|
CREU
CERDDI MEWN TIPI! (29 Awst 2003)

Tipis llwyth y Sioux ywr lleoliad diweddara i
gynnig ysbrydoliaeth i feirdd ifanc Cymru!
Cafodd plant o Ysgol Gymraeg Brynsierfel, Llwynhendy,
Llanelli, gyfle i fod yn rhan o weithdy barddoniaeth
gyda Menna Elfyn yn y tipis sydd ar fferm yr Hendre,
Blaenannerch. Trefnwyd y sesiwn er mwyn gwobrwyor
ysgol am ei chefnogaeth i Glwb Llyfrau Sbondonics.
Sbondonics ywr Clwb Llyfrau Cymraeg ar gyfer plant
7 i 11 oed a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae 32,000
o daflenni gwerthu lliwgar y clwb yn cael eu dosbarthu
bob tymor i blant ym mhob cwr o Gymru. Yn 20022003,
gwerthwyd dros 23,000 o lyfrau trwyr clybiau llyfrau
Cymraeg, gan ddod â chyfanswm y gwerthiant i fwy
na £100,000 am y tro cynta erioed.
Roedd yn addas iawn ein bod nin cynnal gweithdy
barddoniaeth yn fferm yr Hendre, gan mai dyma gartrer
Prifardd Dic Jones, meddai Delyth Humphreys, Swyddog
Clybiau Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau. Diolch
i gwmni Tipi West am leoliad gwych!
Yn y llun, gwelir disgyblion Ysgol Brynsierfel, Llwynhendy,
mewn gweithdy barddoniaeth gyda Menna Elfyn, Bardd Plant
Cymru 20022003, yn Tipi West, Blaenannerch, Ceredigion.
Am fwy o wybodaeth am y Clybiau Llyfrau Plant, cysylltwch
â Delyth Humphreys (01970 624151 delyth.humphreys@cllc.org.uk).
Am fwy o wybodaeth am Tipi West ewch ir wefan
www.tipiwest.co.uk neu ffoniwch 07813 672336.
Menna Elfyn oedd Bardd Plant Cymru 20022003.
Cynllun i hyrwyddo barddoniaeth ymhlith plant a phobl
ifanc yw Bardd Plant Cymru, a chaiff ei drefnu ar y
cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, yr Urdd ar
Academi.
|