Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

YN ÔL I’R SIOE MEWN STEIL

Mi fydd gan y Cyngor Llyfrau stondin fwy nag erioed ar faes y Sioe Amaethyddol eleni, gan wneud yn sicr bod digon o le i arddangos yr holl lyfrau newydd sydd ar gael.

‘Gan i’r sioe gael ei gohirio y llynedd, rydym yn falch o allu dod yn ôl i Lanelwedd eleni gyda darpariaeth ehangach ar gyfer y cyhoedd,’ meddai Phil Davies, Pennaeth Marchnata’r Cyngor Llyfrau.

Unwaith eto mae’r Cyngor wedi trefnu i roi sylw arbennig i lyfrau penodol, pryd y bydd cyfle i gyfarfod rhai o’r awduron ac i brynu copïau o’r llyfrau.

Yn naturiol, mae nifer o’r llyfrau newydd ac iddynt naws amaethyddol gref, megis y gyfrol o farddoniaeth Saesneg Carreg Las and other works am brofiadau a phroblemau ffermio ar y Mynydd Du a hefyd y gyfrol O’r Lludw – nofel i blant am ddioddefaint un teulu yn sgil clwy’r traed a’r genau.

‘Mae’r argyfwng amaethyddol diweddar wedi esgor ar gynnyrch llenyddol gafaelgar iawn,’ ychwanegodd Phil Davies, ‘a bydd y cyfan ar werth gennym yn y Sioe Amaethyddol.’

Rhoddir sylw arbennig i’r llyfrau canlynol ar y stondin yn ystod y Sioe, a bydd yr awduron ar gael am 11.00 y bore ym mhob achos i gwrdd â’r darllenwyr.

Dydd Llun

Discovering Celtic Cuisine, Margaret Rees (Gomer)

Casgliad amrywiol o 37 o ryseitiau blasus o’r gwledydd Celtaidd.


Dydd Mawrth

Carreg Las and Other Works, John Jones (The Collective)

Cyfrol o farddoniaeth Saesneg gan y ffermwr a’r bardd o’r Fenni. Yn y gyfrol ysgytwol hon, mae’n pwyso’n drwm ar ei brofiadau o weithio’r tir.

Dydd Mercher

The Versatile Welsh Breeds, Brenda Williams (Y Lolfa)

Cyfrol yn olrhain hanes a nodweddion y Cobiau Cymreig gan un sy’n fridwraig ceffylau brofiadol.

‘Bydd cyfle i bawb gael golwg ar y llyfrau diweddaraf ar stondin y Cyngor Llyfrau eleni, a chyfle hyd yn oed i gael llyfrau am brisiau rhad, a fydd yn sicr o blesio’r rhai sy’n edrych am fargen,’ nododd Phil Davies.

Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB Ffôn: (01970) 624151 Ffacs: (01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}