|
ANFON
LLYFRAU IR WLADFA
Bydd ysgolion Cymraeg yn y Wladfa yn derbyn cyflenwad o lyfrau
yn rhad ac am ddim, diolch i garedigrwydd dau sefydliad a
haelioni cyhoeddwyr o Gymru. Mewn cynllun a drefnwyd gan Gyngor
Llyfrau Cymru, fe fydd cyflwyno dros fil o lyfrau ac adnoddau
addysgol gwerth bron i £7,000 yn fodd i athrawon yn
y Wladfa dderbyn cyflenwad gwych o adnoddau.
Roeddem yn hynod falch i gael cynorthwyor disgyblion
ym Mhatagonia gydau hymdrech arbennig i ddysgur
Gymraeg, meddai Helgard Krause, ar ran y Cyngor Llyfrau.
Mae cymorth ariannol hael Cymdeithas Cymru-Ariannin ar
Cyngor Prydeinig wedi ei ategu gan y Cyngor Llyfrau a nifer
or cyhoeddwyr.
Cafodd y rhestr gynhwysfawr o lyfrau ei dethol gan y Cyngor
Llyfrau, gydar dewis terfynol yn cael ei gadarnhau gan
Ms Esyllt Nest Roberts, athrawes ym Mhatagonia, a ymwelodd
yn ddiweddar âr Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth.
Mae swydd Ms Roberts wedi ei noddi dan gynllun y Gymraeg yn
Chubut, cynllun a weinyddir gan y Cyngor Prydeinig ai
ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg
a Chwaraeon, Rwyf wedi gweld drosof fy hunan y gwaith
gwych maer cynllun yn ei wneud i sicrhau fod y Gymraeg
yn parhaun iaith fyw ym Mhatagonia. Maer
cyfraniad hwn yn adnodd gwych i gefnogir rhai syn
dysgur iaith yno.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB T (01970) 624151
F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk
Esyllt Nest Roberts ( 0054 2965 491409 esylltnest@yahoo.co.uk
Cymdeithas Cymru-Ariannin www.cymru-ariannin.org
Cyflwynwyd llyfrau am ddim ir ysgolion ym Mhatagonia
gan y cyhoeddwyr isod:
Gwasg Addysgol Cymru, Caerdydd
B-Dag, Caerdydd
CAA, Aberystwyth
Carreg Gwalch, Llanrwst
CBAC, Caerdydd
Cyhoeddiadaur Gair, Bangor
Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth
Cymdeithas y Beibl, Swindon
Drake, Caerdydd
Dref Wen, Caerdydd
Gomer, Llandysul
Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Hughes, Caerdydd
Mudiad Ysgolion Meithrin, Aberystwyth
Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd
Sain, Caernarfon
Tympan, Caerdydd
Y Lolfa, Tal-y-bont
Elvey MacDonald (chwith), Ceris Gruffudd ac Esyllt Nest Roberts
yn dethol llyfrau ar gyfer Patagonia.
|