Diwrnod y Llyfr Y Cyngor English Version Llyfrau Plant Map y Safle Am Lyfrau Cysylltiadau Gwasanaethau Cartref Pa Newydd
 
Cefndir
Amcanion
Ffeithiau
Pwyllgorau
Staff
Cyfeillion
Canolfan
Cyhoeddiadau
Cyfarfodydd
 
 

CEFNDIR

Y mae’r Cyngor Llyfrau’n gorff cenedlaethol, dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Y mae’n darparu nifer o wasanaethau arbenigol (ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu) gyda golwg ar wella safonau cynhyrchu a chyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Er bod nifer o sefydliadau’n ymwneud ag agweddau ar gyhoeddi ym maes addysg a’r celfyddydau, nid oes unrhyw sefydliad arall yng Nghymru sy’n ymwneud â holl ystod maes cyhoeddi, o lawysgrif yr awdur i ddosbarthu a hybu gwerthiant.

Y mae gan y Cyngor Llyfrau ddiddordeb hefyd ym maes llythrennedd a hybu darllen. Ar gais Llywodraeth y Cynulliad, y mae'r Cyngor yn cydlynu holl weithgarwch Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008. Y Cyngor sydd hefyd yn gyfrifol am gydlynu gweithgarwch Diwrnod y Llyfr bob blwyddyn.

Y mae gan y Cyngor Llyfrau staff o 49, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio mewn Adrannau arbenigol sy’n cynnig gwasanaethau i’r fasnach gyhoeddi. Yr Adran fwyaf yw’r Ganolfan Ddosbarthu sy’n cynnig gwasanaeth cyfanwerthu i gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr. Yn wahanol i weddill gwaith y Cyngor, y mae’r Ganolfan hon, sydd â throsiant o £5.5 miliwn gros (£3.7 miliwn net), yn hunangynhaliol ac nid yw’n derbyn unrhyw gymorth o’r pwrs cyhoeddus. Y mae gan y Cyngor hefyd Adran Grantiau, sy’n gyfrifol am ddosbarthu grantiau i gynorthwyo cyhoeddi llyfrau, cylchgronau a deunydd perthnasol arall yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad grant ychwanegol o £200,000 y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf (2008/09–2010/11) tuag at gefnogi'r wasg cyfrwng Cymraeg.

Mae pencadlys y Cyngor Llyfrau yng Nghastell Brychan, Aberystwyth. Lleolir y Ganolfan Ddosbarthu ym Mharc Busnes Glanyrafon, ar gyrion y dref.

 

Castell Brychan, Aberystwyth, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru.

Castell Brychan, Aberystwyth, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru.

 

{pic}{testun}

  {(}
{)}