|
29
Tachwedd, 2001
AWDURON
IFANC I GYHOEDDI NOFEL
Cynllun Nofel-T
Bydd criw o ffrindiau ysgol or canolbarth yn gwireddu
breuddwyd sawl un dros yr wythnosau nesaf, gan fod yn
rhan o gynllun uchelgeisiol gan S4C, Uned 5, Cyngor
Llyfrau Cymru ar Lolfa i helpu awdur i ysgrifennu
nofel afaelgar i bobl ifanc.
Lansiwyd
cystadleuaeth ar raglen Uned 5 rai wythnosaun
ôl i ddewis criw o bobl ifanc i gydweithio âr
awdures boblogaidd Bethan Gwanas ar y cynllun Nofel-T.
Cafwyd ymateb gwych ir gystadleuaeth, gyda dros
60 o geisiadau. Gyda chymorth yr awduron ifanc, bydd
Bethan yn ysgrifennur nofel dros fisoedd y gaeaf,
er mwyn ei chyhoeddi fis Mehefin nesaf.
Cyhoeddwyd
ar raglen Uned 5 heddiw (5 or gloch, Dydd Iau,
29 Tachwedd) mai chwech o ffrindiau o Ysgol Gyfun Dyffryn
Teifi, Llandysul, Ceredigion ddaeth ir brig, gan
blesior dewiswyr gydau personoliaethau bywiog,
eu hiwmor gwreiddiol au cant a mil o syniadau
ar gyfer y nofel. Bydd cyflen awr iddyn nhw gyflwynor
holl syniadau i Bethan, fel y gall hi ddechrau ar y
gwaith o ysgrifennur nofel.
Maer
chwech yn ddisgyblion Blwyddyn 9 yn yr ysgol ac yn edrych
ymlaen yn fawr at yr her syn eu hwynebu. Maer
criwn cynnwys Dyfed Bowen, Helen Davies, Fflur
Huysmans, Ifan Rees, Seren Stacey a Gwenno Teifi.
Mae
Bethan Gwanas wedi hen arfer ysgrifennu ar gyfer pobl
ifanc, gan gynnwys y gyfrol Llinyn Trôns, ar
ddrama lwyfan, Awê, a hi oedd awdur y llyfr ar
gyfres deledu Amdani, a fu mor boblogaidd. Ar ôl
bod yn byw ym Mangor, Caerdydd, Nigeria a Ffrainc, mae
Bethan bellach wedi setlo yn ôl yn ei hardal enedigol,
ger Dolgellau, ac yn canolbwyntio ar ysgrifennu.
Mae
ysgrifennun gallu bod yn broses unig iawn,
meddai Bethan. Felly, dwin edrych ymlaen
yn fawr at gael cydweithio hefor criw o Ysgol
Dyffryn Teifi. Nhw fydd yn penderfynu ar y cymeriadau,
lleoliad y stori, ar rhan fwyaf or hyn syn
digwydd. Ceisio rhoir cwbl i lawr ar bapur fydda
i.
Bydd
digon o gyfle ir criw drafod datblygiadaur
nofel gyda Bethan, gan y bydd yn ymweld yn gyson âr
ysgol dros yr wythnosau nesaf er mwyn cofnodir
holl syniadau. Yna bydd Bethan yn mynd ati i ysgrifennur
nofel, gan anfon y penodau atynt drwyr e-bost
i gael eu sylwadau.
Bydd
datblygiadaur nofel yn cael eu datgelu ar raglen
Uned 5 yn ystod y cyfnod ysgrifennu, fel bod y gwylwyr
gartref yn cael dilyn y cyfan. Maen sicr y bydd
disgwyl mawr am y nofel pan fydd yn cyrraedd or
wasg yn y gwanwyn.
Mae
hwn yn gynllun uchelgeisiol iawn i ni, meddai
Meirion Davies, Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C. Roedd
yr ymateb gan yr ysgolion yn gwbl wych, ac mi fydd yn
brofiad bythgofiadwy ir criw gael gweithio gyda
rhywun mor dalentog a phrofiadol â Bethan Gwanas.
Dywedodd
Menna Lloyd Williams or Cyngor Llyfrau: Yr
hyn an trawodd ni yn syth oedd bod gan y plant
gymaint o syniadau gwreiddiol, a does dim dwywaith y
bydd galw mawr am y nofel hon y flwyddyn nesaf.
Ychwanegodd
Mared Roberts or Lolfa: Fel un o gyhoeddwyr
mwyaf blaengar Cymru, rydym yn edrych ymlaen yn fawr
at fod yn rhan or project cyffrous hwn, ac at
weld cyhoeddir nofel arloesol hon yn y gwanwyn.
Am
ragor o wybodaeth cysylltwch ag:
Elwyn Jones,
Cyngor Llyfrau Cymru: 01970 624151
Bethan Gwanas: 01341 450230
Uned 5: 01286 678592
Ysgol Dyffryn Teifi: 01559 362310
|