| 25
Medi 2002
MAE
DYN Y TRAED MAWR YN 25 OED
PEN-BLWYDD HAPUS, JAC Y JWC!
Mae
miloedd o blant ifanc ar hyd a lled Cymru wedi derbyn gwahoddiad
arbennig i lunio cardiau i ddathlu pen-blwydd Jac y Jwc, sy'n
25 oed eleni!
Un
o'r cymeriadau hoffus a grëwyd gan Mary Vaughan Jones
a Jac Jones yw Jac y Jwc, a gwelodd olau dydd am y tro cyntaf
yn 1977 mewn dwy gyfrol a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Lyfrau
Ceredigion. Dros y blynyddoedd mae Llyfr Bach Jac y Jwc
a Llyfr Mawr Jac y Jwc wedi gwerthu miloedd ar filoedd
o gopïau.
Clwb
Llyfrau Sbri-di-ri, un o glybiau plant Cyngor Llyfrau
Cymru, sydd wedi anfon y gwahoddiad i bob plentyn, cylch meithrin
ac ysgol sy'n derbyn taflenni lliwgar y clwb yn rheolaidd.
Mae yna gynnig arbennig arall i brynwyr y clwb y tymor hwn
hefyd: bydd pob un o lyfrau Jac y Jwc a brynir o daflen Sbri-di-ri
Hydref 2002 yn cynnwys ei lofnod.
Bellach,
mae'r Llyfr Bach, y Llyfr Mawr a Rhigymau
Jac y Jwc yn ôl mewn print ac mae'n sicr y byddant
yn cael derbyniad gwresog gan genhedlaeth newydd o blant Cymru.
Yn sicr, mae rhieni'r chwarter canrif ddiwetha wedi bod wrth
eu bodd yn rhannu'r storïau am Jac gyda'u plant. Un o'r
rhieni yma, sy'n wyneb cyfarwydd iawn ar y teledu ac ar lwyfannau
Cymru, yw Martyn Geraint, sy'n dad i dri o blant ac yn ymwybodol
iawn o bwysigrwydd llyfrau a darllen yn natblygiad plentyn.
'Mae Jac y Jwc yn esiampl wych o sut y gall un cyfrwng hybu'r
llall,' meddai Martyn. 'Trwy gyfresi teledu a sioeau byw,
mae S4C wedi dod â'r cymeriad lliwgar a hoffus hwn yn
fyw i filoedd o blant ar hyd a lled Cymru. Mae hyn yn ei dro
wedi sbarduno'r plant i ddarllen y llyfrau sy'n llawn o'i
helyntion difyr a doniol. Ac i goroni'r cyfan, mae'n braf
cael galw un o gymeriadau mwyaf enwog llyfrau Cymru yn ffrind!'
Dywedodd
Delyth Humphreys, swyddog clybiau'r Cyngor Llyfrau, 'Ryn
ni' n falch dros ben fod Sbri-di-ri, clwb llyfrau'r
plant 37 oed, yn rhan o ddathliadau pen-blwydd mor arbennig
â hwn. Rwy'n sicr y byddwn yn derbyn cannoedd, os nad
miloedd, o gardiau pen-blwydd a gobeithiwn yn fawr y bydd
y llyfrau sy'n cario llofnod Jac y Jwc yn gwerthu fel slecs!'
Am
fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB.
Ffôn: (01970) 624151 Ffacs: (01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk
|