Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

SCRABBLE YN GYMRAEG
 
Am y tro cyntaf erioed, mae fersiwn Cymraeg o’r gêm fwrdd enwog Scrabble wedi ei gynhyrchu, a bellach caiff siaradwyr Cymraeg, yn oedolion a phlant, gyfle i chwarae’r gêm.
 
Yn naturiol, mae yna newidiadau wedi eu cyflwyno i’r fersiwn Saesneg, gan nad yw’r llythrennau Q a Z yn ymddangos yn y fersiwn Cymraeg.  Ond y mae yna ychwanegiadau hefyd gyda’r llythrennau Ll, Ng, Th a Rh.  Un o’r geiriau gyda’r sgôr uchaf yw ANGENRHEIDIAETH, sy’n werth 164 o bwyntiau.
 
Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon: ‘Mae’r gêm Scrabble yn cael ei chwarae gan filoedd o bobl ar draws y byd, ac mae’n newyddion da bod fersiwn Cymraeg ar gael bellach; mae’n arwydd cadarnhaol bod yr iaith yn datblygu i bob cyfeiriad.’
 
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, bod y Cyngor wedi credu ers tro y dylai’r gêm fod ar gael yn Gymraeg ac roedd yn falch bod y Cyngor wedi gallu cynnig cymorth ariannol ac ymarferol i gefnogi’r cynllun. Ychwanegodd: ‘Mae gan y gêm Scrabble apêl addysgol yn ogystal ag apêl ehangach fel gêm, ac fe fydd yn cael ei groesawu’n fawr gan siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys y nifer cynyddol o blant ac oedolion sy’n dysgu’r iaith.’
 
Scrabble yw’r gêm fwrdd fwyaf poblogaidd yn y byd ac mae ar gael mewn 27 o ieithoedd gan gynnwys Arabeg, Hebraeg a Hwngareg.  Dywedodd Gylla Kelley, llefarydd ar ran Mattel: ‘Mae Scrabble yn ffefryn dros y byd i gyd.  Rydym bob amser yn awyddus i gyflwyno fersiynau newydd ac mae’n braf gweld y fersiwn Cymraeg ar werth.’
 
Bydd y fersiwn Cymraeg o Scrabble ar werth o fis Medi 2005 mewn siopau llyfrau, siopau cadwyn ac ar www.gwales.com

Am ragor o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion  SY23 2JB T (01970) 624151  F (01970) 615385  elwyn.jones@cllc.org.uk


 
FFEITHIAU AM Y GÊM SCRABBLE

Daeth Scrabble i Loegr yn 1954
Mae dros 100 miliwn o’r gêmau wedi eu gwerthu mewn 121 o wledydd dros y byd i gyd
Mae ymchwil yn dangos bod oedolion dros 30 oed yn prynu’r gêm ar ddwywaith y raddfa arferol
Cynhyrchir y fersiwn Cymraeg o’r gêm dan drwydded gan Leisure Trends

 
FFEITHIAU AM YR IAITH GYMRAEG

Mae oddeutu hanner miliwn o siaradwyr Cymraeg
Mae’r wyddor Gymraeg yn cynnwys 28 llythyren

 


Gair yn ei le
Alun Pugh (de), Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, yn chwarae gêm yng nghwmni Gwerfyl Pierce Jones a Dewi Morris Jones o’r Cyngor Llyfrau.


  {(}
{)}