Mae Mwynwen Mai Davies o Lanbedr Pont Steffan eisoes wedi
dechrau ar ei dyletswyddau fel cynrychiolydd y Cyngor
yn y de-orllewin, ac yn ymweld â siopau'r ardal
i gymryd archebion am y llyfrau diweddaraf. Cafodd Mwynwen
ei haddysgu yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin, gan
ddilyn cyrsiau pellach yn y Coleg Normal, Bangor, a Phrifysgol
Cymru, Llanbedr Pont Steffan, gan raddio yn y Gymraeg
yno eleni.
'Dwi'n
mwynhau'r gwaith o ymweld â'r siopau i gyflwyno'r
llyfrau diweddaraf,' meddai Mwynwen. 'Y dyddiau hyn, wrth
gwrs, rwy'n gallu cyrraedd y siopau gyda chyfrifiadur
dan fy nghesail yn barod i ddangos y manylion sydd ar
gwales.com, sy'n llawer haws na gorfod cario'r
holl lyfrau i bob man!'
Mae
Siôn Ilar Joyce hefyd wedi dechrau ar ei swydd yn
yr Adran Ddylunio. Yn enedigol o'r Groeslon, ger Caernarfon,
dilynodd gyrsiau celf yng Ngholeg Technegol Bangor a Choleg
Celf Caerfyrddin. Cyn ymuno â'r Cyngor Llyfrau roedd
yn brif ddylunydd i gwmni Golwg yn Llanbedr Pont Steffan.
Ychwanegodd
Siôn: 'Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd fy mhrofiad
o weithio gyda'r cylchgrawn Golwg o gymorth i mi
yn fy swydd newydd, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio
ar gynlluniau fydd yn hyrwyddo'r amrywiaeth o lyfrau o
Gymru.'
|

Mwynwen Mai Davies yn trafod y
llyfrau diweddaraf gyda Wyn Thomas, Siop y Pentan, Caerfyrddin.

Sion Ilar wrthi'n cynllunio taflen i hyrwyddo llyfrau.
|