|
18
Ionawr, 2002
CYFLE IR CYHOEDD NODI EU HYMATEB I LYFRAU
Ar ddechraur flwyddyn newydd lansiodd y Cyngor
Llyfrau gynllun cyffrous i sicrhau sylw pellach i lyfrau
o Gymru.
O hyn ymlaen bydd modd ir cyhoedd nodi eu hymateb
eu hunain i unrhyw un or miloedd o lyfrau syn
cael eu rhestru ar wefan y Cyngor www.gwales.com
gan ehangur cyfle i drafod llyfrau o Gymru.
Erbyn hyn mae dros 18,000 o deitlau ar y gronfa.
Y maer datblygiad diweddaraf hwn yn ychwanegol
at yr adolygiadau o deitlau penodol a welir ar www.gwales.com.
Mae bron i 400 o adolygiadau eisoes iw gweld ar
y safle, a bydd y cynllun yn parhau yn ystod y flwyddyn
hon gan sicrhau 1,000 o adolygiadau erbyn diwedd Mawrth
2003.
Mae cyfle bellach ir darllenwyr astudior
adolygiadau a sylwadaur cyhoedd, yn ogystal â
chael gwybodaeth lyfryddol a gweld lluniau o gloriaur
holl deitlau. Gellir hefyd archebu copïau trwy
siop och dewis.
Rydym yn sicr y bydd nifer fawr or darllenwyr
yn falch iawn or cyfle i gael nodi eu hymateb
ir llyfrau y maent wedi eu mwynhau, meddai
Phil Davies, Pennaeth Marchnatar Cyngor Llyfrau.
Maer datblygiad hwn hefyd yn enghraifft
dda o sut y mae modd defnyddior dechnoleg ddiweddaraf
i hybu diddordeb mewn llyfrau a darllen.
Am fwy o wybodaeth cysyllter ag: Elwyn Jones, Swyddog
Marchnata, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth,
Ceredigion, SY23 2JB
T (01970) 624151
F (01970) 625385
elwyn.jones@cllc.org.uk
|