National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 

LANSIO GWOBRAU LLYFRAU NEWYDD 6 Mai 2003

Caiff y Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol newydd eu lansio heddiw. Mae’r cynllun unigryw, sy’n cael ei redeg ar y cyd gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Chyngor Llyfrau Cymru, yn cydnabod rhagoriaeth mewn llyfrau a deunyddiau eraill sy’n ceisio gwella safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru.
 
Bydd Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol yn cynorthwyo athrawon, llyfrgellwyr a rhieni i ddewis y deunyddiau gorau ar gyfer gwella llythrennedd a rhifedd. I ennill gwobr mae’n rhaid i ddeunyddiau fod o safon uchel, yn briodol ar gyfer y grŵp oedran ac yn berthnasol i Gymru. Gall y llyfrau neu’r deunyddiau eraill fod yn Gymraeg neu yn Saesneg ac mae’r Gwobrau’n agored i holl gyhoeddwyr y DU.
 
Cadeirydd y panel Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol fydd Glenys Kinnock ASE, sydd wedi bod yn athrawes mewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd. Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni fawreddog a gynhelir yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2003.
 
Meddai Alan Wells, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol:
 
“Mae’r Cynllun Gwobrau newydd hwn yn unigryw i Gymru. Rwy’n gobeithio y bydd yn annog cyhoeddwyr i sicrhau bod llyfrau o’r safon uchaf yn cael eu cynhyrchu ar gyfer y rheiny sy’n cael anawsterau â’r sgiliau sylfaenol. Bydd yn gyfraniad pwysig i sicrhau y gallwn, gyda’n gilydd, adeiladu Cymru sydd hyd yn oed yn well.”
 
Meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru:
 
“Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n falch iawn o weithio gyda’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn y fenter newydd gyffrous hon. Bydd y Gwobrau’n tynnu sylw at y deunyddiau gorau sydd ar gael ar hyn o bryd yn y Gymraeg a’r Saesneg a gobeithio y byddant hefyd yn annog cyhoeddwyr i gynhyrchu amrywiaeth fwy eang o ddeunyddiau sgiliau sylfaenol o safon ar gyfer pob grŵp oedran.”
 
 
Nodiadau
 
1. Mae’r Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol yn rhan o Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd â’r nod o godi safonau sgiliau sylfaenol plant, pobl ifanc ac oedolion.  Mae 12 o gategorïau i’r Gwobrau yn cwmpasu grwpiau oedran cynradd, uwchradd ac oedolion a bydd Gwobr Ragoriaeth Gyffredinol yn cael ei chyflwyno i’r enillydd categori yr ystyrir bod ei gyfraniad neu ei gyfraniad posibl i godi safonau sgiliau sylfaenol yng Nghymru yn nodedig iawn. Bydd hawl gan gyhoeddiadau a roddir ar y rhestr fer i ddefnyddio logo’r Gwobrau a bydd y teitlau hyn yn cael eu hyrwyddo’n eang ar draws Cymru.
 
2. Lansiwyd y Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol ym mis Ebrill 2001.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi addo £27 miliwn i’r Strategaeth. Gofynnwyd i’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol oruchwylio gweithrediad y Strategaeth Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
 
3. Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yw’r asiantaeth genedlaethol sy’n datblygu llythrennedd a rhifedd yng Nghymru a Lloegr. Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yw Alan Wells OBE.
 
4. Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n gorff cenedlaethol, a ariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae’n darparu canolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Ei bwrpas yw cefnogi’r diwydiant cyhoeddi a cheisio gwella amrywiaeth a safon y deunyddiau a gyhoeddir yn Gymraeg ac yn Saesneg fel ei gilydd. Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru yw Gwerfyl Pierce Jones.
 
5. Dangosodd ymchwil a wnaethpwyd gan The Opinion Research Business  bod gan 28% o oedolion Cymru lefelau llythrennedd isel a bod gan 32% lefelau rhifedd isel.
 
6. Ni chodir tâl am gymryd rhan yn y Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol.  Gall cyhoeddwyr gynnig hyd at 4 o gyhoeddiadau/adnoddau mewn unrhyw gategori, a chyfanswm o ddim mwy na 24 cynnig ar draws yr holl gategorïau. Mae’n rhaid i’r cyhoeddiadau a gynigir fod wedi’u cyhoeddi ar ôl 1 Ionawr 1999.
 
7. Mae ffurflenni cais a manylion pellach ar gael gan Y Gweinyddwr, Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol. Ffôn/Ffacs 01970 828009 neu e-bost teulu@cdewi.freeserve.co.uk
 
8. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rhian Hortin yn yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol ar 020 7440 7788 neu anfonwch e-bost at rhianh@basic-skills.co.uk


  {(}
{)}