National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

Dewis o lyfrau'r Nadolig

Mae'r Cyngor Llyfrau eto eleni wedi paratoi dau atodiad o lyfrau'r Nadolig. Gwledd y Nadolig yw'r atodiad o lyfrau Cymraeg sydd wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau bro ac mae Books from Wales, yr atodiad o lyfrau Saesneg o Gymru, eisoes wedi ei ddosbarthu gyda'r Western Mail. Unwaith eto, mae dewis gwych o lyfrau ar gael yn eich siop lyfrau leol ac ar wefan gwales.com

 

Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

 

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r haf yn gyfnod hynod o brysur i'r fasnach lyfrau yng Nghymru ac fe fydd y Cyngor Llyfrau yn trefnu Neuadd Arddangos eto eleni a fydd yn orlawn o'r llyfrau diweddaraf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug. Dyma gyfle ardderchog i gael golwg ar y cyhoeddiadau diweddaraf. Cofiwch alw heibio i weld y dewis gwych o lyfrau'r haf.

 

Lloyd Jones yn Aberystwyth

Cynhelir cyfarfod o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau ddydd Sadwrn, 13 Hydref, yn Aberystwyth, pryd y bydd Lloyd Jones, awdur y nofelau Mr Vogel a Mr Cassini ac enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni, yn cael ei holi gan yr Athro M. Wynn Thomas. Cysylltwch ag elwyn.jones@cllc.org.u am fanylion pellach.

 

OBE i Gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru

Wyn Thomas Llongyfarchiadau i'r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru a Chyfarwyddwr CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, ar dderbyn OBE am wasanaeth i lenyddiaeth Cymru yn y ddwy iaith.

Yn ogystal â bod yn arbenigwr ar lenyddiaeth Cymru, mae'r Athro Thomas hefyd yn arbenigwr ar farddoniaeth yr Unol Daleithiau. Bu'n Athro gwadd yn Harvard a Tübingen, ac am bum mlynedd yn Gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.  Bu'n Gadeirydd dros dro ar yr Academi ac fe'i gwnaed yn Gymrawd yr Academi yn 2000.  Ym 1996 fe'i etholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, a chafodd ei urddo â'r wisg wen yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000.  Bu hefyd yn Gadeirydd Gwasg Prifysgol Cymru.

Mae'r Athro Thomas wedi cyhoeddi dros 20 o lyfrau academaidd, ac yn eu plith Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Diffinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995); Corresponding Cultures: The Two Literatures of Modern Wales (1999) ac Emyr Humphreys: Conversations and Reflections (2004).
Mae'r Athro Thomas yn byw yn Abertawe, a'i ferch yw'r gantores lwyddiannus, Elin Manahan Thomas, sydd newydd ryddhau recordiad o gerddoriaeth baróc, Eternal Light.

 

Llyfr y Flwyddyn

Nos Lun, 9 Gorffennaf 2007, yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd, cyflwynodd Cyd-gadeirydd yr Academi, Dr Harri Pritchard Jones, siec o £10,000 i'r awdur Llwyd Owen am ei nofel Ffydd Gobaith Cariad (Y Lolfa), a wobrwywyd yn Llyfr y Flwyddyn 2007.

Ffydd Gobaith Cariadyw ail nofel Llwyd Owen; mae'n frodor o Gaerdydd ac yn byw yn ardal Parc Buddug o'r ddinas gyda'i wraig a'i ferch fach. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae e wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffotograffau ac erthyglau mewn cylchgronau amrywiol. Fel ei nofel gyntaf, y mae'r nofel rymus hon hefyd wedi'i gosod yn y brifddinas ac yn llawn datblygiadau annisgwyl ac anhygoel.

Y ddwy gyfrol arall ar y Rhestr Fer oedd Dygwyl Eneidiau, gan Gwen Pritchard Jones (Gwasg Gwynedd), ac Un Bywyd o Blith Nifer, gan T. Robin Chapman (Gwasg Gomer). Y beirniaid eleni oedd Dr John Rowlands, Elinor Jones a Gwion Hallam.

Yr enillydd yn Saesneg oedd Lloyd Jones am ei lyfr Mr Cassini (Seren).

Trefnir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan Academi ac fe'i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cefnogwyd y Seremoni gan BBC Cymru Wales.

Llais y Darllenwyr
Nid dyna oedd diwedd y stori chwaith ar gyfer yr awduron hynny a gyrhaeddodd Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007. Eleni eto, fe roddwyd cyfle i wrandawyr BBC Radio Cymru fod yn feirniaid, gan fwrw'u pleidlais ar gyfer dewis enillydd Gwobr y Darllenwyr. Dros yr wythnosau diwethaf, bu gwrandawyr Radio Cymru'n pleidleisio dros y ffôn ac ar wefan BBC Cymru, gan ddewis o blith y deg llyfr a gyrhaeddodd y Rhestr Hir. Felly, wedi gwobrwyo Llwyd Owen, cyflwynwyd Gwobr Darllenwyr BBC Radio Cymru i T. Robin Chapman am ei gyfrol Un Bywyd o Blith Nifer, sef astudiaeth gynhwysfawr a dadlennol o'r cymeriad enigmatig hwnnw, Saunders Lewis.

 

Bardd Plant

Mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, fe drosglwyddodd Gwyneth Glyn fantell Bardd Plant Cymru i Caryl Parry Jones. Caryl fydd yr wythfed bardd i dderbyn yr anrhydedd.
Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Urdd Gobaith Cymru a'r Academi yw Bardd Plant Cymru, a'r bwriad yw hybu barddoniaeth ymysg plant a phobl ifanc gan eu hannog i fwynhau a chyfansoddi cerddi.
Bydd Caryl yn ysgrifennu nifer o'i cherddi ei hun yn ystod y flwyddyn, yn ymweld ag ysgolion ac yn cynnal gweithdai barddoni drwy e-bost.

 

Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007

30 Mai 2007
Cyhoeddwyd y teitlau sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2007 mewn seremoni yng Ngŵyl y Gelli, sef:

Dygwyl Eneidiau, Gwen Pritchard Jones (Gwasg Gwynedd)
Ffydd, Gobaith, Cariad, Llwyd Owen (Y Lolfa)
Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis, T. Robin Chapman (Gwasg Gomer)
Growth Rings, Christine Evans (Seren)
Mr Cassini, Lloyd Jones (Seren)
The Climbing Essays, Jim Perrin (In Pinn)

 

Gŵyl y Gelli

Bydd darllenwyr ac awduron Cymru yn heidio i Ŵyl y Gelli yr wythnos nesaf ac fe fydd croeso iddynt ymweld â'r stondin Llenyddiaeth o Gymru.
Y mae'r Cyngor Llyfrau yn un o'r prif bartneriaid, ynghyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Academi. Fe fydd nifer o awduron amlwg yn darllen o'u gwaith a bydd cyfle i gael golwg ar y cyhoeddiadau diweddaraf o Gymru.

 

Gwobr i Gyhoeddwr

Yn ystod Gŵyl Bedwen Lyfrau a drefnwyd gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru yng Nghaernarfon yn ddiweddar, fe gyflwynwyd gwobr arbennig i Robat Gruffudd, Y Lolfa, am gyfraniad oes i'r byd cyhoeddi yng Nghymru.

 

Gwobr Roland Mathias 2007

Y bardd a'r nofelydd Dannie Abse oedd enillydd Gwobr Roland Mathias 2007 am ei gyfrol o gerddi, Running Late, sy'n edrych yn ôl ar fywyd o ysgrifennu, meddygaeth a chariad.

Fe sefydlwyd Gwobr Roland Mathias, sy'n werth dwy fil o bunnau, i anrhydeddu'r bardd a'r awdur - sydd bellach yn 91 oed - ac sydd wedi gwneud cymaint i sefydlu a hyrwyddo ysgrifennu Saesneg o Gymru.

 

Bedwen Lyfrau

Cynhelir gŵyl lyfrau Gymraeg yn Galeri, Caernarfon, ddydd Sadwrn, 5 Mai. Bydd yn cynnwys lansiadau 12 o lyfrau newydd a chynhelir sesiynau difyr gydag awduron blaenllaw, adloniant i'r plant lleiaf, sgwadiau sgwennu i blant cynradd, byrddau bargen a stondin lyfrau Palas Print. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan cwlwmcyhoeddwyr.com

 

Catrin Puw Davies
1933-2007


Gyda thristwch y cofnodir marwolaeth Catrin Puw Davies, aelod hir-dymor o Gyngor a Phwyllgor Gwaith y Cyngor Llyfrau. Tan yn ddiweddar, roedd hefyd yn aelod o Banel Grantiau Cyhoeddi y Cyngor Llyfrau lle y gwnaeth gyfraniad sylweddol dros nifer o flynyddoedd.

Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i Roger, Angharad a Mererid yn eu profedigaeth lem.

 

Dathlu Darllen

Bu dathliad Diwrnod y Llyfr yn un hynod lwyddiannus eto eleni, gyda gweithgareddau'n cael eu cynnal ledled Cymru.

'Mae'n braf cael dweud bod Diwrnod y Llyfr yn mynd o nerth i nerth,' meddai Delyth Humphreys ar ran y Cyngor Llyfrau, 'ac rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth wrth hybu llyfrau a'r pleser o ddarllen.'

 

Tanni ar lwyfan Cymru

Bydd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, yn cyflwyno Tanni Grey Thompson ar lwyfan Tesco yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, bnawn Iau, 1 Mawrth am 3.30 o'r gloch ar achlysur cyhoeddi ei chyfrol Aim High yn y gyfres Stori Sydyn. Bydd Jason Mohammed o'r BBC yno hefyd i holi Tanni am ei llwyddiannau cyn iddi gynnal sesiwn lofnodi yn y siop lyfrau.

 

Cefnogaeth y Sêr

Mae rhai o ser amlycaf Cymru wedi dangos eu cefnogaeth i Ddiwrnod y Llyfr a gynhelir ar 1 Mawrth eleni.

Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y diwrnod mawr roedd Glyn Wise, Connie Fisher, Eve Myles a Dwayne Peele yn fwy na pharod i ymuno yn y dathlu ac i nodi pa mor bwysig yw llyfrau a darllen.

'Unwaith eto, rydym wedi gweld rhai o sêr amlycaf Cymru yn dangos eu cefnogaeth i Ddiwrnod y Llyfr,' meddai Delyth Humphreys ar ran y Cyngor Llyfrau. 'Ac er eu holl brysurdeb, maent i gyd yn nodi bod sicrhau amser i ddarllen yn bwysig iawn iddynt.'

 

Llwyddiant y Clybiau Llyfrau

Mae taflenni hyrwyddo'r clybiau llyfrau, Sbri-di-ri a Sbondonics, wedi eu dosbarthu i'r ysgolion eto y tymor hwn, gyda 70,000 o daflenni wedi eu cyhoeddi.

'Mae'r taflenni yn ffordd hwylus i ddisgyblion a rhieni gael gwybodaeth am y llyfrau diweddaraf,' meddai Delyth Humphreys ar ran y Cyngor Llyfrau, 'ac yn fodd o gyflwyno llyfrau a'r pleser o ddarllen i blant yn y cartref.'

 


Archif Newyddion 2006

Archif Newyddion 2005

Archif Newyddion 2004

Archif Newyddion 2003


Archif Taflen Mewn Print
(Nid yw Taflen 'Mewn Print' yn cael ei gyhoeddi bellach.)

  {(}
{)}