Diwrnod Y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
 
 

PEN-BLWYDD HAPUS, T. LLEW
 
I ddathlu pen-blwydd un o awduron amlycaf yr iaith Gymraeg, bydd clwb llyfrau Sbondonics yn trefnu bod miloedd o gardiau cyfarch yn cael eu hanfon ato.
 
Bydd T. Llew Jones, awdur rhai o’r llyfrau plant Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed, yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar 11 Hydref eleni, ac mae’r Cyngor Llyfrau yn gwahodd holl aelodau clwb llyfrau Sbondonics i greu cardiau personol i ddiolch iddo am yr holl lyfrau y mae wedi eu hysgrifennu.
 
‘Mae pen-blwydd un o’n prif awduron llyfrau plant yn rhywbeth arbennig i’w ddathlu,’ meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau, ‘a pa ffordd well i unrhyw awdur ddathlu’r achlysur na derbyn gwerthfawrogiad brwd ei ddarllenwyr.  Mae cyfraniad T. Llew Jones i lenyddiaeth plant yn un arbennig iawn ac mae’n parhau i lwyddo i swyno’i gynulleidfa.’
 
Bydd bocs anrheg T. Llew Jones, yn cynnwys tri o’i lyfrau, yn cael eu gwerthu drwy glwb Sbondonics, a bydd rhai o’r llyfrau wedi eu llofnodi gan yr awdur.
 
Yn goron ar y cyfan, bydd nifer cyfyngedig o gardiau arbennig i’w gweld yn rhai o’r llyfrau, a’r rheiny’n cynnwys gwahoddiad personol i gwrdd â’r awdur.
 
‘Fe fydd yn fraint arbennig i griw o’r plant gael cyfarfod â T. Llew Jones,’ ychwanegodd Menna Lloyd Williams, ‘a chael cyfle i’w holi am ei ddawn dweud stori.’
 
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, ABERYSTWYTH, Ceredigion  SY23 2JB T (01970) 624151  F (01970) 625385 E elwyn.jones@cllc.org.uk

 

 


  {(}
{)}