y rhaglen. Fe fydd Jean yn derbyn tocyn gwyliau gwerth £250 yn rhodd gan gwmni teithio Seren Arian, Caernarfon.
 
Roedd 80,000 copi o'r atodiad wedi eu cynhyrchu ar gyfer y Nadolig, a dosbarthwyd y mwyafrif ohonynt drwy rwydwaith y papurau bro.
 
'Cafwyd ymateb arbennig o dda i'r gystadleuaeth eleni, gyda rhai cannoedd o atebion yn cael eu dychwelyd.  Llongyfarchiadau mawr i Jean a gobeithio y bydd yn mwynhau ei gwyliau,' meddai Phil Davies, Pennaeth Adran Farchnata'r Cyngor Llyfrau.

 

 

Y GWEINIDOG DIWYLLIANT YN YMWELD Â'R CYNGOR LLYFRAU

Bu Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, ar ymweliad â'r Cyngor Llyfrau yn ddiweddar. Yn ystod yr ymweliad cafodd gyfle i alw yn y Ganolfan Ddosbarthu, gan weld yr ystod eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg sydd mewn stoc yno.  Cafodd hefyd gyfle i ymweld â Chastell Brychan, pryd y cafwyd cyfle i sôn am rai o brif wasanaethau'r Cyngor ym maes marchnata, golygu, dylunio a hybu llyfrau plant.
 
'Roedd yn bleser cael croesawu'r Gweinidog ar ei ymweliad,' meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, 'a hynny yn ystod cyfnod adolygiad polisi Cynulliad Cenedlaethol o ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru.'

 

 

STRATEGAETH FARCHNATA GYTÛN
 

Bu gweithgor yn cynrychioli gwahanol sectorau'r diwydiant cyhoeddi a grwpiau perthnasol eraill wrthi'n ddiweddar yn paratoi strategaeth farchnata gytûn ar gyfer y fasnach lyfrau yng Nghymru.
 
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, y mae fersiwn terfynol y strategaeth bellach yn barod ac mae'n bosibl ei gweld drwy glicio ar y clawr.
 
Ar ran y gweithgor, cyflwynodd y Cyngor Llyfrau gopi o'r ddogfen derfynol i Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon.

Cliciwch i'w lwytho (PDF 150k)

 

 

ADOLYGIAD POLISI: YSGRIFENNU CYFRWNG SAESNEG YNG NGHYMRU

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal Adolygiad Polisi o Ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru yn ystod yr hydref a gwahoddwyd cyfraniadau erbyn diwedd Awst.
 
Bydd y Cyngor Llyfrau'n cyfrannu'n llawn i'r Adolygiad ac anfonwyd papurau (cliciwch y papur i lwytho) i ystyriaeth y Pwyllgor.

 

 


Archif Newyddion 2003

  {(}
{)}