National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 
17 Gorffennaf, 2001
TORRI RECORD LLYFRAU

Mae'r nifer o lyfrau a gyhoeddwyd yng Nghymru y llynedd wedi torri pob record, yn ôl y ffigurau a ryddhawyd heddiw gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Mae'r cyfanswm o 682 o lyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 2000 yn dangos cynnydd o bron i 100 o deitlau ers y flwyddyn flaenorol, ac yn torri pob record ers i'r ystadegau ddechrau cael eu cadw yn 1972. Mae'r cyfanswm hwn yn cynnwys 606 o lyfrau newydd, ynghyd â 76 o adargraffiadau.

Fe welwyd cynnydd sylweddol ym maes llyfrau plant, yn enwedig ym maes llyfrau addysgol, gyda 281 o lyfrau cyfair a gwerslyfrau'n cael eu cyhoeddi, o'u cymharu â 163 yn 1999.

Yn ystod yr un cyfnod fe welwyd cynnydd yn y nifer o lyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig a ddosberthir gan y Cyngor Llyfrau. Derbyniwyd 592 o deitlau i'r stoc yn 2000 o'u cymharu â 433 yn 1999, gyda chynnydd yn y rhan fwyaf o'r categorïau.

  {(}
{)}