Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 
26 Medi 2002

CASGLIAD O NOFELAU CYMRAEG

Bydd taflen hyrwyddo ddiweddaraf y Cyngor Llyfrau wrth fodd y rhai sy’n cael mwynhad o ymgolli mewn nofel dda. Mae’r daflen Nofelau Cymraeg nid yn unig yn rhoi gwybodaeth am y nofelau, ond y mae hefyd yn cynnwys adolygiad ohonynt oddi ar wefan www.gwales.com. Cynhyrchwyd y daflen fel rhan o Gynllun Ymestyn y Cyngor Llyfrau, ac eisoes fe’i dosbarthwyd yn eang drwy Gymru benbaladr.

‘Mae’r daflen yn hyrwyddo’r nofelau mewn ffordd wahanol i’r arfer,’ meddai Elwyn Williams, Swyddog y Cynllun Ymestyn. ‘Rydym wedi atgynhyrchu un ar bymtheg o adolygiadau a baratowyd yn wreiddiol ar gyfer gwefan www.gwales.com ac rydym yn sicr y bydd y rhain yn rhoi blas o’r llyfrau i’r darllenwyr ac y byddant yn abwyd iddynt eu darllen.

‘Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y daflen yn annog pobl i wneud mwy o ddefnydd o’r wefan i ddod o hyd i adolygiadau eraill ar y safle ac i gynnig eu hymateb eu hunain i unrhyw un o’r llyfrau.’

Mae croeso i unrhyw un sydd am dderbyn copi o’r daflen gysylltu ag Elwyn Williams yn y Cyngor Llyfrau (elwyn.williams@cllc.org.uk).



Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB.
Ffôn: (01970) 624151 Ffacs: (01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk


  {(}
{)}