Gwobrau Tir na n-Og 2020

Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.

Gwobrau Tir na n-Og 2020

Categori Cymraeg – Cynradd

Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros a’r darlunydd Jac Jones oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd. Llyfr llun a stori ar gyfer plant 3–7 oed yw hwn, yn ein hannog i barchu pawb ac i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni.

Categori Cymraeg – Uwchradd

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd oedd Byw yn fy Nghroen, a olygwyd gan Sioned Erin Hughes. Casgliad yw’r llyfr o brofiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r cyfranwyr i gyd yn bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, sy’n trafod afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

Categori Saesneg

Nofel Storm Hound gan Clare Fayers a gipiodd y brif wobr yn y categori cyfrwng Saesneg, stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.

Manylion pellach