23
Mawrth, 2006
GWOBRAU TIR NA N-OG
2006
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y teitlau ar restr fer Gwobrau
Tir na n-Og 2006, sy'n cydnabod safon aruchel llyfrau plant
a phobl ifanc yng Nghymru yn y ddwy iaith.
Cyflwynir y gwobrau'n flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu
gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant mewn tri chategori,
sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a
llyfr Saesneg gorau'r flwyddyn. Noddir dwy o'r gwobrau gan
CILIP Cymru.
'Mae'n anrhydedd arbennig i'r awduron a'r cyhoeddwyr gael
eu cynnwys ar y rhestr fer,' meddai Menna Lloyd Williams,
Pennaeth Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau, 'ac mae'r gwobrau'n
adlewyrchu y gorau mewn llyfrau plant o Gymru.'
Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill. Dyma'r
teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og eleni:
Categori Cynradd
Cymraeg
Carreg Ateb, Emily Huws (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion)
Ffion a'r Tîm Rygbi, Elin Meek (Gwasg Gomer)
Stori Cyn Cysgu, gol. Gordon Jones (Gwasg Carreg
Gwalch)
Categori Uwchradd
Cymraeg
Creadyn, Gwion Hallam (Gwasg Gomer)
Yr Oesoedd Canol Cythryblus, Catrin Stevens (Gwasg
Gomer)
St@fell, Meleri Wyn James (Gwasg Gomer)
Llyfr Saesneg Gorau'r
Flwyddyn
Framed, Frank Cottrell Boyce (Macmillan)
Tirion's Secret Journal, Jenny Sullivan (Pont Books)
The Wish House, Celia Rees (Picador)
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 2JB T (01970) 624151 F (01970)
625385 elwyn.jones@cllc.org.uk
|