|
13
Ionawr 2004
WYNEBAU NEWYDD YN Y CYNGOR LLYFRAU
Penodwyd
dau berson newydd i staff Adran Farchnatar Cyngor
Llyfrau yn ddiweddar, un i fod yn gyfrifol am y Cynllun
Ymestyn ar llall i ymweld â siopau llyfrau
yn Ne-ddwyrain Cymru.
Mae Emma Evans yn enedigol o Benrhyn-coch, ger Aberystwyth,
ac ar ôl dilyn cwrs mewn Cyfathrebu ar Cyfryngau
ym Mhrifysgol Cymru Bangor, bun gweithio am gyfnod
gyda chwmni cysylltiadau cyhoeddus Strata Matrix.
Emma fydd yn gyfrifol am weinyddur Cynllun Ymestyn,
y cynllun i hybu llyfrwerthwyr i gynnal stondinau llyfrau
mewn digwyddiadau ledled Cymru.
Rwyn gobeithion fawr y bydd trefnwyr
digwyddiadau trwy Gymru yn manteisio ar y cynllun llwyddiannus
hwn, ac mae croeso iddyn nhw gysylltu â ni yn
y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth am fwy o wybodaeth,
meddai Emma.
Mae
Dilwyn Phillips yn adnabyddus i nifer o lyfrwerthwyr
drwy Gymru eisoes gan iddo fod yn ymweld â siopau
llyfrau ar ran Y Lolfa. Dilwyn fydd cynrychiolydd
y Cyngor yn ardal y De-ddwyrain a bydd yn casglu archebion
llyfrau gan y llyfrwerthwyr.
Rydym yn falch o gael croesawur ddau yn
aelodau o staff yr Adran, meddai Phil Davies,
Pennaeth Adran Farchnatar Cyngor Llyfrau, gan
ychwanegu at y tîm egnïol syn hyrwyddo
llyfrau drwy Gymru.
Llais arall fydd yn dod yn gyfarwydd i lyfrwerthwyr
Cymru fydd un Margaret Evans, gan iddi hi gael ei phenodin
ddiweddar ar staff y Ganolfan Ddosbarthu yn Aberystwyth
i ddelio ag archebion dros y ffôn.
|