
Croeso i we-ddalennau Diwrnod y Llyfr 2011 a gynhaliwyd ar ddydd Iau 3 Mawrth 2011.
************************************
Y Sesiwn Stori Fwyaf Erioed i’w chynnal yng Nghymru ar Ddiwrnod y Llyfr!
Er mwyn dathlu Diwrnod y Llyfr eleni, bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn rhoi cyfle i bob ysgol gynradd yng Nghymru gymryd rhan yn y sesiwn stori fwyaf erioed, gyda storïau a gomisiynwyd yn arbennig yn cael eu darllen iddynt trwy gyfrwng y rhyngrwyd. Bydd pedair stori Diwrnod y Llyfr a gomisiynwyd yn arbennig gan bedwar awdur o Gymru yn cael eu darlledu mewn ysgolion ar gyfer plant ysgol rhwng 7 ac 11 oed, a hynny trwy gyfrwng ffilmiau byrion sydd ar gael ar y we, fel y gall pob ysgol yng Nghymru wylio’r storïau’n dod yn fyw ar y diwrnod mawr, sef dydd Iau y 3ydd o Fawrth.
Dewiswch stori o'r rhestr ar y chwith.
Y Storïau
Stori Gymraeg ar gyfer plant 7 i 9 oed
‘Y Daten Ddieflig Ddrwg’ gan Morgan Tomos
Mae’r Daten Ddieflig Ddrwg â’i bryd ar reoli’r byd! Gyda help ei byddin o domatos coch, deg taten arall a dwy sosej, mae pethau’n edrych yn addawol ond yna . . . daw’r fforc i newid trywydd y stori!
Stori Gymraeg ar gyfer plant 9 i 11 oed
‘Hunangofiant Bachgen Drwg’ gan Nicholas Daniels
Mae’r disgyblion drwg yn cael eu hanfon i lyfrgell yr ysgol er mwyn ‘callio’. Mae eu troseddau’n amrywio ond dim ond un ohonyn nhw fydd yn elwa o’r ‘Cyfnod Callio’. Pwy fydd hwnnw, tybed? Beth oedd e wedi’i wneud o’i le, a beth fydd e’n ei ddarganfod yn y llyfrgell?
Stori Saesneg ar gyfer plant 7 i 9 oed
‘The Sleeper’ gan Ruth Morgan
Beth yw cyfrinach y cerflun pren rhyfedd yn neuadd yr ysgol? A oes ganddo’r gallu i droi breuddwyd yn ffaith? A fydd bywyd yr ysgol yn newid am byth o’i achos, a pham mae’r arolygwyr wedi’i anfon i’r ysgol yn y lle cyntaf?
************************************



Taflen Rhowch Lyfr yn Anrheg i Ddathlu Diwrnod y Llyfr
************************************
Adnodd dosbarth: Chwarae’r Gêm / Play On!
Anfonir pecyn dwyieithog, rhad ac am ddim, a fydd yn cynnwys llyfr yr athro, 15 copi o lyfryn y disgybl ac un CD, i bob ysgol gynradd.
Mae’r pecyn yn addas ar gyfer plant 7 i 11 oed ac yn cynnwys 14 o destunau amrywiol yn ogystal â llu o weithgareddau yn seiliedig arnynt. Mae’n adnodd gwych a fydd yn ddefnyddiol ar Ddiwrnod y Llyfr 2011 a thu hwnt.
Mae pdf o’r adnodd hwn i’w weld ar y dde.