|
10
Ionawr 2005
GWERTHIANT LLYFRAUN TORRI POB RECORD
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru heddiw bod gwerthiant llyfraur
Nadolig wedi torri pob record, gyda chynnydd o 20% yng ngwerthiant
Tachwedd a Rhagfyr oi gymharu âr flwyddyn
flaenorol.
Cafwyd gwerthiant arbennig iawn ym mis Tachwedd,
meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau,
pryd y gwelwyd y llyfrau newydd yn cyrraedd y siopaun
gynnar ar gyfer y farchnad Nadolig. Y sialens i ni wedyn
oedd cynnal y cynnydd yn y gwerthiant drwy gydol mis Rhagfyr.
Rydym yn hynod falch o gael nodi bod y detholiad gwych o lyfrau
ar ymdrechion ychwanegol i hyrwyddo llyfrau yn
y wasg ar cyfryngau wedi cyfrannu at y galw,
gan sicrhau Nadolig llwyddiannus ir diwydiant llyfrau
yng Nghymru.
Llwyddwyd i gyrraedd gwerthiant o £1,057,342 drwy Ganolfan
Ddosbarthur Cyngor Llyfrau yn ystod misoedd Tachwedd
a Rhagfyr.
Wrth longyfarch holl sectoraur fasnach lyfrau yng Nghymru
ar eu llwyddiant, dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant,
y Gymraeg a Chwaraeon: Maer ffigurau hyn
yn hwb sylweddol ir fasnach lyfrau yng Nghymru.
Y flwyddyn hon, fe gynyddodd Llywodraeth y Cynulliad y nawdd
ar gyfer hyrwyddo a marchnata llyfrau o Gymru ac maen
dda gweld bod y cynlluniaun dwyn ffrwyth.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Swyddog Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB ( (01970) 624151 2
(01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk
|