|
31
Hydref, 2002
DYCHWELYD I GYMRU I HYBU LLYFRAU
Mae
Cymraes a fun gweithio i bapur newydd y Telegraph
yn Llundain am dros ddeuddeng mlynedd wedi dychwelyd
i Gymru i weithio gydar Cyngor Llyfrau.
Mae Wendy Morris, syn enedigol o Aberystwyth,
wrth ei bodd yn cael dychwelyd iw thref enedigol
ac eisoes wedi dechrau ar ei swydd fel Uwch Swyddog
Gwerthiant yn goruchwylio gwaith y cynrychiolwyr syn
ymweld âr siopau llyfrau ledled Cymru.
Mae gan Wendy brofiad helaeth ym maes gwerthu, gan iddi
fod yng ngofal hyfforddi a rheoli rhai o brif dimau
gwerthu hysbysebion y Telegraph.
Rwyf yn gyfarwydd iawn âr sgiliau
sydd eu hangen ar gyfer gwerthu, meddai Wendy,
ac rwyn edrych ymlaen yn fawr at gael y
cyfle i ddefnyddior sgiliau hyn i hybu llyfrau
o Gymru. Gan fy mod wedi bod i ffwrdd o Gymru
am gynifer o flynyddoedd, doeddwn i ddim yn sylweddoli
bod y dewis o lyfrau wedi ehangu gymaint dros y blynyddoedd.
Maen wych gweld y dewis anhygoel sydd ar gael
y dyddiau hyn.
Dymar tro cyntaf ir Cyngor Llyfrau benodi
person yn arbennig i arwain gwaith y tîm o bedwar
cynrychiolydd, ac y maen ddatblygiad syn
cael ei groesawun fawr gan Phil Davies, Pennaeth
yr Adran Farchnata.
Mae ein cynrychiolwyr yn cynnig gwasanaeth arbennig
o dda ir llyfrwerthwyr ar cyhoeddwyr,
meddai Phil Davies, ac mae penodi Wendy yn dangos
ein hymrwymiad i ddatblygur gwasanaeth.
Am
ragor o wybodaeth cysylltwch ag:
Elwyn Jones,
Cyngor Llyfrau Cymru: 01970 624151
Bethan Gwanas: 01341 450230
Uned 5: 01286 678592
Ysgol Dyffryn Teifi: 01559 362310
|