|
11
Hydref 2001
DAU
AWDUR POBLOGAIDD YN CIPIO GWOBRAU
TIR NA N-OG 2001
Dau
awdur poblogaidd sydd wedi ysbrydoli miloedd o blant i fwynhau
llyfrau a barddoniaeth yw enillwyr gwobrau Tir na n-Og eleni.
BETHAN
GWANAS, awdur y nofel lwyddiannus Amdani,
a'r gyfres o'r un enw a ddarlledir ar S4C, yw enillydd y wobr
am Ffuglen Orau'r Flwyddyn. Enillodd y wobr am y gyfrol Llinyn
Trôns (Y Lolfa), ac ynddi ceir hanes gwrthdaro
a chyfeillgarwch ymysg criw brith o ddisgyblion TGAU ar gwrs
mewn canolfan awyr agored. Mae'r gyfrol eisoes wedi gwerthu
dros 1,600 o gopïau.
Yn
enedigol o Ddolgellau, bu Bethan yn byw yn Ffrainc am flwyddyn
cyn gwneud cyfnod o waith gwirfoddol yn Nigeria. Bu'n dysgu
am gyfnod, ac yn gweithio i'r Urdd a Radio Cymru; bellach
mae hi'n ysgrifennu'n llawn amser ac yn hyrwyddo gweithgareddau
darllen yng Ngwynedd.
Enillydd
Gwobr Llyfr Gorau'r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen yw MYRDDIN
AP DAFYDD am y gyfrol o farddoniaeth Jam
Coch Mewn Pwdin Reis (Hughes). Myrddin oedd y
cyntaf i dderbyn yr anrhydedd o fod yn Fardd Plant Cymru,
yn 2000, a thrwy ei waith fel Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Carreg
Gwalch, Llanrwst, mae wedi gwneud mwy na neb i hybu barddoniaeth
ymysg plant a phobl ifanc.
Yn
ystod ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru 2000, ysgrifennodd Myrddin
nifer o gerddi i gofnodi'r achlysur, yn ogystal â chynnal
gweithdai barddoniaeth mewn ysgolion ledled Cymru. Mae'r gyfrol
Jam Coch Mewn Pwdin Reis yn
ffrwyth ei gyfnod llwyddiannus fel Bardd Plant Cymru, ac mae'n
cynnwys cerddi ganddo ef ei hun yn ogystal â nifer o
gerddi'r plant.
Cyflwynir
gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu
gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant, gyda'r enillwyr
yn derbyn gwobr o �1,000 yr un. Darlledwyd y seremoni'n fyw
ar raglen blant S4C, Uned 5,
ddydd Iau, 11 Hydref.
Enillwyr
Gwobrau Tir na n-Og 2001
Ffuglen
Orau'r Flwyddyn
Llinyn Trôns, Bethan Gwanas (Y Lolfa)
Llyfr
Gorau'r Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen
Jam Coch Mewn Pwdin Reis, Myrddin ap Dafydd (Hughes)
Am
ragor o wybodaeth cysyllter ag Elwyn Jones, Swyddog Marchnata,
Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion
SY23 2JB Ffôn: 01970 624151 e-bost: elwyn.jones@cllc.org.uk
Gellir
cysylltu â Bethan Gwanas ar 01341 422771 ac â
Myrddin ap Dafydd ar 01492 642031.
|