National Year of Rading Wales Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Croeso
Swyddi
Newyddion
Datganiadau
Tlysau
Mewn Print
 
 
9 Ebrill, 2001
ARIAN I HYBU LLYTHRENNEDD

Y mae’r Cyngor Llyfrau wedi cael cadarnhad gan y Cynulliad Cenedlaethol ei fod i dderbyn arian ychwanegol ar gyfer dau gynllun llythrennedd fel estyniad o weithgareddau Diwrnod y Llyfr. Hwn yw’r tro cyntaf i Bwyllgor Llywio Diwrnod y Llyfr dderbyn arian ar gyfer cynlluniau penodol i hyrwyddo llythrennedd.

Bydd y cynllun cyntaf yn sicrhau deunydd hyrwyddo dwyieithog ar gyfer ymgyrch ddarllen a gynhelir gan y llyfrgelloedd cyhoeddus dros gyfnod yr haf. Roedd cynllun y Ras Ddarllen, a drefnwyd gan gwmni LaunchPad, yn llwyddiannus iawn y llynedd, gyda nifer fawr o blant yn ymweld â’u llyfrgell leol yn ystod y gwyliau ysgol. Bydd yr arian ychwanegol yn fodd i gynhyrchu deunydd hybu dwyieithog ar gyfer y cynllun diweddaraf, Carnifal Darllen, a bydd y Cyngor Llyfrau’n cydweithio’n agos â LaunchPad a llyfrgelloedd Cymru i sicrhau llwyddiant yr ymgyrch yng Nghymru.

Mae’r ail gynllun yn ymwneud â chynllun penodol i hybu llythrennedd deuol, sef yr arfer o ddarllen a chyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg gan symud yn rhwydd o’r naill iaith i’r llall. Un o gynlluniau llwyddiannus y Flwyddyn Darllen Genedlaethol oedd arbrawf a gynhaliwyd yn Ysgol Bodffordd, Ynys Môn, dan arweiniad y prifathro ar y pryd, Elfed Williams. Bydd y cymorth a dderbynnir yn fodd i sicrhau bod y ddau lyfr a gynhyrchwyd yn ystod yr arbrawf hwn ar gael i bawb.
  __  

  {(}
{)}