|
21
Gorffennaf, 2004
Y GYMRAEG YN TYFU!
Bydd y cymeriad hoffus Tomos Twf yn rhan o ymgyrch drwy Gymru
i gynorthwyo rhieni i gyflwynor Gymraeg iw plant.
Maer cynllun, a weithredir ar y cyd rhwng Cyngor Llyfrau
Cymru a Twf, sef y prosiect syn annog rhieni i
fagu eu plant yn ddwyieithog, yn ymateb i gais gan rieni iw
cynorthwyo i ddewis llyfrau addas iw cyflwyno iw
plant ac yn cyd-fynd â strategaeth iaith y Cynulliad
Cenedlaethol.
Un
or rhieni fydd yn manteisio ar y cyfle i gyflwynor
Gymraeg iw phlentyn fydd Tanni Grey Thompson:
Does dim byd yn well na chael hanner awr fach dawel
i ddarllen gyda Carys, meddai. Mae 'na gymaint
o lyfrau Cymraeg lliwgar, pert o gwmpas. Mae e'n rhoi teimlad
cynnes, braf ac mae'n gyfle i fi wella 'Nghymraeg a dysgu
'chydig i Carys.Maer llyfryn arbennig Dewch i
Ddarllen Gydach Plentyn, syn cynnwys lluniau cartw?n
or cymeriad Tomos Twf, yn rhestru llyfrau syml dwyieithog,
y gall rhieni nad ydynt yn Gymry Cymraeg ddarllen gydau
plant. Maer llyfryn hefyd yn cynnwys canllawiau a phosau
syml i gyflwynor Gymraeg yn y cartref.
Dywedodd Meryl Pierce, Swyddog Prosiect Twf: Maer
llyfryn yn ymgais gennym i rannur neges gyda rhieni
nad oes raid ichi fod yn gallu siarad Cymraeg er mwyn rhannu
llyfr Cymraeg gydach plentyn. Rhoi cynnig arni
syn bwysig, a pheidio bod ag ofn gwneud camgymeriadau.
Mae digon o syniadau ymarferol yn y llyfryn ar sut i fynd
ati, ac o roir Gymraeg ir plentyn fe wyddom y
bydd ar ei ennill or dechrau un.
Fe ddosberthir y llyfryn yn rhad ac am ddim drwy rwydwaith
Cyngor Llyfrau Cymru, Twf, Mudiad Ysgolion Meithrin, Cymdeithas
Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru, llyfrgelloedd a siopau.
Ychwanegodd Lila Piette, ar ran y Cyngor Llyfrau: Gydar
Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Casnewydd eleni,
y maen hynod briodol ein bod yn cyhoeddi llyfryn i gynorthwyo
rhieni ifanc i gyflwynor Gymraeg iw plant. Mewn
ardal fel hon rydym yn ymwybodol iawn o awydd rhieni i helpuu
plant i ddefnyddior Gymraeg ac rydym yn falch o gael
bod yn rhan o gynllun all wneud hyn mewn ffordd ymarferol.
Maer holl lyfrau yn y daflen ar werth mewn siopau llyfrau
ac ar gael hefyd dros y we ar www.gwales.com.
Gellir archebu copïau or llyfryn trwy gysylltu
â Lila Piette yn y Cyngor Llyfrau (01970) 624151.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Pennaeth Gweinyddiaeth
a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan,
ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 2JB ( (01970) 624151 2
(01970) 625385 : elwyn.jones@cllc.org.uk
|