Cystadlaethau

Sgwennu Stori Aled Hughes 2026 

Mae rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn cyflwyno cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru. 

Rydym yn galw ar ddisgyblion i ysgrifennu stori o ddim mwy na 500 gair sydd yn cychwyn gydag un o’r paragraffau isod (cynradd ac uwchradd yn wahanol).

Mae tri chategori:

Blynyddoedd 2, 3 a 4 (cynradd) 

Blynyddoedd 5 a 6 (cynradd) 

Blynyddedd 7, 8 a 9 (uwchradd)

Lansiwyd y gystadleuaeth yn swyddogol ar raglen Aled Hughes, ar 13 Ionawr 2026.

Bydd ceisiadau yn cael eu beirniadu ar sail y meini prawf canlynol:

  • gwreiddioldeb
  • plot
  • cymeriadu
  • iaith
  • mwynhad

a’r thema fydd . . . 

CYNRADD (Beirniad: Siôn Tomos Owen)
Ysgrifennwch stori fer sydd yn ddim mwy na 500 gair sydd yn cychwyn gyda’r paragraff yma:
Beth yn y byd oedd y Peth? A pwy union oedd wedi ei weld? Dim ond fideos o’r peth hwn yn torri trwy’r ddaear fel twrch daear oedd yn bodoli. Wel, dim ond fideos oeddwn i wedi weld tan y diwrnod pan welais i’r Peth, a’r holl bethau yr oedd o’n ei wneud gyda fy llygaid fy hun.

UWCHRADD (Beiniad: Ani Llŷn)
Ysgrifennwch stori fer sydd yn ddim mwy na 500 gair sydd yn cychwyn gydag un o’r paragraffau isod:
Naill ai:
Tydw i ddim fel arfer yn hoff o gyfrinachau. Tydw i ddim yn dda iawn am eu cadw nhw, chwaith. Ond roedd hyn yn wahanol.
Neu:
Roedd hi’n dywyll. Roedd y tywyllwch yn drwchus, ond eto roedd *ENW CYMERIAD* yn gweld llygedyn o oleuni.

DYDDIAD CAU’R GYSTADLEUAETH:  5 o’r gloch ar ddydd Mawrth, 5 Mawrth 2026

Siôn Tomos Owen ac Ani Llŷn fydd y beirniad yn pori drwy’r straeon ac yn dewis y dair stori orau.

 

Noder: Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026. Bydd yr enillwyr eu hunain yn derbyn rhodd gan Gyngor Llyfrau Cymru ac ymweliad awdur i’r ysgol.

 

Os am gystadlu, rhaid i ddisgyblion anfon eu straeon byrion drwy’r ysgol (ynghyd â ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru neu isod) at Radio Cymru erbyn y dyddiad cau.

Y cyfeiriad yw:

Sgwennu Stori Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi’n glir ffugenw’r disgybl, y categori, ac enw’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda. Bydd angen i’r ysgol gadw rhestr o’r enwau sy’n cyd-fynd â’r ffugenwau.

Mae hefyd modd uwchlwytho’r straeon drwy uwch-lwythwr y BBC

 

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y telerau, yr hysbysiad preifatrwydd, a’r hysbysiad preifatrwydd i bobl ifanc cyn cystadlu.

Ffurflenni cais . . .

CYNRADD

Ffurflen Gais – fersiwn PDF – Cynradd 2026

Ffurflen Gais – fersiwn Word – Cynradd 2026

 

UWCHRADD

Ffurflen Gais – fersiwn PDF – Uwchradd 2026

Ffurflen Gais –fersiwn Word – Uwchradd 2026

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk

neu ewch i wefan y BBC Radio Cymru – Sgwennu Stori Aled Hughes 2026

POB LWC!