Cyfeillion y Cyngor Llyfrau
Mae'r pecyn diweddaraf o wybodaeth am y fasnach lyfrau yng Nghymru newydd ei ddosbarthu i aelodau
Cyfeillion y Cyngor Llyfrau.
Yn ogystal ag atodiadau deniadol Gwledd y Nadolig a Books from Wales, mae'r pecyn hefyd yn cynnwys
cynnig arbennig i gael y rhifyn diweddaraf o'r cyfnodolyn Y Llyfr yng Nghymru yn rhad ac am ddim a
thocyn mantais i'w gyfnewid mewn siop lyfrau leol.
Ceir gwybodaeth bellach am Gyfeillion y Cyngor Llyfrau drwy gysylltu ag
elwyn.jones@cllc.org.uk
|
|
Llyfrau'r Nadolig ar y Teledu
Cwmni Griffilms o Gaernarfon, sy'n arbenigo mewn animeiddio, a gomisiynwyd i baratoi hysbysebion
llyfrau'r Nadolig ar gyfer yr ymgyrch deledu eleni. Bydd yr hysbysebion yn cael eu darlledu ar
S4C o hyn hyd at y Nadolig.
Mewn cydweithrediad â'r cyhoeddwyr, fe baratowyd pedair hysbyseb: tair hysbyseb yn hyrwyddo
llyfrau Cymraeg ar gyfer plant ac oedolion, ac un hysbyseb yn canolbwyntio ar lyfrau Saesneg.
O fewn y pedair hysbyseb, bydd 24 o deitlau'r Nadolig yn cael eu hyrwyddo, gyda'r llyfrau ar gael
mewn siopau llyfrau lleol ac ar wefan www.gwales.com
|
|
Cyfres Library of Wales

Cafodd pedair cyfrol ddiweddaraf y gyfres Library of Wales eu lansio'n ddiweddar yn siop lyfrau Waterstone's,
Caerdydd, ym mhresenoldeb Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon.
Cyfeiriodd yr Athro Dai Smith, golygydd y gyfres, at lwyddiant anhygoel y pum cyfrol gyntaf gan groesawu'n
fawr gweld cyhoeddi pedair cyfrol ychwanegol, sef A Man's Estate, Emyr Humphreys;
Home to an Empty House, Alun Richards; Ash on a Young Man's Sleeve, Dannie Abse ac
In the Green Tree, Alun Lewis.
Croesawodd y Gweinidog hefyd y pecyn addysg a gyhoeddwyd i gyd-fynd â'r gyfres; bydd o gymorth i
athrawon wrth iddynt gyflwyno'r gwaith yn y dosbarth ac yn cadarnhau'r gyfres fel rhan bwysig o etifeddiaeth
lenyddol Cymru.
|
|
Gwledd y Nadolig
Unwaith eto eleni, mae'r Cyngor Llyfrau wedi cyhoeddi Gwledd y Nadolig, sef atodiad o lyfrau'r Nadolig,
a bydd yn cael ei ddosbarthu drwy'r papurau bro. Fe fydd copïau hefyd ar gael mewn siopau llyfrau
a llyfrgelloedd.
'Mae yna ddewis da iawn o lyfrau eleni,' meddai Helgard Krause, Pennaeth Gwerthu a Marchnata y Cyngor
Llyfrau, 'ac yn sicr byddant yn anrhegion delfrydol ar gyfer ffrindiau a theulu.'
|
|
Llyfrau Saesneg o Gymru
Bydd atodiad llyfrau Saesneg o Gymru, Books from Wales, a gyhoeddir gan y Cyngor Llyfrau, yn cael
ei ddosbarthu eto eleni gyda'r Western Mail. Bydd copiau hefyd ar gael mewn siopau llyfrau lleol ac mewn
llyfrgelloedd.
'Mae'r fasnach lyfrau yng Nghymru yn barod ar gyfer cyfnod prysur y Nadolig,' meddai Helgard Krause,
Pennaeth Gwerthiant a Marchnata'r Cyngor Llyfrau, 'ac unwaith eto mae gennym ddewis gwych o lyfrau ar gyfer
y darllenwyr.'
|
|
Gwobr Roland Mathias
Gwahoddir cyhoeddwyr unwaith eto i gyflwyno cyfrolau i'w hystyried ar gyfer Gwobr Rolant Mathias, a
gyflwynir bob dwy flynedd am ysgrifennu Saesneg o Gymru mewn categorïau amrywiol.
Mae'r categorïau ar gyfer y wobr o £2,000 yn cynnwys barddoniaeth, straeon byrion,
beirniadaeth llenyddol a gwaith hanesyddol, gan adlewyrchu prif ddiddordebau Rolant Mathias, un a wnaeth
gymaint i sefydlu a datblygu ysgrifennu Saesneg o Gymru fel maes llenyddol.
Cyflwynir y wobr yng ngwanwyn 2007 mewn partneriaeth â Chymdeithas Sir Frycheiniog a Cyfeillion
yr Amgueddfa. Cysyllter â glynmathias@aol.com am ragor o wybodaeth.
|
|
Gwobr Dylan Thomas
Mae cyfrol straeon byrion Rachel Trezise, Fresh Apples, (Parthian) ar restr fer Gwobr Dylan Thomas.
Fe gafodd y wobr, a gyflwynir bob dwy flynedd, ei lansio yn Abertawe ac Efrog Newydd, a bydd yr enillydd
terfynol y wobr o £60,000 yn cael ei gyhoeddi ar 27 Hydref, diwrnod pen-blwydd y bardd.
Am fwy o wybodaeth am y Wobr ewch i wefan
www.thedylanthomasprize.com
|
|
Enillwyr Llyfr y Flwyddyn
Enillwyd Gwobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn gan Rhys Evans am y gyfrol Gwynfor: Rhag Pob Brad,
sef cofiant i'r arweinydd gwleidyddol Gwynfor Evans.
Aeth y wobr Saesneg i Robert Minhinnick am ei gyfrol o ysgrifau To Babel and Back, a gymerodd
wyth mlynedd i'w llunio. Dyma'r ail dro i Robert Minhinnick ennill y wobr.
Cyflwynwyd y gwobrau, ynghyd â siec am £10,000 yr un i'r ddau awdur, mewn seremoni
drawiadol yng Ngwesty'r Hilton yng Nghaerdydd.
|
|
Yr Athro'n Fardd Cenedlaethol
Mae'r Athro Gwyn Thomas wedi ei benodi'n Fardd Cenedlaethol Cymru, gan olynu Gwyneth Lewis yn y swydd.
Ei rôl, meddai, fydd cyflwyno barddoniaeth i gynulleidfa eang, gan annog beirdd i hyrwyddo'u cerddi
ymhlith plant. Mae'n awdur 16 o gyfrolau o gerddi, gydag un arall i ymddangos eleni.
|
Sbri-di-ri a Sbondonics
Fe baratowyd pecyn hynod o ddeniadol, yn cynnwys poster lliwgar, ar gyfer clybiau llyfrau Sbri-di-ri a Sbondonics y tymor hwn, a chafodd dderbyniad gwresog yn yr ysgolion.
Er mwyn mesur yr ymateb i’r pecyn dwyieithog, sy’n hybu llyfrau Cymraeg, y mae Delyth Humphreys, swyddog y clybiau, wrthi’n cysylltu â rhai ysgolion gyda holiadur syml.
‘Fe fydd derbyn ymateb uniongyrchol y plant a’r athrawon yn ddefnyddiol iawn i ni,’ meddai Delyth. ‘Rydym wedi derbyn nifer dda o archebion y tymor hwn, gyda’r llyfr Hwyl gyda Geiriau yn profi’n hynod o boblogaidd.’
|
Gwyn Thomas yng nghwmni Cyfeillion
Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru, oedd y gwestai yng Nghyfarfod Blynyddol Cyfeillion y Cyngor Llyfrau yn ddiweddar.
Cafodd ei holi am ei fywyd a’i waith gan yr Athro M. Wynn Thomas, a chafodd y gynulleidfa niferus fwynhad mawr o’i glywed yn darllen rhai o’r gerddi.
Ar ddiwedd y cyfarfod cyflwynwyd rhodd iddo, sef cerdd gyfarch wedi ei llythrennu’n gain, gan gadeirydd y Cyfeillion, Tegwyn Jones.
|
Gwobr Cyfrol Gyntaf o Farddoniaeth
Mae’r gyfrol o gerddi, Misappropriations, Jasmine Donahaye, wedi ei henwi ar restr fer y Jerwood Alderburgh First Collection Prize 2006.
Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Ngwyl Farddoniaeth Alderburgh ar ddydd Gwener, 3 Tachwedd.
|
‘Bitsh!’ ar daith
Fe fydd Cwmni’r Frân Wen yn teithio theatrau Cymru fis Hydref gydag addasiad John Ogwen o nofel heriol Eirug Wyn, Bitsh! Fe fydd y daith yn ymweld â theatrau ym Mhwllheli, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin, Casnewydd, Harlech a Rhuthun.
Bu farw Eirug yn 2004 ac roedd yn adnabyddus fel awdur toreithiog nofelau poblogaidd i blant ac oedolion. Enillodd y nofel Bitsh! Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002.
Mae’r nofel Bitsh! ar gael yn eich siop lyfrau leol neu ar wefan www.gwales.com
|
Cyfeillion y Cyngor Llyfrau
Bydd Cyfeillion y Cyngor Llyfrau’n cynnal eu cyfarfod blynyddol yn Aberystwyth ddiwedd Medi yng ngwmni’r bardd Gwyn Thomas.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal bnawn Sadwrn, 23 Medi yn Eglwys Dewi Sant, Bath St, a bydd yn gyfle gwych i glywed Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn trafod ei fywyd a’i waith mewn sgwrs â’r Athro M. Wynn Thomas.
Cofiwch bod croeso i aelodau newydd ymuno â ni yn y cyfarfod hwn, pryd y cant ragor o wybodaeth am weithgareddau’r Cyfeillion.
|
CYFLE I YMAELODI Â’R CYFEILLION
Mae pecyn gwybodaeth diweddaraf Cyfeillion y Cyngor Llyfrau wrthi’n cael ei baratoi, ac mae’n cynnig cyfle gwych i ddarllenwyr brwd ymaelodi â’r Cyfeillion, meddai Lyn Léwis Dafis, Ysgrifennydd y Cyfeillion.
‘Mae’r pecyn rheolaidd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol iawn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn llyfrau a darllen,’ meddai Lyn, ‘ac mae’n ffordd rwydd o gadw mewn cysylltiad â’r byd cyhoeddi yng Nghymru.’
Gellir ymuno â’r Cyfeillion am dâl aelodaeth blynyddol o £15, neu ymuno am gyfnod o ddeng mlynedd am £125. Am fwy o fanylion cysylltwch ag elwyn.jones@cllc.org.uk
|
DATHLU DIWRNOD Y LLYFR
Fel rhan o weithgareddau Diwrnod y Llyfr, a drefnir gan y Cyngor Llyfrau, cyflwynwyd y ddarlith flynyddol i ddathlu’r achlysur yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Eleni, yr Athro Dai Smith a wahoddwyd i gyflwyno’r ddarlith, gan drafod arwyddocâd a phwysigrwydd lansio’r gyfres Library of Wales yn ddiweddar.
Ar fore Diwrnod y Llyfr, bu’r BBC yn darlledu o bencadlys y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth gan roi cyfle i’r gwrandawyr brofi peth o asbri’r dydd.
‘Cafwyd diwrnod hynod o lwyddiannus,’ meddai Delyth Humphreys ar ran y Cyngor, ‘ac rydym yn awyddus i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.’
|
MWYNHEWCH STORI SYDYN AR DDIWRNOD Y LLYFR!
Bydd dau lyfr Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfr fel rhan o ymgyrch Stori Sydyn i dargedu egin-ddarllenwyr.
Mae’r ddau deitl a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer – Parti Ann Haf, Meleri Wyn James a Jake, Geraint V. Jones – wedi eu cynnwys yn y gyfres ochr yn ochr â llyfrau gan awduron poblogaidd megis Ruth Rendell, Maeve Binchy a Joanna Trollope.
Mae’r gyfres o lyfrau byr, hawdd eu darllen wedi ei thargedu ar gyfer y 750,000 o oedolion Cymru nad ydynt eto yn ddarllenwyr hyderus.
‘Mae’r llyfrau wedi eu cynhyrchu drwy gydweithrediad y Cyngor Llyfrau a’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol,’ meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, ‘ac mae’n gyfle gwych i dargedu darllenwyr newydd. Rydym hefyd yn ymwybodol y bydd y teitlau Cymraeg hyn yn hynod o addas ar gyfer dysgwyr wrth iddynt fagu hyder yn darllen Cymraeg.’
|
Cyfeillion y Cyngor Llyfrau
Bydd Cyfeillion y Cyngor Llyfrau’n cynnal eu cyfarfod blynyddol yn Aberystwyth ddiwedd Medi yng ngwmni’r bardd Gwyn Thomas.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal bnawn Sadwrn, 23 Medi yn Eglwys Dewi Sant, Bath St, a bydd yn gyfle gwych i glywed Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn trafod ei fywyd a’i waith mewn sgwrs â’r Athro M. Wynn Thomas.
Cofiwch bod croeso i aelodau newydd ymuno â ni yn y cyfarfod hwn, pryd y cant ragor o wybodaeth am weithgareddau’r Cyfeillion. |
Eisteddfod Genedlaethol Abertawe
Mae'r haf yn gyfnod hynod o brysur i'r fasnach lyfrau yng Nghymru ac fe fydd Neuadd Arddangos y Cyngor Llyfrau ar faes yr Eisteddfod yn Abertawe yn orlawn o’r llyfrau diweddaraf.
'Mae detholiad gwych o lyfrau ar gael eleni,' meddai Helgard Krause, Pennaeth Gwerthu a Marchnata’r Cyngor, 'ac fe fydd yn gyfle da i ddarllenwyr gael golwg ar yr arlwy a baratowyd ar eu cyfer.'
Fe fydd nifer o'r cyhoeddwyr hefyd yn lansio llyfrau yn y Neuadd Arddangos yn ystod yr wythnos. Cofiwch alw heibio – bydd croeso cynnes i bawb.
|
Enillwyr Llyfr y Flwyddyn
Enillwyd Gwobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn gan Rhys Evans am y gyfrol Gwynfor: Rhag Pob Brad, sef cofiant i’r arweinydd gwleidyddol Gwynfor Evans.
Aeth y wobr Saesneg i Robert Minhinnick am ei gyfrol o ysgrifau To Babel and Back, a gymerodd wyth mlynedd i’w llunio. Dyma’r ail dro i Robert Minhinnick ennill y wobr.
Cyflwynwyd y gwobrau, ynghyd â siec am £10,000 yr un i’r ddau awdur, mewn seremoni drawiadol yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd.
|
Yr Athro’n Fardd Cenedlaethol
Mae’r Athro Gwyn Thomas wedi ei benodi’n Fardd Cenedlaethol Cymru, gan olynu Gwyneth Lewis yn y swydd.
Ei rôl, meddai, fydd cyflwyno barddoniaeth i gynulleidfa eang, gan annog beirdd i hyrwyddo’u cerddi ymhlith plant. Mae’n awdur 16 o gyfrolau o gerddi, gydag un arall i ymddangos eleni.
|
Sylw i Lyfrau’r Haf
Mae atodiad llyfrau diweddaraf y Cyngor Llyfrau, Llyfrau’r Haf, newydd ei gyhoeddi ac wedi ei ddosbarthu ledled Cymru drwy’r papurau bro. Cyhoeddwyd 65,000 copi o’r atodiad eleni ac fe fydd ar gael hefyd mewn siopau llyfrau, llyfrgelloedd ac ar stondin y Cyngor Llyfrau yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ac ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe. Cliciwch ar y clawr i'w lwytho (PDF 4mb)
Unwaith eto, mae’r atodiad yn cynnwys ystod eang o lyfrau gyda dewis ardderchog ar gyfer oedolion a phlant o bob oed. Bydd y llyfrau ar gael yn eich siop lyfrau leol neu drwy wefan www.gwales.com
|
Stori Cyn Cysgu
Fe fydd y nofel Country Dance, sy’n rhan o gyfres lwyddiannus Library of Wales, yn cael ei darlledu ar Radio 4 fel rhan o’r gyfres Book at Bedtime.
Fe fydd y darlleniad yn dechrau ddydd Llun, 3 Gorffennaf ac yn parhau drwy’r wythnos. Mae oddeutu 1.3 miliwn o wrandawyr yn gwrando’n gyson ar Book at Bedtime.
Mae’r gyfres Library of Wales, a gyhoeddir gan gwmni Parthian, ac a gefnogwyd gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Llyfrau Cymru, yn fodd i ail-gyhoeddi rhai o’r prif glasuron Saesneg o Gymru, a fu allan o brint.
Eisoes mae’r gyfres wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda theitlau eraill yn y gyfres yn ymddangos ym mis Hydref.
|
Croeso i Horowitz
Roedd croeso arbennig yn disgwyl yr awdur Anthony Horowitz wrth iddo ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun yn ddiweddar. Yr oedd yno i hyrwyddo cyfrol o’i waith sydd wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg. Cyhoeddwyd Tarandon gan Gwasg y Dref Wen a’i chyfieithu gan Grey Evans.
‘Roedd criw mawr o blant a phobl ifanc llawn cyffro yno yn ei ddisgwyl,’ meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau, ‘ac fe gafwyd gwerthiant rhagorol i’r gyfrol.'
|
Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn
Cyhoeddwyd enwau’r llyfrau ar restr fer Llyfr y Flwyddyn mewn achlysur arbennig yng Ng?yl y Gelli.
Llyfrau Cymraeg
Gwynfor; Rhag Pob Brad
Rhys Evans (Y Lolfa)
Llên yr Uchelwyr
Dafydd Johnston
(Gwasg Prifysgol Cymru)
Rara Avis Manon Rhys (Gomer)
Llyfrau Saesneg
Body Beautiful Ifor Thomas (Parthian)
Ice Trap Kitty Sewell (Honno)
To Babel and Back Robert Minhinnick (Seren) |
Dafydd Meirion
Gyda thristwch y nodir marwolaeth Dafydd Meirion yn 56 oed, yn dilyn cyfnod o waeledd. Roedd yn awdur toreithiog, gan ysgrifennu dros 20 o nofelau poblogaidd, ac ef oedd sylfaenydd cwmni Cyhoeddiadau Mei ym Mhen-y-groes, Gwynedd.
|
Gair yn ei Le
Mae twrnament cenedlaethol Scrabble Cymraeg newydd gael ei lansio gan CYD ac mae’n agored i siaradwyr rhugl eu Cymraeg yn ogystal â dysgwyr. Fe fydd rowndiau lleol yn cael eu cynnal ledled Cymru gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ym mis Awst.
‘Dwi’n meddwl ei fod yn syniad gwych,’ meddai Nia Parry, tiwtor Cymraeg a chyflwynydd rhaglen boblogaidd S4C, Cwpwrdd Dillad. ‘Dwi am weld y gystadleuaeth yn llwyddo a dwi’n annog pobl o bob oed ac o bob cornel o Gymru i gymryd rhan.’
Am wybodaeth bellach am y gystadleuaeth cysylltwch â CYD yn Aberystwyth ar 01970 622143. Mae Scrabble Cymraeg ar werth mewn siopau llyfrau ac ar www.gwales.com
|
Llwyddiant yr Ŵyl Lyfrau
Cynhaliodd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru Ŵyl Lyfrau lwyddiannus iawn yn y Galeri, Caernarfon, dros benwythnos Calan Mai a daeth nifer fawr o bobl yno i fwynhau’r rhaglen llawn o weithgareddau.
Fel rhan o’r Ŵyl, cafodd sawl llyfr newydd ei lansio a bu nifer o awduron yn trafod eu gwaith ac yn ateb cwestiynau gan aelodau o’r gynulleidfa.
Yn y llun gwelir Dylan Williams, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, a Dr Rhiannon Ifans yn lansio’r gyfrol Y Golygiadur. (Llun: Y Lolfa)
Lansiwyd y cyfrolau canlynol yn yr Ŵyl:
Am Ddawn
Huw John Hughes (Cyhoeddiadau’r Gair)
Ble Wyt Ti Rhwng: Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg o 1980 – 2000
Hefin Wyn (Y Lolfa)
Bob Dydd Gyda Iesu
Meirion Morris (Cyhoeddiadau’r Gair)
Crefftwyr Llechi
Alun Richards (Gwasg Carreg Gwalch)
Ein Rhyfel Ni
Mair Wyn Hughes (Gwasg y Bwthyn)
Y Golygiadur
Dr Rhiannon Ifans (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Llwyau Traddodiadol
Gwyndaf Breese (Gwasg Carreg Gwalch)
Pobl y Ffordd
Alun Tudur (Cyhoeddiadau’r Gair)
Pybcrol Llenyddol Caernarfon
gol. Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
|
Bedwen Lyfrau
Fel rhan o Ŵyl Bedwen Lyfrau a gynhelir dros benwythnos Calan Mai yn Galeri Caernarfon, fe fydd yna nifer o ddigwyddiadau bywiog i hyrwyddo a gwerthu llyfrau.
Trefnir yr Ŵyl gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru ac fe fydd nifer o'r cyhoeddwyr yn lansio llyfrau newydd yn ystod yr Ŵyl.
'Fe fydd hi'n ŵyl i'r teulu cyfan,' meddai Elena Gruffudd ar ran y Cwlwm, 'ac mae croeso i chi gyd ddod draw atom.'
|
EISTEDDFOD YR URDD
Wrth i blant a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru ymarfer ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn paratoi ar gyfer yr Ŵyl fawr a gynhelir yn Rhuthun.
Eleni, bydd y Cyngor yn rhannu stondin gyda Siop Lyfrau Elfair ac fe fydd yna ddewis da o lyfrau ar werth ar gyfer plant ac oedolion.
‘Rydym newydd glywed y bydd yr awdur Anthony Horowitz yn ymweld â’r Eisteddfod,’ meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau, ‘gan y bydd Gwasg y Dref Wen yn cyhoeddi Tarandon, addasiad o’i nofel Stormbreaker. O wybod am boblogrwydd ei lyfrau Saesneg, mae’n sicr y bydd nifer o’r darllenwyr yn awyddus i’w gyfarfod.’
|
CYFLE I YMAELODI Â’R CYFEILLION
Mae pecyn gwybodaeth diweddaraf Cyfeillion y Cyngor Llyfrau wrthi’n cael ei baratoi, ac mae’n cynnig cyfle gwych i ddarllenwyr brwd ymaelodi â’r Cyfeillion, meddai Lyn Léwis Dafis, Ysgrifennydd y Cyfeillion.
‘Mae’r pecyn rheolaidd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol iawn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn llyfrau a darllen,’ meddai Lyn, ‘ac mae’n ffordd rwydd o gadw mewn cysylltiad â’r byd cyhoeddi yng Nghymru.’
Gellir ymuno â’r Cyfeillion am dâl aelodaeth blynyddol o £15, neu ymuno am gyfnod o ddeng mlynedd am £125. Am fwy o fanylion cysylltwch ag elwyn.jones@cllc.org.uk
|
LLWYDDIANT STORI SYDYN
Yn dilyn cyhoeddi cyfrolau cyntaf y gyfres newydd, Stori Sydyn – y llyfrau byr, bachog a dargedwyd yn arbennig ar gyfer egin ddarllenwyr – dywedodd Toni Schiavone o’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol eu bod yn hapus iawn gyda’r ymateb.
‘Mae’n bwysig iawn ein bod yn darparu ar gyfer y llu o bobl nad ydynt eto wedi darganfod y pleser o ddarllen llyfrau,’ meddai Toni, ‘ac felly fe fydd y gyfres hon – gan gynnwys Parti Ann Haf, Meleri Wyn James a Jake, Geraint V. Jones – yn fodd i bontio’r gagendor.’
Cyhoeddir rhagor o gyfrolau yn y gyfres ym mis Mai, gan gynnwys dwy gyfrol Gymraeg a dwy gyfrol Saesneg o Gymru.
|
ENNILL TRIP I DISNEY, PARIS
Cafodd teulu o Benygroes, Arfon, wyliau ym Mharc Disney, Paris yn ddiweddar yn dilyn ennill gwobr yn atodiad llyfrau Gwledd y Nadolig a drefnwyd gan y Cyngor Llyfrau.
Yn ffodus i’r teulu Thomas, roedd criw mawr o Gymry allan yno yr un pryd yn dathlu Gŵyl Ddewi ac maent i’w gweld yma ger y stondin yn gwerthu llyfrau o Gymru
Yn y llun (o’r chwith) gwelir Bethan Medi Thomas, Barbara Thomas, John Arfon Thomas ac Aaron Lee Thomas, yng nghwmni noddwr y gystadleuaeth sef Elfyn Thomas, cyfarwyddwr cwmni teithio Seren Arian o Gaernarfon.
|
DATHLU DIWRNOD Y LLYFR
Fel rhan o weithgareddau Diwrnod y Llyfr, a drefnir gan y Cyngor Llyfrau, cyflwynwyd y ddarlith flynyddol i ddathlu’r achlysur yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Eleni, yr Athro Dai Smith a wahoddwyd i gyflwyno’r ddarlith, gan drafod arwyddocâd a phwysigrwydd lansio’r gyfres Library of Wales yn ddiweddar.
Ar fore Diwrnod y Llyfr, bu’r BBC yn darlledu o bencadlys y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth gan roi cyfle i’r gwrandawyr brofi peth o asbri’r dydd.
‘Cafwyd diwrnod hynod o lwyddiannus,’ meddai Delyth Humphreys ar ran y Cyngor, ‘ac rydym yn awyddus i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.’
|
MWYNHEWCH STORI SYDYN AR DDIWRNOD Y LLYFR!
Bydd dau lyfr Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfr fel rhan o ymgyrch Stori Sydyn i dargedu egin-ddarllenwyr.
Mae’r ddau deitl a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer – Parti Ann Haf, Meleri Wyn James a Jake, Geraint V. Jones – wedi eu cynnwys yn y gyfres ochr yn ochr â llyfrau gan awduron poblogaidd megis Ruth Rendell, Maeve Binchy a Joanna Trollope.
Mae’r gyfres o lyfrau byr, hawdd eu darllen wedi ei thargedu ar gyfer y 750,000 o oedolion Cymru nad ydynt eto yn ddarllenwyr hyderus.
‘Mae’r llyfrau wedi eu cynhyrchu drwy gydweithrediad y Cyngor Llyfrau a’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol,’ meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, ‘ac mae’n gyfle gwych i dargedu darllenwyr newydd. Rydym hefyd yn ymwybodol y bydd y teitlau Cymraeg hyn yn hynod o addas ar gyfer dysgwyr wrth iddynt fagu hyder yn darllen Cymraeg.’
|
CROESO YN EFROG NEWYDD
Bydd Efrog Newydd yn atsain i acenion Cymreig ddechrau mis Mawrth mewn dathliad o lenyddiaeth a chelf o Gymru, gyda rhaglen lawn o weithgareddau dan faner ‘Cymru yn Efrog Newydd’.
Fel rhan o’r dathliadau, fe gynhelir lansiad Efrog Newydd o’r gyfres Library of Wales gyda darlith arbennig gan yr Athro Dai Smith, golygydd y gyfres, yng nghwmni Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant. Mae’r gyfres Library of Wales, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn fodd o hyrwyddo llenyddiaeth Saesneg o Gymru gan ddod â nifer o’r clasuron yn ôl i brint.
Dywedodd Helgad Krause o’r Cyngor Llyfrau, sy’n hedfan i Efrog Newydd i gefnogi cyhoeddwyr Cymru yng ngŵyl ‘Ysgrifennu o Gymru i’r Byd’: ‘Mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno’r gorau o lenyddiaeth o Gymru i gynulleidfa yn yr Unol Daleithiau, gan obeithio y bydd yn arwain at gyfleoedd newydd i gyhoeddwyr o Gymru.’
|
LANSIO CYNLLUN ‘GAIR AR LED’
Fel rhagflas i weithgareddau Diwrnod y Llyfr, fe lansiwyd y cynllun ‘Gair ar Led’ yng nghwmni’r adarwr Iolo Williams.
Drwy ddosbarthu cardiau post arbennig, mae’r Cyngor Llyfrau yn annog y cyhoedd i anfon neges i’w ffrindiau yn argymell llyfr da i’w ddarllen. Eisoes fe ddosbarthwyd cardiau i siopau llyfrau, ysgolion a llyfrgelloedd.
‘Fe fu ymgyrch Gair ar Led yn llwyddiannus iawn y llynedd ac rydym wedi ehangu’r cynllun eleni,’ meddai Delyth Humphreys, cydlynydd gweithgareddau Diwrnod y Llyfr ar ran y Cyngor Llyfrau.
|
FFAIR LYFRAU LLUNDAIN
Bydd Ffair Lyfrau Llundain yn cael ei chynnal rhwng 5–7 Mawrth eleni ac mae gan y Cyngor Llyfrau bresenoldeb yno unwaith eto.
‘Mae’r Ffair yn ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr y diwydiant cyhoeddi,’ meddai Helgard Krause, Swyddog Marchnata Tramor y Cyngor Llyfrau. ‘Fe fyddwn yn cynrychioli nifer dda o gyhoeddwyr o Gymru, ac edrychwn ymlaen at ddiwrnodau prysur o hyrwyddo llyfrau o Gymru, cyfarfod hen gyfeillion a gwneud cysylltiadau newydd.’
Fe ddisgwylir oddeutu 100,000 o ymwelwyr i’r Ffair, yn cynrychioli cyhoeddwyr o bedwar ban byd. |
SÊR CYMRU’N CEFNOGI DIWRNOD Y LLYFR
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr, mae rhai o sêr amlycaf Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth i’r digwyddiad a gynhelir eleni ddydd Iau, 2 Mawrth.
Fel rhan o’r pecyn gwybodaeth a ddosberthir i ysgolion a llyfrgelloedd mae posteri o’r ‘adarwr’ Iolo Williams a’r gantores Katherine Jenkins.
‘Roedd y ddau yn fwy na bodlon i gefnogi ein hymgyrch i hyrwyddo darllen ac roedd eu diddordeb mewn llyfrau yn amlwg,’ meddai Delyth Humphreys, cydlynydd gweithgareddau Diwrnod y Llyfr ar ran y Cyngor Llyfrau.
|
LANSIO CYFRES LIBRARY OF WALES
Cafodd cyfres newydd Library of Wales ei lansio mewn digwyddiad llwyddiannus yng Nghaerdydd ym mhresenoldeb Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon.
Mae’r gyfres uchelgeisiol hon yn gynllun i ailgyhoeddi rhai o glasuron llenyddiaeth Saesneg o Gymru ac i’w cyflwyno i gynulleidfa newydd. Mae copïau’n cael eu cyflwyno i bob ysgol uwchradd a choleg yng Nghymru ynghyd â’r 22 Awdurdod Llyfrgell.
Wrth lansio’r pum cyfrol gyntaf dywedodd Alun Pugh: ‘Mae gan Gymru dreftadaeth lenyddol gyfoethog ond, tan heddiw, mae llawer o’n llyfrau clasurol wedi bod allan o brint neu heb fod ar gael i’r cyhoedd. Mae cyhoeddi’r gyfres hon yn gyfle i ddathlu’r dreftadaeth honno.’
Ychwanegodd yr Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau: ‘Mae cyfres Library of Wales yn arwydd o’r hyder newydd mewn llenyddiaeth Saesneg o Gymru. Yn dilyn dyddiau llwm, mae dyfodol ysgrifennu Saesneg o Gymru, yn glasuron ac yn ysgrifennu newydd, yn edrych yn llewyrchus iawn.’
Bydd pedwar teitl pellach yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai 2006. |
DIWRNOD Y LLYFR: 2 MAWRTH 2006
Bydd Diwrnod y Llyfr yn cael ei gynnal ddydd Iau, 2 Mawrth, eleni ac mae’r trefniadau eisoes mewn llaw ar gyfer dathliad i’w gofio.
Fe fydd miloedd o blant ac oedolion yn ymuno yn nathliadau’r Diwrnod ledled Cymru a chaiff nifer fawr o ddigwyddiadau arbennig eu cynnal mewn ysgolion a llyfrgelloedd.
Eisoes fe baratowyd pecyn gweithgareddau i ysgolion yn cynnig pob math o syniadau diddorol ar gyfer y Diwrnod. Cofiwch gysylltu â ni os ydych yn bwriadu dathlu’r Diwrnod.
|
PECYN Y CYFEILLION
Mae'r pecyn diweddaraf o wybodaeth am y fasnach lyfrau yng Nghymru wedi ei ddosbarthu i aelodau Cyfeillion y Cyngor Llyfrau.
Mae'r pecyn yn cynnwys gwybodaeth am holl lyfrau'r Nadolig, a thocyn mantais arbennig i'w prynu, yn ogystal â chyfle i gael copi yn rhad ac am ddim o'r rhifyn diweddaraf o'r cyfnodolyn Y Llyfr yng Nghymru.
Am £10 y flwyddyn, mae aelodaeth o'r Cyfeillion yn fargen i unrhyw un sydd â diddordeb mewn llyfrau o Gymru.
|
Archif
Newyddion 2005
Archif
Newyddion 2004
Archif Newyddion 2003 |