|
LLYFRAU
O GYMRU AR WERTH YN TESCO
Fel rhan ou rhaglen i hyrwyddo cynnyrch o Gymru, cyhoeddodd
Tesco heddiw (8 Mai) y byddant yn stocio ystod eang o lyfrau
gan brif weisg Cymru yn eu siopau o hyn ymlaen. Fe fydd
y detholiad o deitlau yn cynnwys llyfrau Cymraeg yn ogystal
â llyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig, gan gynnwys
teitlau ar gyfer plant, ieuenctid ac oedolion.
Fel rhan or cyhoeddiad heddiw, fe ymwelodd Jenny Randerson,
y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon ar Iaith Gymraeg,
â siop Tesco yng Nghroes Cwrlwys, Caerdydd, gan longyfarch
pawb ar y fenter newydd.
Dywedodd Mrs Randerson: Maer hen ddihareb
Gorau cof, cof llyfr yn hollol gywir.
Fe fydd y cynllun yma nid yn unig yn gymorth i ddarllenwyr
gael gafael ar y llyfrau o safon a gynhyrchir yng Nghymru,
ond fe fydd hefyd yn ffordd wych o hyrwyddo treftadaeth a
diwylliant Cymru. Maen holl bwysig bod llyfrau
ar gael mewn ystod eang o lefydd, o lyfrgelloedd i archfarchnadoedd,
i nodi pwysigrwydd darllen ar gyfer hamdden a dysgu.
Bydd cael y llyfrau hyn yn siopau Tesco, yn Gymraeg a Saesneg,
yn rhoir cyfle i gynulleidfa ehangach fwynhaur
ddarpariaeth sydd ar gael.
Caiff y fenter newydd ei lansio gydar llyfraun
cael eu gwerthu ym mhrif siopau Tesco o Gaerdydd i Gaernarfon,
gydar bwriad o ehangur ddarpariaeth dros y misoedd
nesaf.
Dywedodd Meinir Phillips, Pennaeth Marchnata (Cymru) ar ran
siopau Tesco, ac un sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygur
cynllun: Rydym bob amser yn falch or cyfle i hyrwyddo
cynnyrch o Gymru yn ein siopau, ac felly maen hollol
naturiol i ni fod yn gwerthu llyfrau o Gymru, yn y ddwy iaith.
Hyderwn yn fawr y bydd cynulleidfa newydd eto yn cael cyfle
i weld y dewis gwych o lyfrau sydd ar gael.
Wrth groesawur datblygiad newydd yma dywedodd Gwerfyl
Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru: Rydym
yn croesawu unrhyw ddatblygiad syn golygu y bydd cyfle
i fwy o bobl brynu llyfrau o Gymru. Rydym yn hynod falch
or ddarpariaeth o lyfrau Cymraeg a Chymreig sydd ar
gael y dyddiau hyn ac yn llongyfarch Tesco am weld y cyfle
i hyrwyddo cynnyrch Cymru.
I gofnodi achlysur y cyhoeddiad yn siop Tesco, Croes Cwrlwys,
fe gafodd criw o blant o Ysgol Gynradd Pwll Coch, Caerdydd,
gyfle i ymweld âr siop ac i gymryd rhan mewn sesiwn
stori.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag:
Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion
SY23 2JB
Ffôn (01970) 624151 Ffacs (01970) 625385 E-bost
elwyn.jones@cllc.org.uk
|