|
ENILLYDD
GWOBR TIR NA N-OG 2001
Cyhoeddodd
y Cyngor Llyfrau heddiw (4 Hydref) mai enillydd Llyfr Saesneg
Gorau'r Flwyddyn 2001 yw The Seeing Stone, Kevin Crossley-Holland
(Orion Children's Books).
Cyflwynir
gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu
gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant, gyda'r enillwyr
yn derbyn gwobr o �1,000 yr un.
Mae
Kevin Crossley-Holland yn enw adnabyddus ym maes llenyddiaeth
plant, yn arbennig am ei waith yn ail-gyflwyno chwedlau traddodiadol.
Ymhlith ei gyfrolau y mae British Folk Tales a The Penguin
Book of Norse Myths.
Bu'r
awdur yn gweithio ym maes cyhoeddi am rai blynyddoedd, ac
y mae hefyd wedi cynhyrchu a chyflwyno nifer o raglenni radio
i�r BBC. Y mae bellach yn byw yn Norfolk, yn agos at y môr,
lle y bu'n aros gyda'i daid a'i nain pan oedd yn blentyn.
Mae wedi cyhoeddi saith cyfrol o farddoniaeth i oedolion,
ond am ei waith yn ysgrifennu llyfrau plant y mae'n fwyaf
adnabyddus. Bu'n cydweithio hefyd gyda'r Athro Gwyn Thomas
ar gyfrolau megis Tales From the Mabinogion, The Quest For
Olwen a The Story of Taliesin.
The
Seeing Stone yw'r gyfrol gyntaf mewn trioleg sy'n cysylltu
hanes y Brenin Arthur a'r bywyd canoloesol. Adroddir y stori
yn y llyfr gan fachgen ifanc o'r enw Arthur de Caldicot, sy'n
byw ar y Gororau yn y flwyddyn 1199, a chawn rannu ei obeithion
a'i ofnau wrth iddo ddod yn farchog. Drwy'r cyfan mae stori'r
Brenin Arthur ei hun yn cael ei hadrodd yn gelfydd.
Mae'r
llyfr wedi ennill y Guardian Children�s Book Award, a gwobr
efydd y Smarties Prize, ac y mae'n un o'r llyfrau sydd wedi
ei enwi ar restr fer y Whitbread Children's Book of the Year.
�Rydym
yn hynod falch ein bod yn cyflwyno'r wobr am Lyfr Saesneg
Gorau'r Flwyddyn i awdur mor nodedig,' meddai Menna Lloyd
Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor.
Am
ragor o wybodaeth cysyllter ag Elwyn Jones, Swyddog Marchnata,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion
SY23 2JB
Ffôn:
01970 624151 e-bost: elwyn.jones@cllc.org.uk
Kevin Crossley-Holland: 01328 730167
|