|
CYFEILLION Y CYNGOR LLYFRAU
Beth yw'r Cyfeillion?
-
Sefydlwyd Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru ym 1995,
gyda'r bwriad o greu grŵp o gefnogwyr i
waith y Cyngor yn gyffredinol, ac yn arbennig felly
eu hymdrech i hybu llyfrau Cymraeg a Chymreig.
- Trwy gysylltu'n rheolaidd â'r Cyfeillion,
mae'r Cyngor Llyfrau yn gallu cyflwyno iddynt
yr wybodaeth ddiweddaraf am y byd llyfrau yng Nghymru,
a hynny am dâl aelodaeth o £15 y flwyddyn.
- Erbyn hyn, mae'r Cyfeillion yn mynd o nerth i nerth,
gan gynnal cyfarfodydd blynyddol yng nghwmni rhai
o'n llenorion amlycaf. Eisoes, bu Jan Morris,
Emyr Humphreys a'r diweddar R. S. Thomas yn trafod
eu gwaith a'r dylanwadau a fu ar eu cynnyrch
llenyddol.
- Y mae gan y Cyfeillion eu cylchgrawn eu hunain yn ogystal,
sef Y Cyfaill, dan olygyddiaeth Lyn Lewis Dafis o
Aberystwyth. Mae'r cylchgrawn hwn yn llawn pytiau
diddorol am y byd llyfrau yng Nghymru, ac am ddiddordebau
llenyddol rhai o'r aelodau.
- Cadeirydd cyntaf Cyfeillion y Cyngor
Llyfrau oedd y diweddar Alun Creunant Davies, cyn-Gyfarwyddwr
y Cyngor Llyfrau a fu farw yn 2005.
|
|
Yr Athro M. Wynn Thomas yn cyflwyno anrheg i R. S.
Thomas ar achlysur Cyfarfod Blynyddol Cyntaf y Cyfeillion
ym mis Ebrill, 1997.
PDF [884k]
Y rhifyn diweddaraf o'r Cyfaill, cylchlythyr dwyieithog
y Cyfeillion, Gaeaf 2008.
|
|
Llywyddion Anrhydeddus
Mae tri o brif lenorion Cymru wedi derbyn yr anrhydedd
o fod yn Llywyddion Anrhydeddus i Gyfeillion Cyngor
Llyfrau Cymru, sef Islwyn Ffowc Elis, Emyr Humphreys
a Jan Morris.
| Tristwch o'r mwyaf i'r Cyfeillion yw cofnodi marwolaeth
Islwyn Ffowc Elis ym mis Ionawr 2004. |
Mae cyfraniad y tri yn arbennig iawn i fyd llenyddiaeth
Cymru gan mor amrywiol a gwahanol eu gyrfaoedd a'u
cynnyrch. Fel nofelydd arloesol y meddylir am Islwyn
Ffowc Elis yn bennaf, a gwyddom hefyd am ei gyfraniad
pwysig fel beirniad llenyddol. Daeth Emyr Humphreys
i amlygrwydd fel nofelydd ifanc gan ddatblygu hefyd
yn fardd a dramodydd teledu. Fel awdur taith y
derbyniodd Jan Morris sylw rhyngwladol, ond y mae bellach
wedi cyhoeddi nifer o lyfrau'n ymwneud yn benodol
â Chymru.
Y mae'r tri Llywydd Anrhydeddus wedi cofnodi eu
diolch a'u gwerthfawrogiad o dderbyn yr anrhydedd:
 |
Un o'r storïau mwyaf cyffrous yn hanes
ein diwylliant yw datblygiad Cyngor Llyfrau Cymru.
Ac yn awr mae gan y Cyngor gorff niferus o Gyfeillion
i'w gynnal a'i gefnogi. Braint
fawr i unrhyw un yw cael bod yn un o lywyddion
y Cyfeillion hyn.'
Islwyn Ffowc Elis
|
 |
'Yn yr oes hon o ddatblygiadau technolegol a chysylltiadau
byd-eang mae'r llyfr yn parhau yn gyfrwng
holl bwysig. Y mae'n dda gweld felly
bod gennym y Cyngor Llyfrau i hybu llyfrau o Gymru.'
Emyr Humphreys
|
 |
'Mae bodolaeth y Cyngor Llyfrau nid yn unig yn bwysig
o safbwynt cyhoeddi llyfrau yn y ddwy iaith yng
Nghymru, ond y mae'n ddatganiad bod y genedl
yn rhoi bri ar un o'r elfennau pwysicaf,
y gair ysgrifenedig.'
Jan Morris
|
|
|
|
Swyddogion y Cyfeillion
Cadeirydd: Tegwyn Jones
Is-Gadeirydd: Brynley F. Roberts
Ysgrifennydd: Lyn Léwis Dafis
Trysorydd: Richard Morgan
Aelodau'r Pwyllgor Llywio: Marian Delyth
Un lle gwag
Y Cyfeillion ar Waith
- Caiff y Cyfeillion eu cynrychioli ar brif gorff rheoli'r
Cyngor, gan gael cyfle i drosglwyddo barn a dyheadau'r
aelodau.
- Bydd unrhyw roddion neu gyfraniadau a dderbynnir gan y
Cyfeillion yn cael eu defnyddio i hyrwyddo gwaith
y Cyngor Llyfrau.
Beth yw manteision ymuno â'r Cyfeillion?
Drwy ymuno â Chyfeillion y Cyngor Llyfrau, byddwch
yn derbyn gwybodaeth reolaidd am y byd llyfrau yng Nghymru
a hynny mewn pecynnau tymhorol sy'n cynnwys deunydd
megis:
- Copi o'r cylchlythyr dwyieithog Y Cyfaill ddwywaith
y flwyddyn cylchgrawn bywiog a gyhoeddir yn
arbennig ar gyfer y Cyfeillion.
- Tocyn mantais gwerth £2.50 ym mhob pecyn, i'w
gyfnewid am lyfr o'ch dewis.
- Copi am ddim o'r cyfnodolyn Y Llyfr yng Nghymru, sef
cyhoeddiad blynyddol Canolfan y Llyfr Aberystwyth.
- Gwahoddiad i Gyfarfod Blynyddol y Cyfeillion.
- Copïau o gatalogau llyfrau a gyhoeddir gan y Cyngor Llyfrau,
yn ogystal â chatalogau a baratoir gan amryw
o gyhoeddwyr yn rhestru eu llyfrau diweddaraf.
- Rhestr gyflawn o'r llyfrau fydd yn cael eu cynnig
am hanner pris neu lai yn arwerthiant blynyddol y
Cyngor Llyfrau.
Sut i ymaelodi
Gellir ymaelodi â'r Cyfeillion am dâl o £15 y flwyddyn,
neu £125 am aelodaeth deng mlynedd. Gall aelodau am oes dalu trwy gyfamod.
Anfonwch am ragor o fanylion, a ffurflen aelodaeth, at:
Ysgrifennydd y Cyfeillion
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151 Ffacs: 01970 625385
Neu anfonwch e-bost at elwyn.jones@cllc.org.uk
|