|
9
Hydref 2002
GWOBRAU TIR NA N-OG 2002
Cyhoeddwyd
enwau enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2002 yn fyw heddiw (9 Hydref)
ar y rhaglen deledu Gwobrau Tir na n-Og 2002 ar
S4C.
Enillydd
Ffuglen Oraur Flwyddyn yw SHONED WYN JONES am y gyfrol
Gwirioni (Y Lolfa), nofel gyfoes rymus ir arddegau
yn ymwneud â chymhlethdodau perthynas ar problemau
a gafwyd yn sgil y berthynas honno.
Daw
Shoned Wyn Jones o Ddyffryn Ogwen yn wreiddiol. Maen
Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol John Bright, Llandudno.
Eisoes cyhoeddodd ddwy nofel ar gyfer yr arddegau, sef Adlais
a Fory Ddaw.
Enillwyr
y wobr am Lyfr Goraur Flwyddyn ac Eithrio Ffuglen yw
NON AP EMLYN a MARIAN DELYTH am y gyfrol o farddoniaeth Poeth!
(Y Lolfa), cyfrol arbennig o safonol syn gyfuniad o
gerddi ffres ac amrywiol a diwyg modern a chyfoes.
Y
mae Non ap Emlyn, golygydd y gyfrol, yn arbenigo ym maes dysgwyr
ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac adnoddau ar gyfer dysgwyr.
Y mae hefyd yn addasydd profiadol ac wedi addasu nifer fawr
o lyfrau ir Gymraeg ar gyfer y plant lleiaf.
Dyluniwyd
y gyfrol gan Marian Delyth, ffotograffydd a dylunydd proffesiynol.
Yr oedd yn un o gyd-enillwyr gwobr Tir na n-Og ym 1996 am
y gyfrol Sbectol Inc. Y llynedd cyhoeddodd gyfrol hardd ar
y cyd â Dr Gwynfor Evans, sef Cymru o Hud.
Dyfarnwyd
y wobr am y llyfr Saesneg gorau i MALACHY DOYLE am ei gyfrol
Georgie (Bloomsbury), nofel wedii lleoli mewn
cartref plant yng ngogledd Cymru. Maer nofel yn tynnu
oddi ar brofiad personol yr awdur o weithio mewn ysgolion
i blant ag anghenion arbennig.
Wedii
eni yn Ngogledd Iwerddon, y mae Malachy Doyle ai deulu
yn byw yng Nghymru ers 1984. Ac yntaun awdur toreithiog,
roedd ei gyfrol Owen and the Mountain ar restr fer
Tir na n-Og y llynedd. Cyhoeddodd hefyd rai llyfrau wedi eu
seilio ar chwedlau Cymru.
Roedd
tasg anodd iawn yn wynebur beirniad eto eleni,
meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant
y Cyngor Llyfrau. Y maer llyfrau sydd wedi cyrraedd
y brig yn arwydd o safon arbennig llyfrau plant yng Nghymru
y dyddiau hyn a hefyd or ystod eang o lyfrau sydd ar
gael. Rydym yn hynod falch o gael llongyfarch yr enillwyr
yn wresog ar eu camp.
Cyflwynir
gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu
gwaith awduron ac arlunwyr llyfrau plant, gydar enillwyr
yn derbyn gwobr o £1,000 yr un. Yn dilyn y cyhoeddiad
ar y rhaglen deledu Gwobrau Tir na n-Og 2002 heddiw,
fe fydd yr enillwyr hefyd yn cael eu hanrhydeddu yn ystod
Cynhadledd Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau (2 Tachwedd 2002)
yng nghwmni Jenny Randerson, y Gweinidog dros Ddiwylliant,
Chwaraeon ar Iaith Gymraeg.
Am
fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB.
Ffôn: (01970) 624151 Ffacs: (01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk
|