National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 
26 Ebrill, 2001
CYHOEDDI TAFLENNI NEWYDD I HYBU LLYFRAU O GYMRU

Mae dwy daflen newydd wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar i roi sylw arbennig i lyfrau ym maes celf a chrefft ac i lyfrau sy’n cyflwyno Cymru. Cyhoeddwyd y taflenni, sy’n cynnwys manylion am dros 150 o deitlau, dan adain y Cynllun Ymestyn.

‘Ein gobaith yw y bydd y detholiad safonol a chynhwysfawr a geir yn y daflen Celf a Chrefft o ddiddordeb ac o ddefnydd i’r sawl sydd â chysylltiad â’r meysydd hyn, yn ogystal â’r llyfrwerthwyr a’r cyhoedd,’ meddai Elwyn Williams, Swyddog y Cynllun Ymestyn.

Mae’r daflen Books from Wales yn cynnwys detholiad o lyfrau Saesneg sydd yn gyflwyniad ardderchog i Gymru, gan restru’r teitlau dan benawdau hanes, diwylliant, iaith, a phobl a mannau arbennig. Fe fydd y llyfrau hyn yn sicr o apelio at ymwelwyr yn ogystal â’r Cymry sy’n awyddus i ddarllen am eu hanes.


  {(}
}