|
27
Tachwedd 2003
ARTISTIAID CYMRUN CEFNOGIR TOCYNNAU
Fel rhan or gyfres o 6 o gardiau newydd fe geir delweddau
gan ddwy artist o Gymru. Mae llun Mary Lloyd Jones,
Mynydd Parys, iw weld ar gerdyn yn y gyfres, yn ogystal
â Ffair y Bala, Catrin Williams. Fe geir hefyd
olygfeydd trawiadol iawn o Gymru yn cynnwys Castell Carreg
Cennen, Rhosili a Llyn Padarn yn Eryri.
Y maer tocynnau eu hunain hefyd wedi eu hail-gynllunio
i roi delwedd newydd a ffres ir cynllun. Comisiynwyd
y dylunydd graffeg Meirion Wyn Jones o gwmni FBA, Aberystwyth,
i wneud y gwaith.
Maer tocynnau wedi bod yn boblogaidd ar hyd y
blynyddoedd, ychwanegodd Phil Davies, ond roedd
yn bryd i ni gyflwyno delweddau newydd ar eu cyfer a bydd
y rhain yn eu tro yn fodd i ni hybur cynllun ymhellach.
Y bwriad yw cyhoeddi cyfres bellach o gardiau newydd ddechraur
flwyddyn fel bod 12 cerdyn ar gael ir cyhoedd.
Am fanylion pellach cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth
Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru,
Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB
T (01970) 624151 F (01970) 625385 elwyn.jones@cllc.org.uk
|