SIAN YN TRAFOD LLYFRAU
Bydd Rhaglen Sian Thomas ar Radio Cymru yn rhoi cryn sylw i lyfrau o hyn hyd at y Nadolig. Mewn cydweithrediad â'r Cyngor Llyfrau fe fydd pedair rhaglen hanner awr yn canolbwyntio'n llwyr ar deitlau'r Ŵyl drwy gyfrwng cyfweliadau ag awduron, adolygiadau a chystadlaethau. Eisoes mae nifer o'r cyhoeddwyr wedi cyflwyno detholiad o lyfrau yn wobrau.
Bydd y rhaglenni'n cael eu darlledu bob dydd Iau am 2 o'r gloch gan ddechrau ddydd Iau, 24 Tachwedd. Bydd y rhaglen gyntaf yn canolbwyntio ar lyfrau plant ac wedyn fe roddir sylw i lyfrau'r arddegau a'r detholiad eang o lyfrau oedolion sydd ar gael. |
LLYFRAU'R NADOLIG
Mae'r Cyngor Llyfrau wedi cyhoeddi dau atodiad deniadol eto eleni o lyfrau'r Nadolig. Mae Gwledd y Nadolig yn llawn o'r llyfrau Cymraeg diweddaraf i'w cyhoeddi ac mae'n cael ei ddosbarthu ar hyn o bryd drwy'r papurau bro. Mae Books from Wales yn rhoi sylw i lyfrau Saesneg o Gymru ac yn cael ei ddosbarthu gyda rhifyn o'r Western Mail.
Lle gwell i chwilio am anrhegion Nadolig? Mi gewch lyfrau ar gyfer pob oedran a rhywbeth i blesio pawb!
|
|
ALUN CREUNANT DAVIES
Gyda
thristwch y cofnodir marwolaeth Alun Creunant Davies,
cyn-Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau a Chadeirydd Cyfeillion
y Cyngor. Bu farw'n dawel yn ei gwsg ddydd Mercher
26 Hydref.
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor
Llyfrau: Mae byd llyfrau wedi colli un oi
gymwynaswyr pennaf. Penodwyd Alun Creunant Davies yn
Gyfarwyddwr cyntaf y Cyngor Llyfrau ar ddydd Gŵyl
Ddewi 1965. Corff bychan iawn oedd y Cyngor bryd hynny
band un dyn i bob pwrpas ond dan ei arweiniad
ef a chydai weledigaeth unigryw fe ddatblygodd
yn gorff pwysig a dylanwadol ym maes cyhoeddi yng Nghymru.
Er iddo ymddeol yn 1987 parhaodd i ymddiddorin
fawr yng ngwaith y Cyngor Llyfrau ac ef oedd Cadeirydd
y Cyfeillion. Bydd bwlch enfawr ar ei ôl.
|
|
ANRHYDEDDU
AWDURON LLYFRAU PLANT
Mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd,
fe gyflwynwyd Gwobrau Tir Na n-Og ir enillwyr
gan Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg
a Chwaraeon.
Yr enillwyr eleni oedd:
Ffuglen
Oraur Flwyddyn
Eco, Emily Huws
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) |
 |
Llyfr
Goraur Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen
Byd Llawn Hud, Ceri Wyn
Jones, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Sonia Edwards,
Elinor Wyn Reynolds
Arlunwyd gan Chris Glynn
(Gwasg Gomer) |
 |
Llyfr
Saesneg Goraur Flwyddyn
The Seal Children, Jackie
Morris
(Frances Lincoln) |
 |
|
|
Y
CYFEILLION YN CROESAWU MERERID HOPWOOD
Cynhaliodd
Cyfeillion y Cyngor Llyfrau eu Cyfarfod Cyffredinol
yn Aberystwyth bnawn Sadwrn, 15 Hydref a chafwyd cyfle
i groesawu Mererid Hopwood fel gwestai arbennig.
Mewn sgwrs A??er Athro M. Wynn Thomas, bu Mererid
yn sgwrsio am ei chariad at eiriau ai brwdfrydedd
at lyfrau a darllen.
Ar ddiwedd y cyfarfod cyflwynodd yr Athro Thomas gopi
or gêm Scrabble yn Gymraeg yn rhodd iddi
anrheg ddelfrydol i un sydd mor hoff o drin geiriau!
|
|
CYHOEDDI
ENILLWYR GWOBRAUR DIWYDIANT CYHOEDDI
Cyhoeddwyd enwau enillwyr cyntaf Gwobraur Diwydiant
Cyhoeddi, a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn Aberystwyth
heddiw (1 Hydref) a chyflwynwyd y gwobrau gan Alun Pugh,
y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon.
Dywedodd Alun Pugh, Rwyn hynod falch o weld
y gwobrau hyn yn cael eu sefydlu, a hynnyn gydnabyddiaeth
o lwyddiant y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Comisiynwyd y gwobraun arbennig gan Carwyn Evans,
syn prysur sefydlu ei hun fel artist, ac feu
cyflwynwyd ir enillwyr mewn seremoni arbennig
wedii llywio gan Elinor Jones, y gyflwynwraig
deledu, yng nghwmni darllenwyr o bob cwr o Gymru.
Yr enillwyr oedd:
Llyfrau Cymraeg
Gwerthwr Gorau
Ffuglen
Un Diwrnod yn yr Eisteddfod, Robin Llywelyn, Gomer
Gwerthwr Gorau
Barddoniaeth
Hoff Gerddi Nadolig Cymru, gol. Bethan Mair,
Gomer
Gwerthwr Gorau
Heb fod yn Ffuglen
Y Dyni Hun, Hywel Gwynfryn, Gwasg
Gwynedd
Gwerthwr Gorau
Plant
Jac y Jwc ar y Fferm, Dylan Williams a Gordon
Jones, Cymdeithas
Lyfrau Ceredigion
Y Llyfr a Fenthycwyd
Amlaf o Lyfrgell
Y Dyn yn y Cefn heb Fwstásh, Eirug
Wyn, Y
Lolfa
Llyfrau Saesneg o Gymru
Gwerthwr Gorau
Ffuglen
Sexy Shorts for Summer, gol. Hazel Cushion,
Accent
Press
Gwerthwr Gorau
Barddoniaeth
The Hare that Hides Within, gol. Anne Cluysenaar
& Norman Schwenk, Parthian
Gwerthwr Gorau
Heb fod yn Ffuglen
Welsh Valleys Humour, David Jandrell,
Y Lolfa
Gwerthwr Gorau
Plant
A Wartime Scrapbook, Chris S. Stephens, Pont
Books/Gomer
Y Llyfr a Fenthycwyd
Amlaf o Lyfrgell
Sexy Shorts for Summer, gol. Hazel Cushion,
Accent
Press
Roedd y seremonin llwyddiant ysgubol,
meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau,
ac wrth longyfarch y cyhoeddwyr unigol rydym yn
cydnabod y datblygiadau cyffrous diweddar o fewn y fasnach
lyfrau yng Nghymru.
Noddwyd y gwobrau gan y sefydliadau canlynol
Gwasanaethau Cyfrifiadurol VISTA, Awdurdod Datblygu
Cymru, Western Mail, StrataMatrix a CILIP Cymru.
|
|
LLYFRGELLOEDD
YN CEFNOGI LLYFRAU O GYMRU
Comisiynodd Cyngor Llyfrau Cymru ddau adroddiad yn ddiweddar
yn canolbwyntio ar drefniadau llyfrgelloedd Cymru o
adnabod a phrynu llyfrau. Roedd y naill adroddiad yn
canolbwyntio ar lyfrau Cymraeg tra bod y llall yn manylu
ar lyfrau Saesneg o Gymru. Maer adroddiadau ar
argymhellion, a luniwyd gan yr Athro Hywel Roberts,
bellach wedi eu cyhoeddi ac iw gweld ar wefan
y Cyngor Llyfrau. Cliciwch
yma iw darllen.
|
|
YMWELIAD
O UDMURT
Daeth
cynrychiolwyr o dalaith Udmurt yn Rwsia ar ymweliad
âr Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth yn ddiweddar,
yn cael eu harwain gan Larisa Buranova, y Gweinidog
Diwylliant.
Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig yng ngwaith y Cyngor
Llyfrau a hefyd yn y datblygiadau diweddar yn y fasnach
lyfrau yng Nghymru.
|
|
GWOBR
LLYFR Y FLWYDDYN 2005
Enillydd
Llyfr y Flwyddyn eleni yw Caryl Lewis, am ei nofel Martha,
Jac a Sianco (Y Lolfa).
Cyflwynwyd y wobr o £10,000 ir awdur ifanc,
syn wreiddiol o Ddihewyd, gan Alun Pugh, y Gweinidog
dros Ddiwylliant, Chwaraeon ar Iaith Gymraeg,
mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd..
Dywedodd Meg Elis, ar ran y beirniaid: Mae Caryl
yn llenor disglair. Yr oeddem nin tri fel beirniaid
yn unfryd unfarn mai hi oedd wedi ysgrifennur
nofel orau.
Enillydd y gystadleuaeth i lyfrau Saesneg oedd Owen
Sheers am ei nofel The Dust Diaries (Faber).
|
|
ARIAN
CYFALAF
Wrth
ymweld âr Cyngor Llyfrau yn ddiweddar fe
gyhoeddodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant,
y Gymraeg a Chwaraeon, y byddair Cyngor yn derbyn
£31,000 o arian cyfalaf ychwanegol eleni. Bydd
cyfran or arian yn cael ei fuddsoddi ar
weinydd newydd i wefan www.gwales.com.
Bydd yr arian cyfalaf a gyflwynir ir Cyngor
Llyfrau yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio caledwedd
a meddalwedd gwefan gwales iw gwneud hin
haws iw defnyddio gan gwsmeriaid o bob rhan or
byd, meddai Alun Pugh.
|
|
CYFEILLION
Y CYNGOR LLYFRAU
Fe fydd Cyfeillion y Cyngor Llyfrau yn cynnal eu Cyfarfod
Cyffredinol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 15 Hydref 2005.
Yn ystod y cyfarfod fe fydd yr aelodau yn ethol swyddogion
newydd ir Pwyllgor Llywio a bydd yr Athro M. Wynn
Thomas yn holi Mererid Hopwood am ei gwaith.
Am £10 y flwyddyn mae aelodaur Cyfeillion
yn derbyn gwybodaeth reolaidd am lyfrau yng Nghymru,
copi arbennig or cylchlythyr Y Cyfaill a nifer
o fanteision eraill.
Mae croeso i chi gysylltu ag elwyn.jones@cllc.org.uk
pe dymunech ymaelodi âr Cyfeillion.
|
|
DYDDIAD
PWYSIG
Gŵyl
undydd o ddarlleniadau, trafodaethau, arwyddo a llawer
mwy, yn cynnwys cyhoeddi enillwyr cyntaf Gwobraur
Diwydiant Cyhoeddi yng Nghymru.
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Dydd Sadwrn, 1 Hydref 2005
Ymhlith yr awduron yn trafod eu gwaith bydd:
Geraint Vaughan Jones
Elgan Philip Davies
Hywel Gwynfryn
Lyn Ebenezer
Simon Brett
Jasper Fforde
Lindsay Ashford
Iris Gower
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag elwyn.jones@cllc.org.uk
|
|
GWOBRAU
TIR NA N-OG 2005
ENILLWYR

Ffuglen Oraur Flwyddyn:
Eco
Emily Huws (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Clod arbennig:
Ir Tir Tywyll
Elgan Philip Davies (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Llyfr goraur Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen
Byd
Llawn Hud
(Gwasg Gomer)
Llyfr Saesneg Goraur Flwyddyn
The
Seal Children
Jackie Morris (Frances Lincoln)
Clod arbennig:
In Chatter Wood
Jac Jones (Llyfrau Pont)
|
|
CYFLWYNIAD
IR CADEIRYDD
Mae
Dr Lionel Madden wedi ymddeol o fod yn Gadeirydd Cyngor
Llyfrau Cymru, a hynny ar ôl naw mlynedd yn y
gwaith. Yn ystod y cyfarfod hanner-blynyddol yn Aberystwyth
ar 30 Mehefin cafwyd cyfle i ddiolch iddo am ei gyfraniad
nodedig dros y blynyddoedd.
Cyflwynodd yr Athro M. Wynn Thomas, syn olynu
Dr Madden fel Cadeirydd, set o bedair cyfrol Geiriadur
Prifysgol Cymru yn rhodd iddo fel gwerthfawrogiad oi
wasanaeth.
|
|
CYFEILLION
Y CYNGOR LLYFRAU
Fe fydd Cyfeillion y Cyngor Llyfrau yn cynnal eu Cyfarfod
Cyffredinol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 15 Hydref 2005.
Yn ystod y cyfarfod fe fydd yr aelodau yn ethol swyddogion
newydd ir Pwyllgor Llywio a bydd yr Athro M. Wynn
Thomas yn holi Mererid Hopwood am ei gwaith.
Am £10 y flwyddyn mae aelodaur Cyfeillion
yn derbyn gwybodaeth reolaidd am lyfrau yng Nghymru,
copi arbennig or cylchlythyr Y Cyfaill a nifer
o fanteision eraill.
Mae croeso i chi gysylltu ag elwyn.jones@cllc.org.uk
pe dymunech ymaelodi âr Cyfeillion.
|
|
LLYFRAU
AR FAES Y SIOE
Fe fydd gan y Cyngor Llyfrau uned werthu ar faes y Sioe
Amaethyddol yn Llanelwedd eto eleni (18 21 Gorffennaf)
ac fe ddisgwylir miloedd o bobl i dyrru yno o bob rhan
o Gymru a thu hwnt.
Os ydych yn ymweld âr Sioe bydd croeso i
chi alw in gweld (D314) i weld y detholiad gwych
or llyfrau diweddaraf sy ar gael.
|
|
APÊL
S4C
Fel
rhan o ymdrech S4C eleni i godi arian tuag at Apêl
Asia Affrica 2005, fe ymwelodd y cogydd Dudley Newbery
â swyddfeydd y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth.
Yn ystod ei ymweliad cafwyd cyfle i gyflwyno siec ar
ran y staff tuag at yr Apêl, yn ogystal â
chyflwyno dau lyfr celf yn anrheg i Dudley am ei waith.
Roedd Dudley ar daith drwy Gymru yn codi arian ir
gronfa.
Roeddem yn gwybod am ddiddordeb Dudley mewn gwaith
celf o Gymru, meddai Delyth Humphreys ar ran y
Cyngor, ac roedd yn bleser cael cyflwyno anrheg
iddo.
|
MEITHRIN
PERTHYNAS
Maer Cyngor Llyfrau wedi trefnu seminar fydd yn
trafod y broses greadigol arbennig sydd yn datblygu rhwng
awdur a golygydd. Bydd cyfle hefyd i glywed am y cyfleoedd
sydd bellach ar gael i awduron. Cynhelir y seminar yng
ngwesty Llety Parc, Aberystwyth, ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf.
| Rhaglen
y Diwrnod |
| 10.30 |
Te/coffi
a chofrestru |
| 10.45 |
Croeso
Gwerfyl Pierce Jones |
| 11.00 |
Y
Gyfundrefn Nawdd ar ei newydd wedd Gareth
Davies Jones
(Cadeirydd Panel Grantiau Cyhoeddi Cyngor Llyfrau
Cymru) |
| 11.20 |
Cyfrifoldebaur
Awdur Eigra Lewis Roberts; Gareth Miles |
| 12.00 |
Beth
yw Golygu? Dewi Morris Jones |
| 12.30 |
Cinio |
| 1.30 |
Golygu
Creadigol Partneriaeth Awdur a Golygydd.
Bethan Mair / Meleri Wyn James (Gwasg Gomer)
Alun Jones / Caryl Lewis (Y Lolfa)
Catrin Hughes / Angharad Devonald (Gwasg y Dref
Wen) |
| 2.30 |
Seiat
Holi |
| |
Cadeirydd:
Lyn Lewis Dafis |
| |
Panel: Meg
Elis, Dylan Williams, Bethan M. Hughes, Dr Rhiannon
Ifans, Richard Owen |
| 3.30 |
Te/coffi
cyn ymadael |
Trefnir
gan y Cyngor Llyfrau mewn cydweithrediad ag Undeb Ysgrifenwyr
Gwledydd Prydain (Pwyllgor Cymru) ar Academi.
Cysylltwch â Dewi Morris Jones, Pennaeth yr Adran
Olygyddol yn y Cyngor Llyfrau ar 01970 624151 neu cllc.golygyddol@cllc.org.uk
am fanylion pellach.
|
|
BARDD
PLANT CYMRU
Ddydd
Mawrth, 31 Mai, mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod yr
Urdd, Canolfan Mileniwm Cymru cyhoeddwyd mai Mererid
Hopwood yw Bardd Plant Cymru 20052006. Bydd yn
ymweld ag ysgolion yn ystod y flwyddyn ac yn cynnal
gweithdai barddoniaeth gyda phlant trwy e-bost.
|
|
Rhestr
Fer Llyfr y Flwyddyn 2005
Hi
yw fy Ffrind
Bethan Gwanas (Y Lolfa)
Martha, Jac a Sianco
Caryl Lewis (Y Lolfa)
Rhwng y Nefoedd a Las Vegas
Elin Llwyd Morgan (Y Lolfa)
Remember Me
Trezza Azzopardi (Picador)
The Land as Viewed from the Sea
Richard Collins (Seren)
The Dust Diaries
Owen Sheers (Faber)
|
|
GWOBRAU
TIR NA N-OG 2005
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y teitlau ar restr fer
Gwobrau Tir na n-Og 2005, syn cydnabod safon aruchel
llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy iaith.
Cyflwynir y gwobraun flynyddol gan y Cyngor Llyfrau
i anrhydeddu gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant
mewn tri chategori, sef ffuglen Gymraeg oraur
flwyddyn, y llyfr Cymraeg gorau ac eithrio ffuglen,
a llyfr Saesneg goraur flwyddyn. Noddir
y gwobrau gan CILIP Cymru.
Bydd enwaur enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach
yn y flwyddyn.
Maen glod ir awduron ar cyhoeddwyr
hyn bod eu llyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer,
meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau
Plant y Cyngor Llyfrau, gan bod y gwobraun
anrhydeddur goreuon ymysg llyfrau plant o Gymru.
Dymar teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na
n-Og eleni:
Ffuglen Oraur Flwyddyn
Eco, Emily Huws (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Graffiti, Angharad Devonald (Dref Wen)
Gwas y Stabl, Mair Wynn Hughes (Gwasg Gomer)
Ir Tir Tywyll, Elgan Philip Davies (Cymdeithas
Lyfrau Ceredigion)
Llyfr Goraur Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen
Byd Llawn Hud (Gwasg Gomer)
Chwyldro! Chwyldro?, Robin Evans (Canolfan Astudiaethau
Addysg)
Dwli o Ddifri, Ceri Wyn Jones (Gwasg Gomer)
Hen Wragedd a Ffyn ac Eira Gwyn, gol. Myrddin ap Dafydd
(Gwasg Carreg Gwalch)
Llyfr Saesneg Goraur Flwyddyn
In Chatter Wood, Jac Jones (Pont Books)
Nat, Margaret Jones (Pont Books)
The Seal Children, Jackie Morris (Frances Lincoln)
Turning Points in Welsh History 14851914, Stuart
Broomfield, Euryn Madoc-Jones (University of Wales Press)
|
|
CYNHADLEDD
ESTYN ALLAN
Cynhaliwyd
Cynhadledd Estyn Allan yng Nghaerdydd yn ddiweddar,
pryd y cafwyd cyfle i glywed am yr holl gynlluniau cyffrous
i hybu darllen yn y llyfrgelloedd.
Yn ystod y gynhadledd roedd y Cyngor Llyfrau yn cyflwyno
pecyn arbennig o adnoddau at ddefnydd arweinyddion
cylchoedd darllen i gynrychiolwyr pob awdurdod
llyfrgell yng Nghymru. Paratowyd y pecyn gan Bethan
Hughes o Awdurdod Llyfrgell Sir Ddinbych.
|
|
CATALOGAU
LLYFRAU PLANT
Maer
Cyngor Llyfrau wedi paratoi dau gatalog o lyfrau plant
yn ddiweddar. Maer Catalog Llyfrau Plant ac Adnoddau
Addysgol wedi ei gyhoeddi mewn cydweithrediad ag ACCAC,
ac yn llawn or deunydd diweddaraf. Yn ogystal,
cyhoeddwyd y catalog Wales in English, syn rhestru
650 o deitlau llyfrau ac adnoddau amrywiol.
Maer catalogau eisoes wediu dosbarthu i
ysgolion, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd ledled Cymru.
|
|
GWOBR
I FARDD ENLLI
Y
bardd Christine Evans syn rhannu ei hamser
rhwng Pen Llŷn ac Ynys Enlli yw enillydd
Gwobr Roland Mathias.
Cyflwynwyd y wobr, syn cydnabod ysgrifennu Saesneg
o Gymru, mewn seremoni arbennig yn Aberhonddu.
Dywedodd cadeirydd y panel beirniaid, Glyn Mathias,
a mab Roland Mathias: Mae ysgrifennu Saesneg o
Gymru yn mynd o nerth i nerth ac mae Gwobr Roland Mathias
hefyd yn sicr o ddatblygu ymhellach.
Gwobrwywyd Christine Evans am y llyfr Selected Poems
(Seren), cyfrol o gerddi wedi eu hysbrydoli gan Enlli
ai phobl.
|
|
LLWYDDIANT
DIWRNOD Y LLYFR
Bu
Diwrnod y Llyfr yn llwyddiant eto eleni gyda gweithgareddau
yn cael eu cynnal ledled Cymru. Dymar seithfed
flwyddyn ir dathliadau gael eu cynnal ac maen
braf nodi eu bod yn mynd o nerth i nerth.
Byddem yn hoffi diolch i bawb a gefnogodd y Diwrnod,
meddai Delyth Humphreys ar ran y Cyngor Llyfrau. Yr
oedd yn wych gweld gymaint o bobl yn mwynhaur
cyfle i roi sylw i lyfrau ac i ddarllen.
Yn ystod Darlith Diwrnod y Llyfr a gynhalwyd yn y Cynulliad
Cenedlaethol yng Nghaerdydd fe gyhoeddodd Jane Davidson,
y Gweinidog Addysg, y bydd gweithgareddau Diwrnod y
Llyfr yn cael eu hariannu am gyfnod pellach o dair blynedd.
|
ARIAN
YCHWANEGOL I BRYNU LLYFRAU
Fe gyhoeddodd Jane Davidson, Gweinidog Addysg a Dysgu
Gydol Oes y Cynulliad, y bydd pob ysgol gynradd yng
Nghymru yn derbyn arian ychwanegol i brynu llyfrau
ac adnoddau i ddysgu Cymraeg.
Fe weinyddir y cynllun gan Gyngor Llyfrau Cymru ac
fe fydd yr ysgolion yn gallu defnyddior credyd
i brynu adnoddau Cymraeg a restrir mewn catalog o
ddeunyddiau ACCAC a gynhyrchwyd yn arbennig, ac sydd
eisoes wedi ei ddosbarthu ir ysgolion.
Rwyn gobeithio y bydd pob ysgol gynradd
yn manteisio ar y cyfle hwn i gymryd rhan yn y cynllun
er mwyn gallu cael amrediad eang o ddeunyddiau cyfrwng
Cymraeg a fydd o fudd i ddisgyblion ledled Cymru,
meddai Jane Davidson.
Os am wybodaeth bellach am y cynllun cysylltwch â
Lila Piette lila.piette@cllc.org.uk
|
|
DIWRNOD
Y LLYFR
Cynhelir
Diwrnod y Llyfr eleni ar ddydd Iau, 3 Mawrth ac y mae'r
trefniadau eisoes mewn llaw. Fe fydd gweithgareddau
amrywiol yn cael eu cynnal mewn ysgolion a llyfrgelloedd
ledled Cymru a bydd nifer o sefydliadau eraill yn rhan
o'r dathlu.
'Rydym yn sicr y bydd y diwrnod yn un llwyddiannus,'
meddai Delyth Humphreys ar ran y Cyngor Llyfrau. 'Erbyn
hyn y mae Diwrnod y Llyfr wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol
pwysig iawn sy'n rhoi sylw i lyfrau a llythrennedd.
Mae'n gyfle gwych i blant, pobl ifanc ac oedolion fwynhau'r
pleser o ddarllen.'
|
|
ARIAN
CYFALAF
Wrth
ymweld âr Cyngor Llyfrau yn ddiweddar fe
gyhoeddodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant,
y Gymraeg a Chwaraeon, y byddair Cyngor yn derbyn
£31,000 o arian cyfalaf ychwanegol eleni. Bydd
cyfran or arian yn cael ei fuddsoddi ar
weinydd newydd i wefan www.gwales.com.
Bydd yr arian cyfalaf a gyflwynir ir Cyngor
Llyfrau yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio caledwedd
a meddalwedd gwefan gwales iw gwneud hin
haws iw defnyddio gan gwsmeriaid o bob rhan or
byd, meddai Alun Pugh.
|
ARIAN
YCHWANEGOL I BRYNU LLYFRAU
Fe gyhoeddodd Jane Davidson, Gweinidog Addysg a Dysgu
Gydol Oes y Cynulliad, y bydd pob ysgol gynradd yng
Nghymru yn derbyn arian ychwanegol i brynu llyfrau
ac adnoddau i ddysgu Cymraeg.
Fe weinyddir y cynllun gan Gyngor Llyfrau Cymru ac
fe fydd yr ysgolion yn gallu defnyddior credyd
i brynu adnoddau Cymraeg a restrir mewn catalog o
ddeunyddiau ACCAC a gynhyrchwyd yn arbennig, ac sydd
eisoes wedi ei ddosbarthu ir ysgolion.
Rwyn gobeithio y bydd pob ysgol gynradd
yn manteisio ar y cyfle hwn i gymryd rhan yn y cynllun
er mwyn gallu cael amrediad eang o ddeunyddiau cyfrwng
Cymraeg a fydd o fudd i ddisgyblion ledled Cymru,
meddai Jane Davidson.
Os am wybodaeth bellach am y cynllun cysylltwch â
Lila Piette lila.piette@cllc.org.uk
|
Archif
Newyddion 2004
Archif Newyddion 2003 |