|
12
Tachwedd 2002
PENODI
SWYDDOG GWYBODAETH IR CYNGOR LLYFRAU
Maer
Cyngor Llyfrau wedi penodi Swyddog Gwybodaeth newydd fydd
â chyfrifoldeb am gasglu a dosbarthu gwybodaeth am yr
holl lyfrau syn cael eu cyhoeddi yng Nghymru.
Mae Nia Mererid Morgan yn enedigol o Nebo, ger Llannon, Ceredigion,
a chafodd ei haddysgu yn yr ysgol gynradd leol ac yn Ysgol
Gyfun Aberaeron. Graddiodd Nia yn y Gymraeg ym Mhrifysgol
Gogledd Cymru, Bangor, gan fynd ymlaen i dderbyn MSc Econ
mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol
Cymru Aberystwyth.
Wedi cyfnod yn gweithio fel cyfieithydd a chynorthwy-ydd golygyddol
i Undeb Amaethwyr Cymru, fei hapwyntiwyd yn Swyddog
Gwybodaeth Electronig yng Nghyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb
am ddatblygu a hyrwyddor defnydd o dechnoleg y we yn
y sir. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei dyrchafun
Swyddog Strategaeth Technoleg Gwybodaeth ac yna, yn 2001,
ei phenodin Rheolwr Datblygur We.
Teimlaf fod gennyf gryn brofiad ym maes rheoli gwybodaeth
erbyn hyn, meddai Nia, ac rwyf yn edrych ymlaen
yn fawr at y sialens newydd yma gydar Cyngor Llyfrau.
Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn or angen sydd i lyfrwerthwyr
a llyfrgellwyr, yn ogystal âr cyhoedd, dderbyn
yr wybodaeth ddiweddaraf am lyfrau o Gymru.
Mae rheoli gwybodaeth yn electronig a sicrhau ei fod yn gywir
yn waith holl bwysig ir diwydiant llyfrau, ac mae Phil
Davies, Pennaeth Adran Farchnatar Cyngor, yn falch o
gael croesawu Nia ar y staff. Bydd profiad Nia
o reoli systemau gwybodaeth o gymorth mawr i ni, meddai
Phil, a bydd ei phrofiad o ddatblygu safleoedd ar y
We o fantais wrth i ni ddatblygu gwales.com, ein safle gwybodaeth
am lyfrau o Gymru, ymhellach.
Mae Nia yn olynu Nia Mai Jenkins sydd wedi ei phenodin
Swyddog Marchnata gyda Gwasg Gomer yn Llandysul.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Swyddog Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB ( (01970) 624151 2
(01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk
|